Prifysgol Abertawe, Campws y Bae
Professor Michael Williams

Yr Athro Michael Williams

Athro Emeritws (Ysgol Reolaeth), Management School

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 295181

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Michael Williams yn Athro Emeritws yn yr Ysgol Reolaeth.

Yn ystod cyfnod Michael yn yr Ysgol Reolaeth ym Mhrifysgol Abertawe, mae ef wedi gwasanaethu fel Cyd-ddeon Interim, Cyd-gyfarwyddwr Ymchwil yr Ysgol, ac fel Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil y Labordy Arloesi (i-Lab). Mae ei rolau blaenorol yn cynnwys: Pennaeth yr Adran Fusnes, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Ddigidol a’r Cyfryngau Cymdeithasol, Cyfarwyddwr Rhaglen Ddoethurol yr Ysgol, Deon Cysylltiol y Brifysgol â Chyfrifoldeb am Ymgeiswyr am Radd Ymchwil a Chadeirydd Byrddau Dilyniant Graddau Ymchwil y Brifysgol.

Cyn dechrau yn y byd academaidd, bu'n gweithio yn y sectorau cyhoeddus a phreifat mewn meysydd a oedd yn cynnwys cyllid, telathrebu, gweithgynhyrchu a llywodraeth gyda chwmnïau a oedd yn cynnwys British Telecom a Canon.

Mae ei waith wedi cael ei gyhoeddi mewn nifer o gyfnodolion academaidd blaenllaw gan gynnwys y canlynol; Journal of Business Research, Journal of Information Technology, Journal of the Operational Research Society, a'r Journal of Advanced Nursing, ymysg eraill.

Mae wedi derbyn cyllid gan gyrff sy'n cynnwys yr Undeb Ewropeaidd, GIG y DU, Sefydliad Nuffield a Llywodraeth Cymru. Mae'n adolygydd ceisiadau am gyllid ar gyfer cynghorau ymchwil a chyrff rhyngwladol, ac mae'n rhan o hyrwyddo/deiliadaeth pwyllgorau yn y DU a thramor.

Mae'n aelod o fyrddau golygyddol nifer o gyfnodolion, mae wedi cadeirio llwybrau ac is-lwybrau mewn digwyddiadau rhyngwladol blaenllaw ac ef oedd cadeirydd cyntaf y gynhadledd iSHIMR ar wybodeg iechyd.

Mae wedi gweithredu fel ymgynghorydd ar gyfer llywodraeth ranbarthol yn y DU ac yn yr Undeb Ewropeaidd, ac yn arholwr allanol ar gyfer nifer o draethodau ymchwil PhD, yn y DU a thramor. Mae ganddo gofnod helaeth o oruchwylio myfyrwyr PhD llwyddiannus, a byddai'n hapus i ystyried ceisiadau gan ddarpar ymgeiswyr doethurol sy'n chwilio am oruchwyliaeth.

Meysydd Arbenigedd

  • Derbyn Arloesi (digidol yn benodol)
  • Effaith technoleg ar ymddygiad a chymdeithas
  • Marchnata digidol ac ymddygiad defnyddwyr ar-lein
  • Dadansoddi data (SEM, fsQCA, ISM, ymagweddau Eiddo Deallusol amrywiol)

Uchafbwyntiau Gyrfa

Ymchwil

Mae ei ddiddordebau ymchwil presennol yn cynnwys mabwysiadu arloesi ac effaith (arloesi digidol yn benodol) a dealltwriaeth o natur ymddygiad defnyddwyr a chyflogeion.  Mae ganddo gofnod sylweddol o gyhoeddi, goruchwyliaeth PhD lwyddiannus, cydweithrediadau gyda phartneriaid/arianwyr allanol ac ymgysylltu â'r pwnc yn y maes.

Darllenwch fwy yma am ymchwil Mike i Ysgogi Arloesi mewn Amgylchedd Newidiol: Sut Mae Unigolion, Grwpiau a Sefydliadau’n Ymateb Wrth Ddod Ar Draws Arloesi.