Peirianneg Fecanyddol

Students in Festo Cyber Physical lab

Peirianneg Fecanyddol

Lleolir Peirianneg Fecanyddol ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe, ac mae ein swyddfeydd academaidd, ein labordai arbenigol, ein gweithdai a’n cyfleusterau addysgu wedi’u lleoli ar draws pedwar o'r saith adeilad yn y Gyfadran.

Rydym yn cynnig graddau israddedig BEng a MEng ac rydym hefyd yn cynnig opsiwn i dreulio Blwyddyn Mewn Diwydiant a Blwyddyn Dramor, yn ogystal â chwrs MSc ôl-raddedig. Mae ein holl gyrsiau wedi'u hachredu gan IMechE ac fel adran rydym ymhlith y 100 Uchaf yn y byd yng nghynghrair pynciol byd-eang QS 2023.

Mae ein gweithgareddau ymchwil sy'n newid y byd yn ymdrechu i gynnig yr wybodaeth wyddonol hanfodol sydd ei hangen ar ddiwydiant, cymdeithas ac ar gyfer heriau byd-eang. Mae arbenigedd ymchwil yr Adran Peirianneg Fecanyddol yn canolbwyntio ar ddatblygu'r sylfaen wybodaeth ym meysydd: bioneg a dyfeisiau biofeddygol, ynni gwyrdd, seiberneteg a pheiriannau deallus, argraffu a chaenu a gweithgynhyrchu haen-ar-haen.

Mae ein cyfleusterau a'n hoffer yn cynnwys Labordy Roboteg mawr, Ystafell Realiti Rhithwir, Ffatri Seiber Ffisegol, Gofod Hacio/Arloesi dan arweiniad myfyrwyr, argraffwyr 3D, Twnnel Gwynt a thechnolegau niferus ar gyfer profi deunyddiau a thechnolegau gweithgynhyrchu uwch.

Ar hyn o bryd, rydym hefyd yn gweithio ar y cyd â chynllun effaith amrywiaeth Academi Frenhinol y Peirianwyr i ddatblygu strategaeth ar gyfer y gymuned Peirianneg Fecanyddol gyfan er mwyn mynd i'r afael â’r niferoedd isel o fenywod sy'n astudio Peirianneg Fecanyddol. Ceir rhagor o wybodaeth am ein prosiect .

Fel adran rydym yn darparu cyfleoedd i academyddion, myfyrwyr a diwydiant gydweithio ar heriau'r byd go iawn i ddarparu atebion cadarnhaol fydd yn cael effaith ac sydd o fudd i gynaliadwyedd, i gymdeithas, i’r economi ac o ran newid yn yr hinsawdd, mewn amgylchedd sy’n seiliedig ar gydraddoldeb.  

Cyrsiau MSc cyfrifiadurol

Rhagor o wybodaeth am bob gradd MSc Gyfrifiadol rydym yn ei chynnig

Delwedd Peirianneg Gyfrifiadurol o'r Bloodhound

Mae Peirianneg Fecanyddol wedi gael ei achredu gan…

Logo'r 'Engineering Council'
Logo Institution of Mechanical Engineers