Trosolwg
Mae Greg Herman (MA Anrh; MLitt; PhD; TAR; FHEA) yn Uwch Ddarlithydd mewn Ffrangeg yn yr Adran Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd. Roedd ei PhD (Prifysgol Aberdeen, 2013) yn canolbwyntio ar gofnod Jorge Semprun, un o alltudion Buchenwald yn yr Ail Ryfel Byd ac yn arbennig y tensiwn, sy'n bresennol yng ngwaith Semprun drwyddo draw, rhwng ei 'devoir de mémoire' y mae'n gosod ar ei hun a'i awydd ar yr un pryd i anghofio'r gorffennol trawmatig.
Yn dilyn ei ddoethuriaeth, cwblhaodd Greg TAR (Ffrangeg Uwchradd) gyda Phrifysgol Cumbria, ac ar ôl hynny dechreuodd yn ei swydd gyda Phrifysgol Abertawe ym mis Medi 2014. Ar hyn o bryd mae'n gweithio ar ddamcaniaethau ail(-)gyflwyno yn sinema gyfoes Ffrainc ac yn arbennig gwaith Céline Sciamma a François Ozon. Mae Greg yn croesawu ymholiadau am oruchwylio ôl-raddedigion ym mhob maes o lenyddiaeth a diwylliant Ffrengig a Ffrangeg o'r 20fed a'r 21ain Ganrif.
Ar lefel israddedig, ac yn rhinwedd ei swydd fel Tiwtor Derbyn, mae Greg hefyd yn croesawu cyswllt gan ddarpar fyfyrwyr sy'n awyddus i drafod eu taith i Addysg Uwch.