Formula Student

Ym Mhrifysgol Abertawe, gallwch ddylunio ac adeiladu car rasio un sedd i gystadlu yn erbyn prifysgolion eraill yn y DU mewn nifer o ddigwyddiadau fel rhan o dîm Peirianneg Rasio Prifysgol Abertawe (SURE), sef ein cymdeithas Formula Student.

Wedi'i gynnal gan Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol (IMechE), mae Formula Student yn rhoi cyfle i chi ddysgu sgiliau newydd, i weithio mewn tîm ac i ennill profiad drwy roi eich gradd mewn sefyllfa sy'n berthnasol i'r byd go iawn.

Mae Prifysgol Abertawe wedi cyllido tîm Peirianneg Rasio Prifysgol Abertawe (SURE) ers 2001. Mae tîm SURE wedi bod yn rasio, yn dylunio ac yn adeiladu ceir ar gyfer cystadlaethau Formula Student (FS) ers 2001. Mae SURE yn cystadlu mewn digwyddiadau FS ledled Ewrop ac mae wedi gweithio gyda phartneriaid academaidd a diwydiannol er mwyn creu’r car rasio mwyaf llwyddiannus posib.

Mae SURE yn cynnwys myfyrwyr o wahanol ddisgyblaethau a lefelau, gan gynnwys myfyrwyr ôl-raddedig a myfyrwyr y tu allan i’r Peirianneg.

Ewch i’r wefan swyddogol.

cystadleuaeth Formula Student
Cefnogaeth gan ddiwydiant

Formula Student yw cystadleuaeth rasio ceir addysgol mwyaf sefydledig Ewrop, ac fe’i cynhelir gan Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol.

Rhaid i brifysgolion o bedwar ban byd wynebu’r her o ddylunio ac adeiladu car rasio un sedd er mwyn cystadlu mewn digwyddiadau statig a deinamig sy’n dangos eu dealltwriaeth ac yn profi perfformiad y cerbyd.