PARCIO I YMWELWYR

Rhwng 8am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, mae'r lleoedd parcio ar ein campysau ar gyfer deiliaid hawlenni 'talu i barcio' a hawlenni blynyddol yn unig.

O 1 Mehefin 2023, rydyn ni'n cyflwyno system Adnabod Rhifau Cerbydau yn Awtomatig, sy'n golygu y bydd unrhyw un sy'n parcio ar y campws heb hawlen ddilys rhwng 8am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn cael rhybudd cosb.

Os ydych chi'n mynd â rhywun i'r campws, bydd gennych chi 20 munud i wneud hyn heb orfod talu.

Dylai ymwelwyr y mae arnynt angen lle parcio anabl gysylltu â’r Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid ar (01792) 295405 (Campws Singleton) neu (01792) 606014 (Campws y Bae).

E-bostiwch: estates-customerservices@swansea.ac.uk 

PARCIO YN AGOS I'R CAMPWS

Mae parcio ar gael yn agos i'n campysau, gweler y wybodaeth isod ar gyfer pob campws:

Parking arrangements for visitors

Rhwng 8am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, os nad oes modd i chi ddefnyddio'r cyfleusterau parcio cyfagos am unrhyw reswm, dylech chi siarad â'r unigolyn neu'r cyfleuster rydych chi'n ymweld ag ef. Efallai bydd ganddynt drefniadau arbennig ar gyfer eu hymwelwyr:

Os ydych chi'n gontractwr, siaradwch â'ch cyswllt yn y Brifysgol neu ewch i'n tudalennau gwe i gontractwyr.

PARCIO AR Y CAMPWS Y TU ALLAN I ORIAU

Parcio ar y campws, gyda’r hwyr yn ystod yr wythnos rhwng 4pm ac 8am, a 4pm ar ddydd Gwener tan 8am ar ddydd Llun*.

Gyda'r hwyr yn ystod yr wythnos (o 4pm tan 8am y bore canlynol) ac ar y penwythnos (o 4pm ar ddydd Gwener tan 8am ar ddydd Llun ), caiff ymwelwyr barcio ar y campws. Fodd bynnag, o 1 Mehefin bydd yn ofynnol i ymwelwyr dalu i barcio gan ddefnyddio'r ap neu'r peiriannau talu.Bydd unrhyw un sy'n parcio heb hawlen ddilys neu heb dalu'r ffi gywir ar gyfer ei amser yn parcio ar y campws, yn cael hysbysiad cosb.

*Mae'n bwysig cofio bod y lleoedd parcio ar y campws ar gyfer deiliaid hawlenni 'talu i barcio' a hawlenni blynyddol y Brifysgol yn unig rhwng 8am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

COSTAU PARCIO AR Y CAMPWS

Costau parcio ar y campws:

  • £2.00 am 4 awr o adeg talu
  • £3.50 am 24 awr (nid yw'n cynnwys 8am i 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener pan nad oes parcio ar y campws ar gyfer y rhai sydd heb hawlen)
  • £2 ar gyfer parcio dros nos rhwng 4pm ac 8am

Gallwch chi ddarllen y manylion llawn gan gynnwys Cwestiynau Cyffredin yma.

HYSBYSIADAU COSB

Mae Prifysgol Abertawe'n gweithredu Cynllun Rheoli Parcio a weinyddir gan Total Parking Solutions er mwyn rheoli mynediad i gerbydau heb awdurdod a pharcio amhriodol.  Mae rheolaeth o'r fath yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y campws yn gweithredu mewn modd diogel ac effeithlon. Mae hefyd yn helpu i wella diogelwch a mynediad a sicrhau bod lleoedd ar gael  i ddeiliaid hawlenni.