Photo of Grove Building entrance
Llun Richard Fry

Yr Athro Rich Fry

Athro
Health Data Science

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 606523

Cyfeiriad ebost

302
Trydydd Llawr
Yr Adeilad Gwyddor Data
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Yr Athro Richard Fry yw Athro'r Amgylchedd ac Iechyd yn yr Adran Gwyddor Data Poblogaethau yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Mae Rich wedi'i hyfforddi mewn Daearyddiaeth gyda BSc (anrh) mewn Daearyddiaeth Ffisegol a MSc a PhD mewn Gwyddor Gwybodaeth Ddaearyddol.

Ar ôl cwblhau ei astudiaethau doethurol, sicrhaodd Rich rôl ôl-ddoethurol yn Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD) yn canolbwyntio ar gysylltedd data gofodol a modelu hygyrchedd. Dychwelodd i Brifysgol Abertawe yn 2012, gan ymuno â'r Ysgol Feddygaeth fel Uwch-swyddog Ymchwil gyda ffocws ar fodelu amgylcheddol a chysylltedd data ar lefel cyfeiriad sy’n diogelu preifatrwydd.

Fel arweinydd Canolfan Ymchwil yr Amgylchedd ac Iechyd (ENVHE), mae Rich yn goruchwylio defnydd a datblygiad technegau dadansoddol uwch sydd â'r nod o ddeall y ffactorau cymdeithasol ac amgylcheddol sy'n dylanwadu ar iechyd a lles. Mae tîm ENVHE, sy'n cynnwys daearyddwyr, epidemiolegwyr, ystadegwyr, a gwyddonwyr data a myfyrwyr PhD, yn arwain ymchwil arloesol sy’n defnyddio data amgylcheddol, iechyd a gofal cymdeithasol rheolaidd cysylltiedig i greu gwybodaeth sy'n berthnasol i bolisi. Mae Rich wedi sicrhau cyllid gan Ymddiriedolaeth Wellcome, y Cyngor Ymchwil Meddygol (MRC), y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), Ymchwil Data Iechyd y DU (HDR), Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR) i gefnogi'r gweithgareddau hyn a thîm ENVHE.

Yn ogystal, mae gan Rich sawl rôl arall. Ef yw Cyd-gyfarwyddwr Ymchwil Data Iechyd Cymru, Cyfarwyddwr Cysylltiol Rhaglen Sbarduno Penderfynyddion Cymdeithasol ac Amgylcheddol Iechyd HDRUK, a Phrif Ymchwilydd prosiect MAGENTA a ariennir gan Ymddiriedolaeth Wellcome sy'n archwilio effeithiau newid yn yr hinsawdd ar iechyd mamau. Mae Rich hefyd yn arweinydd academaidd ar gyfer Ymchwil Data Gweinyddol (YDG) Cymru ym meysydd Iechyd a Lles, Newid yn yr Hinsawdd a Chyfiawnder Cymdeithasol.

Mae Rich hefyd yn cyfrannu ei arbenigedd at sawl panel cynghori gwyddonol, yn cynnwys Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, Adnodd Dadansoddol Housing Spine, Gweithgor Gofal Cymdeithasol y Grwp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau, (SAGE), a Chasgliad Ymchwil Amaethyddol Ymchwil Data Gweinyddol. Gwyddorau Dynol a Bywyd ym Mhrifysgol Abertawe. Mae Rich yn aelod o baneli cyllido ar gyfer sawl cyllidwr yn y DU yn cynnwys yr ESRC, Ymddiriedolaeth Wellcome a'r Sefydliad Ymchwil Meddygol.

Meysydd Arbenigedd

  • Modelu Amgylcheddol
  • Modelu amlygiad amgylcheddol
  • Cysylltu data iechyd
  • Daearyddiaeth Iechyd
  • Cysylltu data ar lefel cyfeiriad
  • Diogelu preifatrwydd a llywodraethu data ar gyfer data gofodol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae Rich yn addysgu ar gyrsiau israddedig ac ôl-raddedig â phwyslais ar wyddor data gofodol, gwyddor data iechyd, ystadegau gofodol a delweddu data iechyd. Ffocws ei weithgareddau addysgu a goruchwyliaeth ôl-raddedig yw sut y gallwn ddefnyddio daearyddiaeth i helpu i wella bywydau pobl. Mae Rich yn un o Gymrodorion yr Academi Addysg Uwch.

Ymchwil Cydweithrediadau