Students in a lab

“Hyrwyddo, hybu ac eirioli dros Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) i'r holl staff a myfyrwyr.

I weithio mewn modd tryloyw sy'n seiliedig ar dystiolaeth, lle rydym yn dal ein hunain ac eraill yn atebol, i annog twf mewn meddylfryd ynghylch EDI.”

Cynyddu cynrychiolaeth fenywaidd ym maes Peirianneg Fecanyddol

Dim ond ~8.5% yw’ gynrychiolaeth fenywaidd yng ngharfan Peirianneg Fecanyddol (PF) Prifysgol Abertawe. Dyfarnwyd y prosiect uchelgeisiol hwn trwy Raglen Effaith Amrywiaeth The Royal Academy of Engineering, sy'n ymdrechu i fynd i'r afael â'r anghydbwysedd rhwng y rhyweddau trwy ymyriadau sydd â buddiolwyr wrth eu gwraidd, sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Bydd y strategaeth a gyflwynir yn cyfeirio at ddiwygio trawsnewidiol o fewn y gymuned PF ac yn gweithredu fel “Sbardun” i sicrhau cynrychiolaeth fenywaidd “50% ar gyfer y Dyfodol”, nid yn unig yn astudio PF ym Mhrifysgol Abertawe, ond o fewn y proffesiwn.

Students in a lab

DATBLYGU STRATEGAETH

Dechreuwyd ar y gwaith cwmpasu ar gyfer “50% ar gyfer y Dyfodol” ym mis Medi 2021. Er mwyn dal gwir lais y buddiolwyr, sefydlwyd gweithgor a oedd yn cynnwys cynrychiolaeth amrywiol o’n carfan o fyfyrwyr Peirianneg Fecanyddol, academyddion, diwydiant ac IMechE. Yn ogystal â’r nod clir o gynyddu nifer y myfyrwyr benywaidd yn yr adran, nododd y gweithgor dri maes problemus fel rhai y mae angen mynd i’r afael â nhw er mwyn helpu i gyflawni’r nod hirdymor hwn, yn ogystal â darparu effaith gadarnhaol fwy uniongyrchol ar gyfer y buddiolwyr.

Cwrdd â'r Tîm

Lydia Webber

Swyddog Prosiect

Lydia Webber

Dr Jennifer Thompson

Prif Ymchwilydd

Dr Jennifer Thompson

Katie Hebborn

Swyddog Cynhwysiant a Datblygu Staff

Katie Hebborn

Rhiannon Kingsley

Rheolwr Allgymorth a Recriwtio

Rhiannon Kingsley

Chloe Morgan

Cynorthwy-ydd Ymchwil

Chloe Morgan

Ein Partneriaid

Dr Andrew Rees

Dr Andrew Rees
Dr Andrew Rees:
Cydweithredwr Allanol,
Prifysgol Loughborough
Cornell logo

Prifysgol Cornell (Academia)

Yr Ysgol Beirianneg yw un o'r rhai cyntaf i gael cydbwysedd rhwng y rhywiau ar lefel israddedig.

MBDA logo

MBDA Missile Systems (Diwydiant)

Sefydliad sy'n enghraifft o arfer gorau i sicrhau cydbwysedd rhwng y rhywiau.

IMechE logo

IMechE (Sefydliad Allanol)

Mae IMechE yn goruchwylio ansawdd ymarfer o fewn y proffesiwn a bydd yn sicrhau y bydd y strategaeth yn cael effaith gynaliadwy.

Primary school children

Ysgolion Lleol (Cymunedol)

Bydd gweithgareddau allgymorth yn cael eu cynnal gydag ysgolion lleol i asesu ymyriadau effeithiol.