Ein Harbenigedd Ymchwil

Ynni a'r Amgylchedd

wave image

Grŵp Ymchwil Peirianneg Arfordirol a Dŵr

Mae ein hymchwilwyr yn defnyddio modelu cyfrifiadol newydd, technegau deallusrwydd artiffisial, a data arbrofol a data sy'n deillio o'r byd go iawn i archwilio prosesau arfordirol, hydrometeoroleg, deinameg afonydd, a risg llifogydd, gan gwmpasu ymchwil sylfaenol ac ymchwil gymhwysol.

Peirianneg Gyfrifiadurol

Peirianneg Gyfrifiadurol

Ein Harbenigedd Peirianneg Gyfrifiadurol

Mae ein hymchwilwyr yn datblygu dulliau cyfrifiadol blaengar i efelychu amrywiaeth o ffenomenau ffisegol, gan gynnwys hylifau, solidau, symudiad tonnau a phroblemau aml-ffiseg.  Mae'r ymchwil yn ymwneud â datblygiadau sylfaenol mewn dulliau rhifiadol, cynhyrchu rhwyllau, modelau wedi’u symleiddio (‘reduced order models’) a dysgu peirianyddol yn ogystal â'u defnydd wrth ddelio â phroblemau diwydiannol.

Solidau, Strwythurau a Systemau Cypledig

Graphic showing structures

Ein Harbenigedd mewn Solidau, Strwythurau a Systemau Cypledig

Mae ein hymchwilwyr yn datblygu strategaethau cyfrifiadol arloesol i efelychu ystod eang o broblemau ffisegol a chymwysiadau peirianneg sy'n cynnwys yn fras meysydd solidau, strwythurau a systemau cypledig. Mae'r prif bynciau yn cynnwys mecaneg solidau cyfrifiadol, modelu deunyddiau, mecaneg torri, cyswllt ffrithiannol, cyfryngau gronynnog, geomecaneg a rhyngweithiadau rhwng strwythur a hylif.

Deunyddiau Peirianneg Sifil ac Ymarfer Cynaliadwy

Water tap

Ein Harbenigedd mewn Deunyddiau Peirianneg Sifil ac Ymarfer Cynaliadwy

Rydym yn defnyddio ein cyfleusterau labordy a'n harbenigedd traws-ddisgyblaethol sylweddol i weithio mewn partneriaeth â byd diwydiant er mwyn archwilio ystod amrywiol o ddeunyddiau adeiladu newydd a chynaliadwy, gan ganolbwyntio ar ddeunyddiau carbon-isel a chynaliadwy. Mae themâu ymchwil yn cynnwys concritau carbon isel, morterau smentaidd wedi'u hactifadu gan alcali, concritau perfformiad uchel iawn, geopolymerau ac agregau wedi'u hailgylchu.

Peirianneg Drafnidiaeth

Bridge structure

Ein Harbenigedd mewn Peirianneg Drafnidiaeth

Mae isadeiledd trafnidiaeth yn sylfaen hanfodol ar gyfer ein cymdeithas. Mae ein hymchwilwyr yn defnyddio technolegau arloesol i ddatblygu systemau trafnidiaeth gwydn, cynaliadwy a chlyfar sy'n mynd i'r afael â heriau dybryd yr argyfwng hinsawdd. Mae'r gwaith arloesol yn cynnwys synhwyro clyfar wedi'i hunanbweru, deunyddiau ffordd hunan-adfer, asffalt carbon isel, rhwydweithiau synhwyrydd diwifr ar gyfer monitro trafnidiaeth glyfar, dysgu peirianyddol sy'n seiliedig ar ffiseg ar gyfer dadansoddi data uwch, a chynnal egni ar isadeiledd ffyrdd.

Peirianneg Sifil, Cenhadaeth Ddinesig a Chymdeithas

Children learning on a beach

Ein Harbenigedd mewn Peirianneg Sifil, Cenhadaeth Ddinesig a Chymdeithas

Gan weithio mewn partneriaeth ar brosiectau amlddisgyblaethol gyda busnesau, awdurdodau lleol, ysgolion, sefydliadau cymunedol a grwpiau eraill, ein nod yw darparu mewnwelediad ac arbenigedd ar sail peirianneg sifil i gynorthwyo prosiectau sydd o bwys i gymdeithas.