Digwyddiadau ac Archebu
YMDDIHEURIADAU - CYFIEITHIADAU LLAWN YN DOD YN FUAN
Click to download the 'at a glance' festival programme
Trwy gydol yr ŵyl bydd gennym hefyd orsafoedd creadigol galw heibio AM DDIM (dim angen cadw lle) rhwng 12pm a 3pm. Bydd teuluoedd yn gallu cymryd rhan mewn lliwio, ysgrifennu straeon, gwneud nodau tudalen, darlunio a phaentio wynebau! Hefyd, bydd 'Llwybr y Dewin o Oz!'
Dydd Sadwrn 7fed Hydref
Oriel Warws
10:00yb-10:45yb | 'The Tigers' Tale' - Catherine Barr
10:00yb-10:45yb - Oriel Warws
Ystod Oedran: Perffaith ar gyfer plant 9+
Ymunwch â Catherine Barr wrth iddi eich tywys drwy straeon gwir anhygoel teigrod Gwarchodfa Teigrod Panna.
Wedi ymgyrchu dros Greenpeace ers blynyddoedd, mae Catherine Barr yn newyddiadurwr hyfforddedig a ddaeth yn olygydd yn yr Amgueddfa Hanes Naturiol. Mae Catherine yn ysgrifennu llyfrau ffeithiol sydd â'r nod o ysbrydoli plant i archwilio byd natur, ei ddeall a gweithredu i'w warchod. Mae Catherine yn awdur 35 o lyfrau. Mae hi'n Noddwr Darllen balch i ysgol leol ac yn ymweld ag ysgolion ledled y wlad i gynnal gweithdai wedi'u hysbrydoli gan y materion sy'n cael eu harchwilio yn ei llyfrau.
*Sylwer: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
11:15yb-12:00yp | 'Daydreams and Jellybeans' gan Alex Wharton
11:15yb-12:00yp - Oriel Warws
Amrediad oedran: Yn berffaith i blant oedran ysgol gynradd
Byddwch yn barod am fore llawn barddoniaeth am fferins jeli sydd wedi’u hanghofio a synfyfyrdodau disglair gyda Bardd Plant Cymru, Alex Wharton.
Gan gynnwys y gerdd arallfydol ‘Star Control' a’r darn doniol 'Hector the Horrible Hedgehog', mae gan Daydreams and Jellybeans gerddi i bawb.
Mae’r rhain yn berffaith am wneud i chi chwerthin yn dawel bach (neu’n uchel) i chi eich hun, am berfformio i’ch ffrindiau a’ch teulu neu am danio eich creadigrwydd.
*Sylwer: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
12:30yp-1:15yp | 'Britain’s Smartest Kid..On Ice!' & 'Britain’s Biggest Star..Is Dad?' – Ivor Baddiel
12:30yp-1:15yp - Oriel Warws
Amrediad oedran: 8 - 12 oed
Byddwch yn barod am lawer o hwyl, chwerthin, dirgelwch ac antur gyda’r awdur comedi ar gyfer y teledu a’r radio, Ivor Baddiel - dyma rywun sy’n gyfarwydd iawn â bywyd cefn llwyfan hoff sioeau doniau Prydain!
Mae angen i’r bachgen ifanc, Marsham, oroesi cystadleuaeth deledu lle maen nhw’n profi mwy na dim ond gwybodaeth gyffredinol , maen nhw’n profi popeth...
Ac mae rhywun yn bygwth dinistrio Seren Newydd Fwyaf Prydain, sef hoff sioe ddoniau’r wlad ar y teledu!
*Sylwer: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
1:45yp-2:30yp | 'The Magician's Daughter' - Caryl Lewis
1:45yp-2:30yp - Oriel Warws
Amrediad oedran: 8 - 12 oed
Paratowch ar gyfer ychydig o hud, swynion a llawer o hwyl gydag awdur arobryn Seed, Caryl Lewis a fydd yn trafod ei llyfr newydd sbon, The Magician's Daughter, sy'n dathlu pŵer cymuned, gobaith gydag ychydig o hud a lledrith.
Dewch i gwrdd ag Abby a'i thad ar ôl un sioe hud ddoniol ond trychinebus yn ormod, mae'n penderfynu rhoi'r gorau i fyd adloniant. Tan y diwrnod mae Abby yn canfod hen lyfr swynion dirgel a llychlyd ymhlith pethau ei mam. Bu mam yn swynwr anhygoel erioed ac wrth i Abby ymarfer, mae pob swyn newydd yn dechrau dod â rhyfeddod a llawenydd i'r gymuned gyfan. Ond does dim byd yn para am byth, fodd bynnag, ac ar ôl pob perfformiad cyhoeddus mae swyn arall yn diflannu o’r llyfr. Felly, cyn i’r hud ddiflannu am byth, mae Abby a’i thad yn cynllunio un sioe olaf ysblennydd ond amhosib... . .
