Nid oes trefniadau parcio presennol ar gyfer myfyrwyr i barcio ar Gampws y Bae, Stiwdios Y Bae na Champws Singleton yn ystod oriau craidd sef rhwng 8am a 4pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener*, oni bai bod gennych drwydedd.
Bydd hawlenni 'y tu allan i oriau craidd' yn parhau i fod ar gael i fyfyrwyr am gost o £30 y flwyddyn, sy'n eu galluogi i barcio ar y Campws Singleton a maes parcio Stiwdios y Bae y tu allan i'r oriau craidd uchod (h.y. rhwng 4pm ac 8am, o ddydd Llun i ddydd Gwener ac ar y penwythnos).
Y tu allan i oriau craidd 8am tan 4pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, bydd angen i'r rhai sydd heb hawlen 'y tu allan i oriau craidd' (neu hawlen ddilys arall), gan gynnwys ymwelwyr, dalu i barcio ar y campws gan ddefnyddio'r ap neu’r peiriannau talu sydd ar gael.
*Bydd trwyddedau myfyrwyr i barcio ar y campws yn ystod oriau craidd yn parhau i fod ar gael i'r myfyrwyr hynny sy'n bodloni meini prawf penodol. Gweler y wybodaeth isod.
Cliciwch ar y penawdau isod i ddarganfod lle cewch chi barcio os nad oes gennych hawlen.
Cofiwch barcio mewn mannau penodedig ar y safle a pharcio mewn modd cyfrifol oddi ar y safle, yn enwedig mewn mannau yn y gymuned leol.
Ceisiadau am Drwydded Parcio (ar gyfer myfyrwyr cymwys)
Bydd ceisiadau ar gyfer myfyrwyr sy'n gymwys i gael hawlen barcio o fewn y meini prawf isod ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024/2025 yn agor ar 2 Medi 2024 drwy'r ddolen yn y llun.
I wneud cais:
- Cliciwch ar 'greu cyfrif'. Am resymau diogelwch, argymhellir defnyddio cyfrinair gwahanol i'r hyn a osodir ar eich mewngofnodi'r Brifysgol.
- Bydd e-bost gwirio yn cael ei anfon i'r cyfeiriad e-bost.
- Cliciwch ar y ddolen yn yr e-bost hwn a byddwch wedi creu eich cyfrif yn llwyddiannus.
- Ar ôl mewngofnodi, cliciwch ar 'New Permit Applications'.
- Dewiswch y drwydded rydych am wneud cais amdani a'i chwblhau, gan ddarparu tystiolaeth lle bo angen.
Prisio
O ganlyniad i daliadau anghymesur a chostau sylweddol isadeiledd meysydd parcio'r Brifysgol, rydym wedi cynnal arolwg o gostau hawlenni parcio yn ddiweddar. O ganlyniad, bydd cynnydd graddol ar gyfer rhai mathau o hawlenni dros y 3 blynedd nesaf. Yn bennaf, bydd hyn yn effeithio ar fyfyrwyr â hawlenni meddygol, hawlenni gofalwyr a hawlenni meithrinfa.
- Ym mlwyddyn 1 - o fis Medi 2024, bydd yr hawlenni hyn yn cynyddu o £44 i £100 y flwyddyn.
- Ym mlwyddyn 2 - o fis Medi 2025, bydd yr hawlenni hyn yn cynyddu i £200 y flwyddyn.
- Ym mlwyddyn 3 - o fis Medi 2026, bydd yr hawlenni hyn yn cynyddu i £300 y flwyddyn i gyfateb i'r gost bresennol ar gyfer hawlenni parcio i fyfyrwyr eraill.
Ar hyn o bryd, nid oes cost ar gyfer myfyrwyr sydd â Bathodyn Glas. Wrth symud ymlaen, bydd costau hawlenni’n cael eu hadolygu’n rheolaidd.
Cwestiynnau Cyffredin Myfyrwyr
Os oes gennych gwestiwn am drwyddedau parcio i fyfyrwyr, edrychwch ar ein rhestr o gwestiynau cyffredin.
Cwestiynau Cyffredin Parcio Myfyrwyr