Peirianneg Sifil

Bridge in Swansea

Peirianneg Sifil

Yma yn Abertawe rydym yn datblygu peirianwyr sifil y dyfodol. Gan weithio mewn cydweithrediad agos â diwydiant, mae ein hymchwil a'n cymuned academaidd yn parhau i gynnig atebion cynaliadwy i'r heriau sy'n wynebu cymdeithas.

Wedi ein lleoli ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe, rydym yn cynnig graddau israddedig BEng a Meng gyda’r opsiwn i dreulio Blwyddyn Mewn Diwydiant a Blwyddyn Dramor, yn ogystal â graddau MSc ôl-raddedig mewn Peirianneg Sifil, Gyfrifiadol a Strwythurol. Mae ein holl gyrsiau wedi'u hachredu gan gyd-fwrdd y cymedrolwyr sy’n cynnwys CIHT, ICE, IHE, IStructE a PWI ac maent yn cael eu hadolygu'n rheolaidd gan bartneriaid ym myd diwydiant i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn berthnasol ac yn ddylanwadol.

Gellir grwpio ein diddordebau a'n harbenigedd ymchwil i'r meysydd canlynol; Ynni a'r Amgylchedd, Peirianneg Gyfrifiadol, Solidau, Strwythurau a Systemau Cypledig, Deunyddiau ac Ymarfer Cynaliadwy, Peirianneg Cludiant a Pheirianneg Sifil, Cenhadaeth Ddinesig a Chymdeithas.

Gallwch fynd ar rith-daith o’n prif gyfleusterau isod; mae'r rhain yn cynnwys ein labordai addysgu Concrid, Geo/Pridd, Hylifau a Strwythurol o’r radd flaenaf. Mae gan bob labordy'r dechnoleg ddiweddaraf, gan roi profiad amhrisiadwy i fyfyrwyr sy’n debyg i’r byd go iawn, sydd felly’n golygu bod galw mawr amdanynt gan y cyflogwyr mwyaf blaenllaw ar ôl iddynt raddio.

Mae ein hadran yn ymdrechu i fod yn rhywle lle y gall myfyrwyr, staff a'n partneriaid o ddiwydiant ac ymchwil ddod ynghyd i fynd i'r afael â materion megis yr argyfwng hinsawdd, y targed carbon sero net, tywydd eithafol a thrychinebau naturiol yn gyffredinol.

Cyrsiau MSc cyfrifiadurol

Rhagor o wybodaeth am bob gradd MSc Gyfrifiadol rydym yn ei chynnig

Delwedd Peirianneg Gyfrifiadurol o'r Bloodhound

Mae Peirianneg Sifil wedi ei achredu gan Gyd-Fwrdd y Cymedrolwyr

CIHT logo
Institution of Civil Engineers logo
logo Institute of Highway Engineers
The Institute of Structural Engineers logo
Permanent Way Institution logo