Female student Flight Simulator

Peirianneg Awyrofod

Yn yr Adran Peirianneg Awyrofod ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn ymrwymedig i addysgu myfyrwyr, cyflwyno ymchwil sy'n arwain y byd, a datblygu ein cysylltiadau helaeth â diwydiant a phartneriaid academaidd i drawsnewid dyfodol y diwydiant awyrofod yng Nghymru, y DU a’r tu hwnt.

Wrth wraidd ein hymdrechion mae’r her frys i leihau'r effaith y mae hedfan yn ei chael ar yr hinsawdd, ynghyd â harneisio technoleg y gofod er mwyn deall yn well yr heriau sy'n wynebu ein planed.

Mae ein rhaglenni gradd cyffrous yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr israddedig ddatblygu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o'r dechnoleg sy'n sail i'r diwydiant awyrofod, o aerodynameg i ddylunio strwythurol a deinameg awyrennau.

Mae ein carfan fawr o fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig, sy'n gweithio'n agos gyda'n partneriaid diwydiannol, gan gynnwys Airbus, Rolls-Royce a Reaction Engines, yn gweithio ar brosiectau amrywiol megis datblygu dulliau arloesol i harneisio optimeiddiaeth gyfrifiadol gyda deallusrwydd artiffisial ar gyfer dylunio aerodynamig, profi a phennu nodweddion deunyddiau ar gyfer tyrbinau nwy'r genhedlaeth nesaf a chreu gwthwyr gofod bach newydd ar gyfer lloerennau.

Mae staff academaidd yr Adran yn gweithio ar draws pedwar maes ymchwil eang: aerodynameg, dylunio/optimeiddio ac efelychu hedfan; dulliau modelu cyfrifiadol a strwythurol; deunyddiau a gwthiad; a systemau’r gofod. Mae llawer o'r ymchwil a gynhelir yn yr Adran yn cael ei gwneud ar y cyd â diwydiant ac mae hyn wedi cael effaith uniongyrchol ar brosiectau sy'n amrywio o ddylunio’r car Bloodhound - sy’n dal record y byd ar gyfer cyflymder ar y tir, datblygu peiriannau jet Rolls-Royce y genhedlaeth nesaf a datblygu'r awyren ofod 'Skylon' i’r cwmni Reaction Engines.

Mae Peirianneg Awyrofod yn cael ei achredu gan...

logo engineering council
logo IMechE
Logo Royal Aeronautical Society