Mae parcio ar y campws yn ystod oriau craidd (8am tan 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ac ar y penwythnos (4pm ar ddydd Gwener tan 8am ar ddydd Llun) yn gyfyngedig i ddeiliaid hawlenni blynyddol a deiliaid hawlenni talu wrth barcio.
Os oes gennych chi hawlen ar gyfer parcio y tu allan i oriau craidd (sydd ar gael am £30 y flwyddyn), gallwch barcio ar y campws y tu allan i oriau craidd rhwng 4pm ac 8am o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac o 4pm ar ddydd Gwener tan ddydd Llun am 8am. Does dim angen i chi dalu i barcio; bydd eich hawlen y tu allan i oriau craidd yn cynnwys hyn.
Os nad oes gennych chi hawlen i barcio y tu allan i oriau craidd, gallwch barcio ar y campws wedi 4pm a than 8am y bore canlynol yn ystod dyddiau’r wythnos, a rhwng 4pm ar ddydd Gwener ac 8am ar ddydd Llun, ar yr amod eich bod chi’n talu i barcio gan ddefnyddio’r ap neu’r peiriannau talu am barcio.
Gellir rhoi mynediad i gerbydau deiliaid hawlenni dilys eraill (e.e. sy’n bodloni meini prawf meddygol penodol neu lle mae angen addasiadau rhesymol) i ddod i’r campws yn ystod oriau craidd a dylent gyfeirio at amodau defnyddio eu hawlen.
Sylwer y byddwn yn rhoi tocyn parcio os byddwch chi'n dod â'ch cerbyd i'r campws neu'n ei adael ar y campws rhwng 8am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, hyd yn oed os byddwch chi wedi talu i barcio. Bydd y camerâu ANPR a osodir ar y campws yn nodi nad yw'r cerbyd wedi’i awdurdodi i fod ar y safle rhwng 8am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.