Dr Andrew Warrilow

Dr Andrew Warrilow

Penodiad Er Anrhydedd (Gwyddorau Dynol ac Iechyd), Medicine Health and Life Science

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 205678 ext 9138

Cyfeiriad ebost

Trosolwg

Mae Dr Andrew Warrilow yn fiocemegydd proteinau sy’n gweithio yng Nghanolfan Bioamrywiaeth Cytocrom P450

(http://www.p450swansea.co.uk/) yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Dechreuodd ei yrfa  yn IACR Long Ashton Research Station ger Bryste ym 1995 cyn symud i Labordy Bioamrywiaeth Cytocrom P450 Wolfson ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ystod 1998 i weithio gyda’r Athro Steven Kelly ac wedyn ymunodd â Phrifysgol Abertawe yn 2004.

Prif ddiddordebau ymchwil Andrew yw demethylases (CYP51) 14-alffa sterol pathogenau ffwngaidd a’u partneriaid rhydocs rhydwythas (CPR) cytocrom P450. CYP51 ffwngaidd yw ensym targed cyffuriau gwrth-ffwngaidd azole ac mae ymwrthedd cynyddol tuag at gyffuriau gwrth-ffwngaidd azole ymysg unigion clinigol Candida spp., Aspergillus spp. a Mucorales yn golygu bod angen gwell dealltwriaeth o fecanweithiau ymwrthedd azole a synthesis a phrosesau sgrinio cyfryngau therapiwtig newydd i oresgyn yr ymwrthedd cynyddol hwn.

Mae ei ddiddordebau ymchwil eraill yn cynnwys canfod nodweddion monoocsigenasau cytocrom P450 ewcaryotig a procaryotig, yn enwedig o ran rhwymo ligand, penodolrwydd swbstradau a chineteg ensymau; mae Andrew yn rhannu ei arbenigedd â myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar y modiwlau a addysgir y mae’n cyfrannu atynt.

Mae Andrew yn gyd-archwilydd ar raglen Bioburo Canolfan Ragoriaeth BEACON (http://www.beaconwales.org). Mae BEACON yn bartneriaeth rhwng Prifysgolion Aberystwyth, Bangor ac Abertawe a Phrifysgol De Cymru sy’n gweithio ym maes trawsnewid biomas a biowastraff yn gynhyrchion bio gyda chymwysiadau masnachol. Mae BEACON yn brosiect gwerth £18.3 miliwn a gefnogir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru a’r prif nod yw helpu busnesau Cymru i ymchwilio i gyfleoedd bio ar gyfer twf drwy ddarparu mynediad at gyfarpar arbenigol eang ac arbenigedd gwyddonol. Enillodd BEACON wobr RegioStars 2014 am y Prosiect Rhanbarthol gorau yn yr UE.

Meysydd Arbenigedd

  • • Demethylases (CYP51) sterol 14-alffa
  • • Rhydwythas Cytocrom P450 NADPH
  • • Sgrinio cyffuriau gwrth-ffwngaidd Azole
  • • Monoocsigenasau cytocrom P450
  • • Ensymoleg
  • • Puro proteinau
  • • Biocemeg proteinau

Uchafbwyntiau Gyrfa

Ymchwil

Mae ymwrthedd i gyffuriau gwrth-ffwngaidd azole a welwyd mewn heintiau ffwngaidd clinigol ymysg  Candida spp., Aspergillus spp. a Mucorales yn broblem gynyddol sydd angen sylw brys.

Mae Andrew wedi cymryd rhan mewn sawl astudiaeth yn archwilio modd gweithredu biocemegol cyffuriau gwrth-ffwngaidd azole gydag ensym CYP51 targed  pathogenau ffwngaidd a’r homolog dynol. Mae’r gwaith hwn wedi cynnwys canfod nodweddion dull gweithredu cyfryngau therapiwtig newydd yn cynnwys tetrazole VT-1161 (Viamet/Mycovia) a triazole PC945 (Pulmocide). Ar adeg ysgrifennu hwn (Mai 2020) mae yna dreialon Cam 3 yn cael eu cynnal ar VT-1161 a threialon Cam 2 ar PC945.

Mae ymchwiliadau eraill yn cynnwys y sail biocemegol sylfaenol ar gyfer ymwrthedd cynyddol azole mewn unigion clinigol Candida albicans ac Aspergillus fumigatus a briodolwyd yn flaenorol i amnewidion asidau amino yn yr ensym CYP51 ffwngaidd. Yn C. albicans mae effeithiau amnewidion asidau amino CYP51 unigol ar weithgarwch ensymau o ran goddefedd i fluconazole yn adiol, tra yn A. fumigatus gall amnewidion asidau amino unigol yn CYP51A roi goddefedd sylweddol i azole. At hyn, mae’r dull gweithredu biocemegol ar gyfer cyffuriau gwrth-ffwngaidd azole yn erbyn ensymau CYP51 o Cryptococcus spp., Trichophyton rubrum a Malassezia globosa wedi’i archwilio hefyd.

Bydd dealltwriaeth bellach o’r mecanweithiau dan sylw o ran ymwrthedd azole CYP51 yn llywio’r cynllun ar gyfer y genhedlaeth nesaf o gyfryngau therapiwtig er mwyn goresgyn yr ymwrthedd sy’n dod i’r amlwg i gyffuriau gwrth-ffwngaidd azole presennol.

Cydweithrediadau