Trosolwg
Ers dros ddeng mlynedd ar hugain y mae’r Athro Gwynedd Parry wedi bod yn un o hyrwyddwyr pennaf y Gymraeg ym myd y gyfraith. Dechreuodd ei yrfa fel bargyfreithiwr gan gynnig gwasanaeth proffesiynol trwy gyfrwng y Gymraeg. Yna, wedi ei benodi yn ddarlithydd yn y gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd, bu’n arloesi a chreu cyfleoedd i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau cyfreithiol proffesiynol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Prifysgol Abertawe fu ei cartref proffesiynol ers bron i chwarter canrif (pymtheg ohonynt yn Athro cadeiriog), ac y mae ysgolheictod drwy gyfrwng y Gymraeg wedi bod yn nodwedd cyson o’i yrfa. Cyhoeddodd ffrwyth ei ymchwil drwy gyfrwng y Gymraeg ac ef yw’r unig academydd cyfreithiol cadeiriog yng Nghymru sydd yn cyhoeddi ymchwil cyfreithiol drwy gyfrwng y Gymraeg. Ef hefyd yw’r unig academydd cyfreithiol i gyflwyno gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg i’r ymarferiadau asesu ymchwil (RAE/REF).
Agwedd bwysig o’i waith ymchwil yw ei weithgareddau rhyngwladol. Bu’n hybu dealltwriaeth o’r Gymraeg ac o Gymru mewn cynadleddau a chyhoeddiadau rhyngwladol, o Harvard i Ottawa, o Leiden i Santiago de Compostella, o Cluj Napoca i Batagonia.
Bu’n dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg gydol ei yrfa, o fodiwlau israddedig i gyfarwyddo myfyrwyr ar gyfer doethuriaeth, a bu’n hybu cydweithio traws-ddisgyblaethol er mwyn creu cyfleoedd newydd i fyfyrwyr brofi’r Gymraeg yn eu hastudiaethau. Yn ystod ei yrfa y mae wedi cyfrannu i ofynion gweinyddiaeth, yn fewnol ac allanol, gan gynnwys cyfnod fel Pennaeth y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe. Bu’n aelod o lawer o bwyllgorau cenedlaethol sydd yn ymwneud â’r Gymraeg a’i diwylliant, gan gynnwys Cyngor Partneriaeth y Gymraeg, Panel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg, pwyllgorau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chyngor Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Y mae’n gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru.