TEITHIO MEWN CAR

Fel rhan o'n hymdrechion i fod yn brifysgol ddi-garbon erbyn 2035, rydyn ni'n annog myfyrwyr a staff i ddewis opsiynau teithio llesol a chynaliadwy pryd bynnag y bo modd. Ar gyfer y rhai sy'n byw bellach i ffwrdd, rydyn ni'n argymell y gwasanaethau bws lleol.

Os ydych chi'n fyfyriwr ac mae arnoch angen addasiadau rhesymol am resymau meddygol, os ydych chi'n byw y tu allan i ardal parth bysus Prifysgol Abertawe neu os oes gennych blant dibynnol yn ein meithrinfa, efallai byddwch yn gymwys am hawlen barcio.

SYLWER - Mae'r parcio ar y campws rhwng 8am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener (Oriau Craidd) ar gyfer deiliaid hawlenni 'talu i barcio' a hawlenni blynyddol yn unig. Gall ymwelwyr barcio ar y campws y tu allan i'r oriau craidd, a rhaid iddynt dalu i barcio.

BLE I BARCIO OS NAD OES GENNYCH HAWLEN

Cliciwch ar y penawdau isod i ddarganfod lle cewch chi barcio os nad oes gennych hawlen.

Cofiwch barcio mewn mannau penodedig ar y safle a pharcio mewn modd cyfrifol oddi ar y safle, yn enwedig mewn mannau yn y gymuned leol.