Ein Harbenigedd Strwythurol A Chyfrifiadol
Mae ein hymchwilwyr yn defnyddio cymysgedd o ddulliau cyfrifiadol a dulliau arbrofol (e.e. ein twnnel gwynt dolen gaeedig is-sonig o'r radd flaenaf) i archwilio atebion i broblemau megis rhyngweithiadau rhwng strwythur a hylif ar adenydd, rheoli awyrennau gan ddefnyddio 'morffio' i 'gasglu ynni' o ddirgryniadau strwythurol er mwyn mynd i'r afael â Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig ar gyfer Diwydiant, Arloesi ac Isadeiledd ac ar gyfer Dinasoedd a Chymunedau Cynaliadwy.
Ein Harbenigedd Deunyddiau A Gyriad
Mae ein hymchwilwyr yn bartneriaid â rhai ym myd diwydiant fel Rolls-Royce i ddeall perfformiad deunyddiau newydd (cyfansoddion ac aloion) i'w defnyddio mewn peiriannau jet modern. Hefyd, mae gennym ymchwilwyr sy'n datblygu dulliau modelu newydd ar gyfer y prosesau hylosgi sy'n ymwneud â gyriad awyrofod, gan gynnwys perfformiad hydrogen fel tanwydd amgen. Mae'r holl waith hwn yn cael ei wneud mewn cydweithrediad ag ymchwilwyr ar draws y Gyfadran sy'n archwilio dulliau 'Diwydiant 4.0' o weithgynhyrchu ac i fynd i'r afael â nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig ar gyfer Diwydiant, Arloesi ac Isadeiledd ac ar gyfer Gweithredu ar yr Hinsawdd.
EIN HARBENIGEDD MEWN TECHNOLEG GOFOD
Mae ein hymchwilwyr yn archwilio datblygiadau mewn technolegau gofod sy’n amrywio o ddylunio strwythurau gofod a systemau lloeren y gellir eu rhoi ar waith i wthwyr gofod arloesol ag injan ïon, dulliau ynni solar sy'n seiliedig ar ofod, a modelu aerodynamig hypersonig er mwyn mynd i'r afael â Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig ar gyfer Dinasoedd a Chymunedau Cynaliadwy a Gweithredu ar yr Hinsawdd.
Ein Harbenigedd Erodynameg
Gan ddefnyddio ein twnnel gwynt dolen gaeedig is-sonig o'r radd flaenaf a'n cyfres o efelychwyr hedfan mae ein hymchwilwyr yn archwilio dyluniadau aerodynamig newydd ar gyfer popeth o lafnau tyrbinau gwynt i awyrennau lifft fertigol newydd â sawl rotor codi. Mae gennym hefyd ymchwilwyr sy'n datblygu dulliau cyfrifiadol newydd ar gyfer dylunio ac optimeiddio efelychu awyrennau a hedfan cerbydau symudedd awyr trefol i fynd i'r afael â nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig ar gyfer Diwydiant, Arloesi ac Isadeiledd, ar gyfer Dinasoedd a Chymunedau Cynaliadwy, ac ar gyfer Gweithredu ar yr Hinsawdd.