Parcio i Gontractwyr

O 1 Mehefin 2023, mae system Adnabod Rhifau Awtomatig (ANPR) ar waith ar Gampysau Bae a Pharc Singleton.

Rhwng 8am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, mae parcio ar y campws ar gyfer deiliaid trwyddedau talu i barcio yn unig.

Yn ystod nosweithiau yn ystod yr wythnos (o 4pm tan 8am y bore wedyn) a thros y penwythnos (o 4pm ddydd Gwener, hyd at 8am ddydd Llun), gall ymwelwyr barcio ar y campws. Fodd bynnag, o 1 Mehefin bydd gofyn i ymwelwyr â'r campws dalu i barcio gan ddefnyddio'r ap neu fetrau talu. Bydd unrhyw un sy'n parcio heb drwydded ddilys neu heb dalu'r ffi gywir i dalu am hyd eu harhosiad, yn derbyn hysbysiad tâl parcio.

Dylai contractwyr sy'n gweithio ar brosiectau ar y campws drafod eu hopsiynau parcio ceir gyda'r unigolyn/adran Brifysgol (e.e. Swyddog Prosiect neu Wasanaeth Technegol) y maent yn gweithio iddo.

Os nad ydych yn siŵr â phwy i gysylltu neu os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill am barcio ar y campws, cysylltwch â ni: estates-carparking@swansea.ac.uk

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am barcio i ymwelwyr yma.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gontractwyr yma.