Rydym yn brifysgol sy'n cyflwyno addysgu llawn ysbrydoliaeth, wedi'i gefnogi gan ymchwil o'r radd flaenaf a rhagoriaeth mewn arfer proffesiynol. Mae ein gweledigaeth yn un sy'n galluogi ein myfyrwyr a'n cydweithwyr i ragori.

Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn dod ag arbenigwyr ynghyd mewn dysgu ac addysgu i gefnogi staff i gyflwyno profiad dysgu cynhwysol ac ysgogol i'r holl fyfyrwyr. O addysg efelychu ar gyfer addysg gofal iechyd i arbenigwyr ym maes diwygio’r cwricwlwm, rydym yn cefnogi amrywiaeth o arferion, prosiectau a mentrau addysg ddigidol i wella profiad y myfyrwyr yn unol â'n Strategaeth Dysgu ac Addysgu.

Sut ryfym yn gwneud hyn?

Mae Academi Dysgu ac Addysgu Abertawe (SALT) yn gweithio gyda staff academaidd a phroffesiynol ar draws y Brifysgol i wella addysgu, dysgu ac asesu gan gefnogi ein profiad myfyrwyr o safon.

Drwy drafodaeth a myfyrio, rydym yn ceisio sicrhau bod ein haddysgu'n datblygu'n barhaus, bod ein hathrawon bob amser yn cael eu hysbrydoli a bod ein myfyrwyr yn cael cyfleoedd dysgu cyfoethog

Car tegan ar fap ar Ewrop

Llwybrau datblygu a gefnogir i staff

Mae meddu ar gymrodoriaeth Advance HE yn gydnabyddiaeth ffurfiol bod eich arfer proffesiynol yn bodloni gofynion Fframwaith Safonau Proffesiynol 2023. Caiff staff eu cefnogi yn ystod y broses cyflwyno cais i ddangos eu hymrwymiad a'u cyfraniad at addysgu, dysgu a phrofiad y myfyrwyr drwy fyfyrio, ymchwil a datblygu.

Cymrodoriaeth AAU
Person yn gwisgo googles digidol

Dysgu a gefnogir i athrawon

Fel aelod o staff ym Mhrifysgol Abertawe, byddwch yn elwa o brofiad dysgu cyson ac o safon, sy'n cynnwys y defnydd o dechnoleg ddynodedig i'ch helpu i wireddu eich potensial llawn.

Mae cydbwysedd priodol rhwng addysgeg, gofod a thechnoleg yn galluogi addysgu effeithiol. Mae'r tîm datblygu dysgu â chymorth technoleg yn ystyried dysgwyr i fod yn ganolog i'r broses addysgol, lle mae pob amgylchedd dysgu a phob ymagwedd at gymorth ac arweiniad i fyfyrwyr yn dechrau gydag addysgeg sy'n canolbwyntio ar y dysgwr. Pan fydd yn cael ei defnyddio'n ofalus ac yn briodol, gall technoleg wella dysgu, addysgu ac asesu effeithiol.

Graddedigion yn taflu eu hetiau i'r awyr

Darparu rhaglen addysgu o safon i staff newydd

Mae Tystysgrif Ôl-raddedig Addysgu mewn Addysg Uwch Prifysgol Abertawe ar gyfer staff Prifysgol Abertawe sy'n dymuno archwilio a datblygu eu haddysgu. Yn ogystal, mae'n un o amodau'r cyfnod prawf i'r rhai hynny sydd â llai na 3 blynedd lawn o addysgu mewn addysg uwch yn y DU.

Myfyrwyr mewn darlith

Datblygiad Proffesiynol Parhaus

Mae Academi Dysgu ac Addysgu Abertawe (SALT) yn cyflwyno ystod o gyrsiau hygyrch, cynaliadwy ac ysgogol o ddatblygiad proffesiynol parhaus i'r holl athrawon. Mae hyn yn cynnwys darpariaeth fywiog ac y cyd o ddigwyddiadau byw cynlluniedig ac achlysurol drwy gydol y flwyddyn, adnoddau hunangyfeiriedig a chyrsiau i gefnogi datblygiad dysgu ac addysgu.

Beth arall sydd ar gael i'ch cefnogi chi?

Ceir sawl tîm sydd â chylchoedd gorchwyl i ddarparu'r sgiliau a'r profiad i staff er mwyn iddyn nhw arloesi a ffynnu fel athrawon.

Pobl yn siarad o amgylch bwrdd

Ymagweddau arloesol i sicrhau a gwella ansawdd

Mae'r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd yn cyflwyno ymagwedd arloesol sy'n arwain y sector i sicrhau ansawdd a'i wella, gan alluogi Abertawe i gyflawni a chynnal profiad myfyrwyr ac amgylchedd addysgu rhagorol.

Gwasanaethau Ansawdd Academaidd
Pobl yn cerdded ar draeth

Cefnogi Myfyrwyr o wahanol Gefndiroedd

Gan gynnig cymorth academaidd a bugeiliol cynhwysol ar gyfer ein poblogaeth amrywiol o fyfyrwyr, mae Academi Cynwysoldeb Abertawe yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws Abertawe i sicrhau bod dysgu, addysgu ac asesu cynhwysol yn hygyrch i bawb.

Academi Cynwysoldeb Abertawe
Llyfrgell Prifysgol Abertawe

Darparu gwasanaethau gwybodaeth o safon i fyfyrwyr a staff

O gaffael adnoddau'r llyfrgell i ddarparu cymorth i lyfrgellwyr pwnc a chreu amgylcheddau astudio arbenigol, mae ein timau'r Llyfrgelloedd a Chasgliadau yn hyrwyddo ac yn cefnogi rhagoriaeth addysgu drwy gydweithio â chydweithwyr ar draws amrywiaeth o swyddogaethau, gwasanaethau a thechnolegau.

Llyfrgelloedd a Chasgliadau
Cynnwys llyfrgelloedd a chyfathrebiadau ysgolheigaidd

Myfyrwyr yn defnyddio cyfrifiadur

Gan weithio mewn partneriaeth â staff academaidd i sicrhau bod myfyrwyr a staff yn meddu ar yr holl adnoddau ffisegol a digidol gofynnol i gyflwyno cyrsiau'n effeithiol a chynnig profiad addysgu hwylus i'n holl fyfyrwyr.

Llyfrgelloedd ac Archifau
Llyfrgellydd benywaidd

Academyddion Cefnogi

Mae gan bob cyfadran lyfrgellwyr cyswllt academaidd a llyfrgellwyr pwnc sy'n meddu ar yr arbenigedd i gynorthwyo gyda'ch cyrsiau a dysgu ein myfyrwyr. Mae gan y tîm swyddogaethau cefnogi gwahanol, o greu a diweddaru rhestrau darllen i gynnwys sesiynau sgiliau academaidd yn y cwricwlwm.

Cymorth Academaidd Cyfadrannau
Archif Richard Burton

Dathlu Diwylliant

Mae ein timau Casgliadau Diwylliannol, gan gynnwys y Ganolfan Eifftaidd, y Casgliad Hanes Cyfrifiadura, Archifau Richard Burton a Llyfrgell Glowyr De Cymru yn cynnig mynediad at adnoddau cyfoethog a phrofiadau dysgu sy'n seiliedig ar wrthrychau sy'n unigryw i Abertawe.

Casgliadau Diwylliannol