Trosolwg
Mae Dr Andrew Warrilow yn fiocemegydd proteinau sy’n gweithio yng Nghanolfan Bioamrywiaeth Cytocrom P450
(http://www.p450swansea.co.uk/) yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Dechreuodd ei yrfa yn IACR Long Ashton Research Station ger Bryste ym 1995 cyn symud i Labordy Bioamrywiaeth Cytocrom P450 Wolfson ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ystod 1998 i weithio gyda’r Athro Steven Kelly ac wedyn ymunodd â Phrifysgol Abertawe yn 2004.
Prif ddiddordebau ymchwil Andrew yw demethylases (CYP51) 14-alffa sterol pathogenau ffwngaidd a’u partneriaid rhydocs rhydwythas (CPR) cytocrom P450. CYP51 ffwngaidd yw ensym targed cyffuriau gwrth-ffwngaidd azole ac mae ymwrthedd cynyddol tuag at gyffuriau gwrth-ffwngaidd azole ymysg unigion clinigol Candida spp., Aspergillus spp. a Mucorales yn golygu bod angen gwell dealltwriaeth o fecanweithiau ymwrthedd azole a synthesis a phrosesau sgrinio cyfryngau therapiwtig newydd i oresgyn yr ymwrthedd cynyddol hwn.
Mae ei ddiddordebau ymchwil eraill yn cynnwys canfod nodweddion monoocsigenasau cytocrom P450 ewcaryotig a procaryotig, yn enwedig o ran rhwymo ligand, penodolrwydd swbstradau a chineteg ensymau; mae Andrew yn rhannu ei arbenigedd â myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar y modiwlau a addysgir y mae’n cyfrannu atynt.
Mae Andrew yn gyd-archwilydd ar raglen Bioburo Canolfan Ragoriaeth BEACON (http://www.beaconwales.org). Mae BEACON yn bartneriaeth rhwng Prifysgolion Aberystwyth, Bangor ac Abertawe a Phrifysgol De Cymru sy’n gweithio ym maes trawsnewid biomas a biowastraff yn gynhyrchion bio gyda chymwysiadau masnachol. Mae BEACON yn brosiect gwerth £18.3 miliwn a gefnogir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru a’r prif nod yw helpu busnesau Cymru i ymchwilio i gyfleoedd bio ar gyfer twf drwy ddarparu mynediad at gyfarpar arbenigol eang ac arbenigedd gwyddonol. Enillodd BEACON wobr RegioStars 2014 am y Prosiect Rhanbarthol gorau yn yr UE.