Ymunwch â Caryl wrth iddi gyflwyno Abby a'i thad, i drafod sut y gwnaeth hi feddwl am y stori dwymgalon hon gan ein hatgoffa ni oll am bwysigrwydd hud a lledrith.
*Sylwer: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
3:00pm-3:45pm | 'The Blue Book of Nebo' - Manon Steffan Ros
3:00pm-3:45pm - Warehouse Gallery
Age Range: 12+ years
Winner of the Yoto Carnegie Medal for Writing 2023
Dylan was six when The End came, back in 2018; when the electricity went off for good, and the ‘normal’ 21st-century world he knew disappeared. Now he’s 14 and he and his mam have survived in their isolated hilltop house above the village of Nebo in north-west Wales, learning new skills, and returning to old ways of living. Despite their close understanding, the relationship between mother and son changes subtly as Dylan must take on adult responsibilities. And they each have their own secrets, which emerge as, in turn, they jot down their thoughts and memories in a found notebook – the Blue Book of Nebo.
*Please note: Event delivered in English
4:15yp-5:00yp | The Dark & Dangerous Gifts of Delores Mackenzie; The Shadow Order; Honesty & Lies - dewch i gwrdd ag Yvonne Banham, Rebecca F. John ac Eloise Williams
4:15yp-5:00yp - Oriel Warws
Amrediad oedran: 10 - 14 oed
Dewch i ymuno ag Yvonne, Rebecca ac Eloise wrth iddynt rannu straeon am gyfeillgarwch, cyfrinachau a digwyddiadau dirgel ac am gymeriadau sy’n ceisio achub eu hunain a phobl eraill.
Ydy Delores MacKenzie wir yn gallu gwthio’r meirwon yn ôl?
All y ffrindiau gorau, Teddy, Betsy ac Effie achub dinas Copperwell a datgelu’r gwir?
All Honesty ac Alice ymddiried yn ei gilydd mewn byd dialgar a pheryglus?
*Sylwer: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
Ystafell Ocean
10:00yb-10:45yb | 'Tapper Watson and Sleeping Stones' - Dewch i gwrdd â Claire Fayers a Beatrice Wallbank!
10:00yb-10:45yb - Ystafell Ocean
Amrediad oedran: 9 - 12 oed
Ydych chi’n barod am antur? Dewch i gwrdd â Claire Fayers a Beatrice Wallbank wrth iddynt archwilio i fydoedd mythau, hud a lledrith a phethau anghyffredin. Byddant yn eich cyflwyno chi i Gruff, Matylda, Tapper Watson a rhai cimychiaid milain!
Claire Fayers yw awdur Tapper Watson and the Quest for the Nemo Machine, sef cyfuniad o chwedloniaeth Groegaidd a ffuglen wyddonol lle mai Abertawe yw prifddinas y Ddaear!
Yn The Sleeping Stones gan Beatrice Wallbank, mae Gruff a’i ffrind newydd, Matylda, yn byw ar ynys fechan oddi ar arfordir Cymru, lle mae chwedlau’n dod yn fyw ac mae storm yn cael ei chymell gan ddicter hudolus hynafol.
Dan gadeiryddiaeth Rebecca F. John
*Sylwer: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
11:15yb-12:00yb | Writing Workshop with award-winning author Liz Hyder
11:15am-12:00pm - Ocean Room
Age Range: 10-12 years
Writing Workshop with award-winning author Liz Hyder
Winner of the Waterstones Children's Book Older Fiction Award 2020 for Bearmouth
*Please note: Event delivered in English
12:30yp-1:15yp | 'The Dog Squad' - Clara Vulliamy
12:30yp-1:15yp - Ystafell Ocean
Amrediad oedran: 7 – 11 oed
Dewch i ymuno â’r awdur nodedig Clara Vulliamy wrth iddi hi gyflwyno Eva, Simone ac Ash: ffrindiau gorau, darpar ohebyddion a sêr cyfres newydd o lyfrau hyfryd am deulu, ffrindiau a CHŴN! Yn y digwyddiad gwych hwn, bydd Clara yn cyflwyno rôl yr awdur a’r darlunydd ac yn annog plant i gredu eu bod nhw’n gallu dyheu am wneud hyn, gan gynnig ymarfer hwyl mewn cyd-ddarllen a chyd-ddarlunio sy’n cynnwys The Dog Squad:The Newshound. Hefyd, bydd cyfle i chi ddechrau meddwl wrth i Clara eich helpu chi i greu eich papur newydd EICH HUN a hyd yn oed eich helpu i ddysgu sut i ddatrys dirgelwch! Clara yw awdur y llyfrau poblogaidd iawn MARSHMALLOW PIE a DOTTY DETECTIVE hefyd.
