Trosolwg
Fe raddiais gyda Gradd Dosbarth Cyntaf mewn Ffisioleg Glinigol o Brifysgol Abertawe gan arbenigo mewn ffisioleg anadlu a chysgu. Ers hynny rydw i wedi cwblhau MSc Gwyddoniaeth Broffesiynol, tystysgrif ôl-raddedig mewn dysgu ac addysgu ym maes addysg uwch ac wedi fy achredu fel Gwyddonydd Clinigol.
Rydw i wedi gweithio mewn amryw o leoliadau GIG yn Lloegr ac yng Nghymru fel ffisiolegydd resbiradol a chysgu, ac mae gennyf gontract clinigol er anrhydedd yn Ysbyty Singleton.
Rydw i’n cydlynu’r gwasanaeth stopio ysmygu ‘Helpa Fi i Stopio’ yn y Brifysgol, sydd ar gael i staff, myfyrwyr a’r cyhoedd.
Yn ogystal â fy nyletswyddau darlithio, rwy’n gyfrifol am sicrhau bod myfyrwyr yn cael profiad dysgu cadarnhaol ar leoliad yn ystod eu gradd tair blynedd. Mae hyn wedi fy annog i ddatblygu cyfleoedd dysgu cyffrous yn y DU a thramor i fyfyrwyr.