Dr Kristian Evans

Dr Kristian Evans

Athro Cyswllt

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Rhugl
321
Trydydd Llawr
Y Ffowndri Gyfrifiadol
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae fy ymchwil yn ymdrin â Dadansoddi a Thebygolrwydd, yn benodol  o safbwynt gweithredyddion ffug-ddifferol a phrosesau sy’n defnyddio mathau Levy. Rwy’n gydawdur (gyda Niels Jacob) cyfres o werslyfrau Dadansoddi o’r enw A Course in Analysis. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rwy wedi mwynhau datblygu’r ddarpariaeth addysgu newydd ar gyfer Ystadegau yn yr Adran Fathemateg. Fodd bynnag, rwy wedi dysgu hefyd ystod eang o bynciau mewn Mathemateg, gan gynnwys Dadansoddi Cymhleth. Mae gennyf ddiddordeb byw mewn addysgu mewn ffordd gynhwysol sy’n ymgysylltu â myfyrwyr ac rwy’n hoffi rhannu arferion da lle y bo’n briodol. Rwy’n cydlynu modiwl prosiect y flwyddyn olaf ac yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Asesu Rhaglenni.