*Sylwer: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
1:45yp-2:30yp | Chwedlau Gyda Bardd Plant Cymru, Nia Morais
1:45yp-2:30yp - Ystafell Ocean
Ystod oedran: 7-11 oed
Yn y sesiwn hon, bydd Bardd Plant Cymru, Nia Morais, yn darllen straeon Cymraeg a ysgrifennwyd ganddi ar y cyd â'r platfform llythrennedd digidol Darllen Co. Mae'r straeon byrion difyr hyn ar gyfer plant 7 i 11 oed a byddan nhw'n trafod caredigrwydd, cydweithredu, chwilfrydedd a chynwysoldeb. Am ragor o wybodaeth am Nia, ewch i wefan Llenyddiaeth Cymru. Am fwy o wybodaeth am nodau Darllen Co, ewch i www.darllenco.cymru.
*Sylwer: Digwyddiad yn cael ei gyflwyno yn Gymraeg
3:00yp-3:45yp | Bees, snaffles and flamingos: Adrodd straeon, Rhigymau a Darlunio gyda Helen a Thomas Docherty
3:00yp-3:45yp - Ystafell Ocean
Amrediad oedran: 3 – 10 oed
Dewch i gael hwyl a sbri gyda Helen a Thomas Docherty wrth iddynt eich cyflwyno chi i snafflau sy’n sglaffio sgriniau, gwenyn sy’n caru’r byd, dinas sy’n llawn anifeiliaid gwyllt ac efallai rhywun sydd fel chi! Byddwch yn barod i ymuno a helpu Helen a Thomas wrth iddynt odli a darlunio!
*Sylwer: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
4:15yp-5:00yp | 'Y Boced Wag': Beth Sy'n Eich Gwneud Chi'n Hapus? Adrodd Storïau, Ysgrifennu ac Arlunio gydag Eurgain Haf
4:15yp-5:00yp - Ystafell y Môr
Ystod oedran: 3-7 oed
Mae Cadi'r cangarw yn teimlo'n drist. Mae ei phoced yn wag ac mae eisiau ei llenwi. I ffwrdd â hi felly ar antur fawr i chwilio am ei hapusrwydd gan ddod ar draws anifeiliaid sydd eisiau ei helpu a'i thwyllo..
*Sylwer: Digwyddiad yn cael ei gyflwyno yn Gymraeg
Gweithdy Glannau
10:00yb-10:45yb - Dewch o hyd i’ch pŵer cudd gyda Fidelma Meehan!
10:00yb-10:45yb - Gweithdy Glannau
Amrediad oedran: 10 oed a hŷn (GALW HEIBIO: DOES DIM ANGEN CADW LLE)
Sut allwch chi greu newid a byd gwell i bawb? Dewch draw i’r drafodaeth a’r sesiwn adrodd stori ryngweithiol hon i ddarganfod eich pŵer cudd! Wedi’i hysbrydoli gan fywyd Eglantyne Jebb, sef cyd-sefydlydd Achub y Plant, ar y cyd â’i chwaer Dorothy Buxton.
*Sylwer: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
11:15yb-12:00yp | 'Through the Eyes of Me' a 'Through the Eyes of Us':Sesiwn adrodd straeon gyda Jon Roberts
11:15yb-12:00yp - Gweithdy Glannau
Amrediad oedran: 4 - 7 oed
Dewch draw i gwrdd â Kya a’i ffrind gorau Martha.Dewch i ddarganfod pam mae Kya a Martha’n gwneud pethau penodol ond nad ydynt yn hoffi rhai pethau er eu bod yn dwlu ar rai pethau eraill.
