Trosolwg o'r Cwrs
Mae ymchwil meddygaeth aildyfu ar flaen y gad o ran gofal iechyd arloesol sy'n newid bywydau. Nod ymchwilwyr yn yr Ysgol Feddygaeth yw defnyddio pŵer bôn-gelloedd, peirianneg meinweoedd, a bioddeunyddiau i helpu i adfer, atgyweirio neu ddisodli meinweoedd ac organau sydd wedi'u difrodi.
Bydd eich rhaglen yn cynnwys:
- Dysgu seiliedig ar ymarfer
- Tîm goruchwylio â goruchwylwyr enwebedig
- Byddwch yn cael budd o sgiliau'r gymuned academaidd ehangach
- Seminarau a gweithdai'r rhaglen
- Mynediad i'r prif gyfleuster ymchwil feddygol bwrpasol yng Nghymru
- Cydweithio â phartneriaid mewn diwydiant a byd busnes
Yn ystod eich cwrs, byddwch yn cael budd o'n cyfleusterau arbenigol uchel eu parch. Ein weledigaeth yw datblygu gwyddor feddygol drwy ymchwil ac arloesedd rhyngddisgyblaethol. Rydym yn ganolfan flaenllaw ar gyfer ymchwil feddygol ac yn enghraifft unigryw o gydweithio llwyddiannus rhwng y GIG, y byd academaidd a diwydiant yn y sector gwyddorau bywyd ac iechyd.
Mae gennym gysylltiadau cryf ag amrywiaeth o bartneriaid a chydweithwyr allanol, gan gynnwys y GIG; Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg; Bwrdd Iechyd Hywel Dda; cyngor ymchwil y DU; Llywodraeth Cymru a sawl cysylltiad cenedlaethol a rhyngwladol. Bydd y cysylltiadau hyn, ynghyd â'r sgiliau a'r rhinweddau y byddwch yn eu meithrin yn ystod eich gradd ymchwil yn cyfoethogi eich CV ac yn eich helpu i sefyll allan mewn marchnad gyflogaeth gystadleuol iawn i raddedigion.