Trosolwg
Mae Ihsan Al-Affan yn uwch-ddarlithydd Ffiseg Feddygol ym Mhrifysgol Abertawe. Dechreuodd ei yrfa fel cymrawd ymchwil ym Mhrifysgol South Bank Llundain yn ymchwilio i berygl radon i'r ysgyfaint. Roedd yr ymchwil hon yn golygu gweithio ar brosiect i asesu'r risg o gancr yr ysgyfaint sy’n deillio o radon a chynnyrch ei ddadfeiliad. Symudodd i Gaerdydd ym 1990 i weithio yn Ysbyty Felindre fel gwyddonydd clinigol yn yr adran radiotherapi. Yna ym 1998 aeth i weithioyn Adran Ffiseg Prifysgol Zarka, yn yr Iorddonen gan ddarlithio ar bynciau amrywiol ym maes ffiseg a ffiseg ymbelydredd meddygol. Yn 2001, ymunodd Ihsan â'r prosiect 'United Arab Technical Training Project' yn Bexhill On Sea, yn y DU, fel cynghorydd academaidd er mwyn rheoli a monitro cynnydd academaidd dros 150 o fyfyrwyr o'r Emiradau Arabaidd Unedig a oedd yn astudio ac yn hyfforddi mewn colegau technegol Prydeinig. Ymunodd â'r rhaglen MSc o 2011 ymlaen fel uwch-ddarlithydd mewn Ffiseg Feddygol ym Mhrifysgol Abertawe.