*Sylwer: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
12:30yp-1:15yp | Sesiwn Adrodd Straeon, Darlunio a Chrefftau gyda Lauren Ace a Jenny Løvlie
12:30yp-1:15yp - Gweithdy Glannau
Amrediad oedran: Teuluoedd a phlant hyd at 8 oed
Dewch draw i ddigwyddiad cyffrous am gyfeillgarwch gyda’r awdur Lauren Ace a’r darlunydd Jenny Løvlie. Gan gynnwys straeon o’u llyfrauThe Girls a The Boys, ynghyd â chyfle i chi greu eich cardiau a’ch breichledau cyfeillgarwch eich hun, bydd llawer o hwyl i’r teulu cyfan!
Yn The Girls, mae pedair merch ifanc yn cwrdd o dan goeden afalau ac yn meithrin perthynas sy’n tyfu wrth iddynt rannu cyfrinachau, breuddwydion, pryderon a chynlluniau.
Yn The Boys, gallwch chi ddilyn anturiaethau Tam, Rey, Nattie a Bobby – pedwar bachgen sy’n rhannu cyfeillgarwch a fydd yn para gydol oes.
*Sylwer: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
1:45yp-2:30yp - Dewch o hyd i’ch pŵer cudd gyda Fidelma Meehan!
1:45yp-2:30yp - Gweithdy Glannau
Amrediad oedran: 10 oed a hŷn (GALW HEIBIO: DOES DIM ANGEN CADW LLE)
Sut allwch chi greu newid a byd gwell i bawb? Dewch draw i’r drafodaeth a’r sesiwn adrodd stori ryngweithiol hon i ddarganfod eich pŵer cudd! Wedi’i hysbrydoli gan fywyd Eglantyne Jebb, sef cyd-sefydlydd Achub y Plant, ar y cyd â’i chwaer Dorothy Buxton.
*Sylwer: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
3:00yp-3:45yp | 'Cyfrinach Noswyl Nadolig' - Cyfrinachau Arbennig a Charedigrwydd gydag Eurgain Haf
3:00yp-3:45yp - Gweithdy Glannau
Ystod oedran: 7-11 mlynedd
Dyma stori Nadoligaidd hyfryd sy'n sôn am gyfrinach. Wyddoch chi fod yr anifeiliaid i gyd yn gallu siarad ar Noswyl Nadolig? Maen nhw'n helpu ffoadur amddifad i ddod o hyd i gartref ym Methlehem, Cymru. Stori gyfoes a pherthnasol, ac iddi wers bwysig, sef sut i fod yn garedig tuag at bawb, o bob cefndir a hil.
*Sylwer: Digwyddiad yn cael ei gyflwyno yn Gymraeg
4:15yp-5:00yp | 'Llyfr Glas Nebo' - Manon Steffan Ros
4:15yp-5:00yp - Gweithdy Glannau
Ystod Oedran: 12+ oed
Enillodd y cyfieithiad Saesneg, The Blue Book of Nebo, Fedal Yoto Carnegie am Ysgrifennu 2023
Roedd Siôn yn chwech oed pan ddaeth Y Terfyn, nôl yn 2018; pan ddiffoddwyd y trydan am byth, a phan ddiflannodd byd ‘normal’ cyfarwydd yr 21ain ganrif. Bellach mae’n 14 oed ac mae ef a’i fam wedi goroesi yn eu tŷ anghysbell ar ben bryn uwchben pentref Nebo yng ngogledd-orllewin Cymru, gan ddysgu sgiliau newydd, a dychwelyd i hen ffyrdd o fyw. Er gwaethaf eu cysylltiad clos, mae’r berthynas rhwng y fam a’r mab yn newid yn gynnil wrth i Siôn orfod ysgwyddo cyfrifoldebau oedolyn. Mae gan bob un ohonyn nhw eu cyfrinachau eu hunain, sy’n dod i’r amlwg wrth iddyn nhw gofnodi eu meddyliau a’u hatgofion mewn llyfr nodiadau a ganfuwyd – Llyfr Glas Nebo.
*Sylwer: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Gymraeg
DIGWYDDIAD YSGOLION
1:00yp-3:00yp | 'Hwb Teen' (Digwyddiad Ysgolion) - 'Ysgrifennu ffuglen fer' gan Laura Morris a Brennig Davies
1:00yp-3:00yp - DIGWYDDIAD YSGOLOION - Ystafell Dockside
Amrediad Oedran: 14-18 oed
Ymunwch â'r awduron straeon byr arobryn o Gymru, Laura Morris a Brennig Davies, am brynhawn wedi'i neilltuo ar gyfer ysgrifennu straeon byr. Bydd Laura a Brennig yn rhannu eu hawgrymiadau gorau a rhai o'u straeon eu hunain cyn iddyn nhw eich tywys chi drwy ysgrifennu eich stori eich hun. Bydd cyfle i chi gyflwyno eich stori eich hun ar ôl y gweithdy i'w chyhoeddi ar-lein.
Os oes gennych chi ddiddordeb yn athro, anfonwch e-bost at: cultural-institute@swansea.ac.uk i gadw lle i'ch myfyrwyr. Nifer cyfyngedig o lefydd ar gael.
*Sylwer: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
CLWB SADWRN STORYOPOLIS (SESIWN GALW I MEWN)
12:00yp-2:00yp | Clwb Sadwrn Storyopolis - (Sesiwn Galw Heibio) Gweithdy Zine gyda'r arlunydd Bill Taylor-Beales
12:00yp-2:00yp
Ystod Oedran: 8-16 (GALW I MEWN: DIM ANGEN ARCHEBU)
Clwb Sadwrn Storyopolis - (Sesiwn Galw Heibio) Gweithdy Zine gyda'r arlunydd Bill Taylor-Beales
AM DDIM a POB Deunydd wedi'i gyflenwi.
*Sylwer: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
Dydd Sul 8fed Hydref
Oriel Warws
10:00yb-10:45yb | 'The Star Whale': Cerddi, Straeon a Sesiynau Darlunio Byw gyda Nicola Davies a Petr Horáček
10:00yb-10:45yb - Oriel Warws
Amrediad oedran: 7+ oed
Dewch i ymuno â’r enillwyr gwobrau rhyngwladol, yr awdur Nicola Davies a’r darlunydd Petr Horáček, a chael gwybod am hud a lledrith yr anifeiliaid a’r creaduriaid yn The Star Whale.
Darganfod pangolin wrth iddi nosi, hedfan ar gefn ystlum, ymweld â llew a chlywed am ei sefyllfa; rhoi cynnig ar gwlwm tafod gwyddor y gwyfyn, cyfarfod â chythreuliaid Tasmania ar noson allan ar yr ynys neu freuddwydio am y ci pum coes a’r gath tair coes! Yna dysgu am greadur anferthol go iawn o’r enw’r Titanosawrws a selacanthiaid anhygoel. Efallai y gwelwch chi las y dorlan a rhyfeddu ar gampwaith ei liw a’i lun, a gweld sut mae bywyd gwyllt yn dod i’r amlwg yn ein trefi dros nos.
Llonnwch eich calon wrth i chi wylio Petr yn ail-greu’r darluniadau’n fyw!
*Please note: Event delivered in English
11:15yb-12:00yp | 'Where the River Takes Us' - Lesley Parr
11:15yb-12:00yp - Oriel Warws
Ystod Oedran: Perffaith ar gyfer plant 9+
Mae Where the River Takes Us yn antur hanesyddol sy'n digwydd yn ystod y 1970au yn erbyn cefndir o streiciau'r glowyr, gan awdur hynod boblogaidd The Valley of Lost Secrets, sy'n berffaith i'r rhai ohonoch sy'n hoffi gwaith Emma Carroll, Phil Earle a Michael Morpurgo. Gydag adleisiau o Stand By Me, mae'r antur gradd ganol gyffrous hon yn rhoi i ni bortreadau hynod fanwl o'r cymeriadau ynghyd â phlot sy'n mynnu ein bod yn troi'r dudalen gyda themâu sy'n gyfarwydd i bawb, gan ei gwneud hi'n un o'r straeon ffuglen hanesyddol gorau a hollol fytholwyrdd ar y farchnad heddiw. Mae Lesley Parr, enillydd gwobr Llyfr y Flwyddyn Cymru 2023 yn y categori plant a phobl ifanc, yn rhannu â ni'r ysbrydoliaeth y tu ôl i'r stori, sut aeth ati i greu ei chymeriadau a sut brofiad oedd eu hanfon ar eu taith i chwilio am gath wyllt ryfeddol - Bwystfil Blaengarw!
*Sylwer: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
12:30yp-1:15yp | 'Finding Bear' - Hannah Gold
12:30yp-1:15yp - Oriel Warws
Amrediad oedran: Yn berffaith i blant sy’n 9 oed a hŷn
Dewch i ymuno â’r awdur hynod boblogaidd Hannah Gold, wrth iddi sgwrsio ag Elaine Canning, mewn antur wefreiddiol i’r Arctig wrth iddi hi eich cyflwyno chi i’w llyfr newydd sbon, Finding Bear, sef y dilyniant mawr ei ddisgwyl i’r llyfr arobryn The Last Bear (enillydd Gwobr Llyfrau Plant Waterstones 2022 a Gwobr Llyfrau Blue Peter 2022).
