Dr Hadi Madinei

Dr Hadi Madinei

Darlithydd

Cyfeiriad ebost

325
Trydydd Llawr
Adeilad Gogleddol Peirianneg
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Dr Hadi Madinei yn Ddarlithydd yn y Coleg Peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ei ddiddordebau ymchwil ym maes dynameg strwythurol aflinol, gan ganolbwyntio ar Systemau Micro/Nano-Electro-Fecanyddol (MEMS/NEMS) a chynaeafu ynni. Mae Dr Madinei wedi defnyddio gwahanol dechnegau modelu i ddadansoddi a dylunio ystod eang o synwyryddion ac ysgogwyr MEMS. Mae'n arbenigo mewn datblygu modelau mathemategol i ddadansoddi dirgryniad systemau deinamig. Mae gan Dr Madinei ddiddordeb penodol mewn modelu a dylunio cynaeafwyr ynni MEMS newydd ar gyfer cymwysiadau cyfathrebu a monitro iechyd.

Meysydd Arbenigedd

  • Dylunio dyfeisiau MEMS/NEMS
  • Dynameg Strwythurol Aflinol
  • Cynaeafu ynni sy'n seiliedig ar ddirgryniad
  • Biosynhwyrydd MEMS
  • Astudiaethau arbrofol a dadansoddi data