Peirianneg Electronig a Thrydanol

Semiconductor chip in gloved hand

Peirianneg Electronig a Thrydanol,

Mae Peirianneg Electronig a Thrydanol yn faes peirianneg cyffrous sy'n newid yn gyflym. Mae'n cynnwys technoleg lled-ddargludyddion, electroneg, cyfrifiaduron digidol, peirianneg meddalwedd, peirianneg pŵer, peirianneg ynni adnewyddadwy, telathrebu, peirianneg amledd radio, prosesu signalau, offeryniaeth, systemau rheoli a roboteg.

Yma yn Abertawe rydym yn cynnig graddau israddedig BEng a MEng gyda’r opsiwn i dreulio Blwyddyn Mewn Diwydiant a Blwyddyn Dramor yn ogystal â graddau MSc ôl-raddedig mewn Peirianneg Pŵer ac Ynni Cynaliadwy, a Pheirianneg Electronig a Thrydanol. Mae ein holl gyrsiau wedi'u hachredu gan y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET) ar ran y Cyngor Peirianneg ac fe'u datblygir trwy weithio'n agos gyda’r partneriaid a’r cynghorwyr o fyd diwydiant.

Caiff diddordebau ac arbenigedd ymchwil ein hadran eu grwpio i'r meysydd canlynol; Ynni a Phŵer, Lled-ddargludyddion a Nanodechnoleg a Chyfathrebu, Systemau a Meddalwedd.

Gweld sut beth yw hi i astudio peirianneg yn Abertawe⬇️