Gwisgwch eich esgidiau eira amryliw a theithio ar draws rhewlifoedd rhyfeddol a ffiordau peryglus, gan fynd ar daith gyda hysgwn, cael eich syfrdanu gan Oleuni'r Gogledd a gorau oll, gwrdd â'r cenau arth wen mwyaf annwyl.
Mae’r digwyddiad hwn yn berffaith i bobl sy’n caru anifeiliaid a bydd yn eich ysbrydoli chi’n bendant. Yr unig gwestiwn yw... . ydych chi'n barod i chwilio am yr arth?
*Sylwer: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
1:45yp-2:30yp | 'The Raven Throne' a 'Fablehouse': Stephanie Burgis a E.L. Norry
1:45yp-2:30yp - Oriel Warws
Ystod Oedran: Perffaith ar gyfer plant 8+
Ymunwch â dau awdur llyfrau ffantasi gwych ar gyfer darllenwyr gradd ganol, Stephanie Burgis ac EL Norry, a fydd yn trafod popeth hudolus a rhyfeddol yn y panel hwn na ddylech ei golli. Teithiwch drwy fydoedd hud a lledrith The Raven Throne a Fablehouse, gan ddarganfod mwy am y lleoedd hudolus y tu hwnt.
Mae Stephanie Burgis yn byw yng Nghymru gyda'i gŵr, eu dau fab a'u cath frech, wedi'u hamgylchynu gan fynyddoedd a chestyll. Mae hi'n ysgrifennu anturiaethau ffantasi llawn hwyl i ddarllenwyr gradd ganol, a'i gwaith diweddaraf yw'r drioleg The Dragon with a Chocolate Heart a The Raven Heir. Mae gan E L Norry radd BA (Anrh.) mewn Ffilm a gradd MA mewn ysgrifennu i'r sgrîn. Cafodd ei magu yn y system ofal yng Nghaerdydd, ond bellach mae hi'n byw yn Bournemouth gyda'i gŵr a'i theulu ac yn gweithio yno. Mae llyfrau blaenorol Emma yn cynnwys Son of the Circus (Scholastic 2019) a gafodd ei gynnwys ar restr fer y Diverse Book Awards, ac Amber Under Cover (OUP, 2021).
*Sylwer: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
3:00yp-3:45yp | 'Do Bears Poop in the Woods?' - Huw Lewis-Jones
3:00yp-3:45yp - Oriel Warws
Amrediad oedran: 6 oed a hŷn
Fyddech chi'n gwybod y gwahaniaeth rhwng panda ac arth wen? Neu rhwng arth Malaia ac arth weflog?
Mae eirth yn gyfarwydd i bob un ohonon ni ond y tu ôl i’w golwg mawr a ffyrnig, anifeiliaid gwyllt ydyn nhw y mae angen ein helpu ni arnyn nhw mewn gwirionedd. Felly cydiwch yn eich sbienddrych a bod yn barod i ddysgu rhai ffeithiau anhygoel am anifeiliaid gyda’r archwiliwr bywyd go iawn Huw Lewis-Jones wrth i ni ystyried wyth rhywogaeth ryfeddol eirth a mwy! Byddwch chi’n darganfod pam mae eirth yn gwneud cymaint o bŵ a’r hyn y gallwn ni ei wneud i’w gwarchod. Bydd llawer o hwyl, cyfle i chwilio am arth wen a chwis gwych am hanfodion eirth!
*Sylwer: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
4:15yp-5:00yp | 'The Last Firefox' a 'The First Shadowdragon' – Lee Newbery
4:15yp-5:00yp - Oriel Warws
Amrediad oedran: 8 oed a hŷn
Dewch i ymuno â Lee Newbery wrth iddo gyflwyno ei nofel hudolus galonogol The Last Firefox a’i dilyniant The First Shadowdragon. Dewch i archwilio taith ysgrifennu ac ysbrydoliaeth Lee, cyn i chi ddylunio eich creadur hudolus eich hun mewn gweithgaredd cardiau Pokémon a chymryd rhan mewn cwis geiriau anifeiliaid Cymru! Bydd digwyddiad Lee hefyd yn cynnig cyflwyniad sensitif i blant yn y gynulleidfa ar fabwysiadu ac yn dathlu’r holl fathau o deuluoedd gwahanol sydd yn y byd.
*Sylwer: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
Ystafell Ocean
10:00yb-10:45yb | 'Scareground': Spooky Stories and Fun at the Fair gydag Angela Kecojevic
10:00yb-10:45yb - Ystafell Ocean
Amrediad oedran: 8 - 10 oed
Ymunwch â’r awdur Angela Kecojevic am ddosbarth ysgrifennu i greu straeon arswydus. Bydd plant yn dysgu sut i greu golyga fwganllyd a dyfeisio cymeriadau cyfareddol. Gallant hyd yn oed dynnu lluniau ar gyfer eu gwaith! Gall plant ofyn cwestiynau a hefyd fwynhau darllediad o nofel newydd Angela, Scareground.
*Sylwer: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
11:15yb-12:00yp | 'Drew, Moo and Bunny, too' - Owen Sheers
11:15yb-12:00yp - Ystafell Ocean
Amrediad oedran: 6 - 9 oed
Ydych chi’n dwlu ar anturiaethau hudolus a gweithgareddau difyr? Dewch draw i gwrdd â’r bardd Owen Sheers a chlywed am dri ffrind gorau a’u teithiau ledled y byd!
Mae Drew, Bunny a Moo yn hedfan o gwmpas y byd ar garped hudolus sydd wedi’i bweru gan y cyfeillgarwch rhyngddynt. Ar hyd y daith, byddant yn cwrdd â môr-ladron a llawer o drafferth ar y môr tywyll. A fydd y tri ffrind gorau’n gallu dod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnyn nhw i ddychwelyd adref?
*Sylwer: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
12:30yp-1:15yp | Monster Max gan Robin Bennett
12:30yp-1:15yp - Ystafell Ocean
Amrediad oedran: 6 - 9 oed
Dychmygwch... fachgen cyffredin sy’n gallu newid i fod yn anghenfil drwy dorri gwynt!
Dewch i gwrdd â Monster Max sydd am ddiogelu a gwneud pethau da. Byddwch hefyd yn darganfod ysbryd marmalêd, cath o’r enw Frankenstein, bleiddiaid a hyd yn oed beiriant pŵ!
*Sylwer: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
1:45yp-2:30yp | 'The Panda's Child': Mae Cathy Fisher yn sgwrsio â Nicola Davies
1:45yp-2:30yp - Ystafell Ocean
Amrediad oedran: Croeso i deuluoedd a phlant sy’n 5 oed a hŷn
Mewn coedwig bellennig, mae babi yn mynd ar goll ac yn cael ei ganfod a’i warchod gan banda.
Naw mlynedd yn ddiweddarach mae babi arall, plentyn y panda, mewn perygl mawr, a dim ond bachgen ac ysbryd y goedwig all ei achub.
Dewch i gwrdd â’r darlunydd arobryn, Cathy Fisher, a gweld y darluniadau hardd mae hi wedi’u creu ar gyfer y stori bwerus hudolus hon.
*Sylwer: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
3:00yp-3:45yp | 'Feast of Ashes' - Victoria Williamson
3:00yp-3:45yp - Ystafell Ocean
Amrediad oedran: 13 oed a hŷn
Mae’r awdur arobryn, Victoria Williamson, yn dod â’i nofel newydd sbon, Feast of Ashes i Abertawe!
Mae Feast of Ashes yn nofel gyffrous ddystopaidd â thema amgylcheddol i bobl ifanc. Yn y stori, sydd wedi’i lleoli yn nwyrain Affrica yn y flwyddyn 2123, mae’r fenyw ifanc Adina, sy’n 16 oed, wedi lladd bron pawb mae’n eu hadnabod. 14,756 ohonyn nhw.
Gyda thema amgylcheddol gref, a rhybuddion am beryglon crafangau corfforaethol, mae Feast of Ashes yn llawn cyffro wrth fwrw golwg ddwys ar deulu, cyfeillgarwch, rhamant ac aberth.
*Sylwer: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
<script">//
4:15yp-5:00yp | 'Digging for Victory' & 'The Red Gloves' - dewch i gwrdd â Cathy Faulkner a Catherine Fisher
4:15yp-5:00yp - Ystafell Ocean
Amrediad oedran: 9 oed a hŷn
Dewch draw i gwrdd â dau awdur arbennig ym meysydd dirgelwch, hanes a hud a lledrith!
Mae llyfr Cathy Faulkner Digging for Victory wedi’i leoli yn Nyfnaint ym 1941 ac mae’n adrodd stori merch 12 oed, Bonnie Roberts, sy’n awyddus i chwarae rôl werthfawr yn ymdrech y rhyfel.Mae The Red Gloves and Other Stories gan Catherine Fisher yn gasgliad bwganllyd o hanesion rhyfedd ac iasol sy’n seiliedig ar chwedlau Cymru, gan gynnwys ysbrydion, pâr o fenig llofruddiog a pheryglon camu i ffwrdd o’r Ffordd Arian...
Yn eu sgwrs, mae Cathy a Catherine yn siarad am arwriaeth a darganfod, ynghyd ag ysbrydion, swynion a chyfnewid bywydau.
Dan gadeiryddiaeth Alan Bilton
*Sylwer: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
Gweithdy Glannau
10:00am-10:45pm | Writing Workshop with award-winning authors Liz Hyder and Rebecca F. John
10:00am-10:45pm - Waterfront Workshop
Age Range: 10-14 years
Writing Workshop with award-winning authors Liz Hyder and Rebecca F. John
*Please note: Event delivered in English
11:15yb-12:00yp | ‘Cyfres Sw Sara Mai’ gan Casia Wiliam
11:15yb-12:00yp - Gweithdy Glannau
Ystod Oedran: 8-12 oed
Wedi cyhoeddi dau lyfr a thrydydd ar ddod, mae straeon Sw Sara Mai yn dilyn Sara Mai, sy'n 9 oed ac sy'n byw mewn sŵ gyda'i rhieni a'i brawd mawr Seb. Mae Sara yn dwlu ar anifeiliaid, o lewod i sebras i wombatiaid a mwydod, ac mae hi'n gwybod llawer amdanynt hefyd. A dweud y gwir, mae'n well ganddi anifeiliaid na phobl yn aml! O drafferthion yn yr ysgol i neidr a ddygwyd a'r antur ddiweddaraf lle mae dosbarth cyfan Sara Mai ar daith ysgol i fferm am y penwythnos, mae cyfres Sara Mai yn fywiog, yn hwyl ac yn hawdd i blant o 8 oed ei darllen.
*Sylwer: Digwyddiad yn cael ei gyflwyno yn Gymraeg
12:30yp-1:15yp | Sesiwn adrodd straeon, darlunio a chrefftau gyda Lauren Ace a Jenny Løvlie
12:30yp-1:15yp - Gweithdy Glannau
Amrediad oedran: Teuluoedd a phlant hyd at 8 oed
Dewch draw i ddigwyddiad cyffrous am gyfeillgarwch gyda’r awdur Lauren Ace a’r darlunydd Jenny Løvlie. Gan gynnwys straeon o’u llyfrauThe Girls a The Boys, ynghyd â chyfle i chi greu eich cardiau a’ch breichledau cyfeillgarwch eich hun, bydd llawer o hwyl i’r teulu cyfan!
Yn The Girls, mae pedair merch ifanc yn cwrdd o dan goeden afalau ac yn meithrin perthynas sy’n tyfu wrth iddynt rannu cyfrinachau, breuddwydion, pryderon a chynlluniau.
Yn The Boys, gallwch chi ddilyn anturiaethau Tam, Rey, Nattie a Bobby – pedwar bachgen sy’n rhannu cyfeillgarwch a fydd yn para gydol oes.
*Sylwer: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg
1:45yp-2:30yp | ‘Cyfres Sw Sara Mai’ gan Casia Wiliam
1:45yp-2:30yp - Gweithdy Glannau
Ystod Oedran: 8-12 oed
Wedi cyhoeddi dau lyfr a thrydydd ar ddod, mae straeon Sw Sara Mai yn dilyn Sara Mai, sy'n 9 oed ac sy'n byw mewn sŵ gyda'i rhieni a'i brawd mawr Seb. Mae Sara yn dwlu ar anifeiliaid, o lewod i sebras i wombatiaid a mwydod, ac mae hi'n gwybod llawer amdanynt hefyd. A dweud y gwir, mae'n well ganddi anifeiliaid na phobl yn aml! O drafferthion yn yr ysgol i neidr a ddygwyd a'r antur ddiweddaraf lle mae dosbarth cyfan Sara Mai ar daith ysgol i fferm am y penwythnos, mae cyfres Sara Mai yn fywiog, yn hwyl ac yn hawdd i blant o 8 oed ei darllen.
*Sylwer: Digwyddiad yn cael ei gyflwyno yn Gymraeg
**CLUDIANT AM DDIM I DDEILIAID TOCYNNAU DIGWYDDIADAU'R ŴYL**