Photo of Grove Building entrance
Llun Richard Fry

Yr Athro Rich Fry

Athro, Health Data Science

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 606523

Cyfeiriad ebost

302
Trydydd Llawr
Yr Adeilad Gwyddor Data
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Dr Rich Fry yn Uwch-ddarlithydd mewn GIS (Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol) a Daearyddiaethau Iechyd, ac ef yw'r Tiwtor Derbyn Myfyrwyr Ôl-raddedig ar gyfer yr Ysgol Feddygaeth. Graddiodd Rich gyda BSc (Anrh) mewn Daearyddiaeth Ffisegol o Abertawe cyn cwblhau MSc a PhD mewn GIS a Chyfrifiadura ym Mhrifysgol De Cymru ar ôl treulio peth amser ym myd diwydiant. Ar ôl cael swydd ôl-ddoethurol yn Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD), dychwelodd i Abertawe, gan ymuno â'r Ysgol Feddygaeth fel Uwch-swyddog Ymchwil a oedd yn arbenigo mewn GIS a chysylltu data gofodol at ddibenion diogelu preifatrwydd.  Ar hyn o bryd, mae Rich yn arwain ymchwil i ddaearyddiaeth ac iechyd ar gyfer safleoedd megis HDR UK yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, ADR Cymru a Chanolfan Iechyd y Boblogaeth.   

Meysydd Arbenigedd

  • Daearyddiaeth
  • Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol
  • Modelu Gofodol
  • Diogelu Preifatrwydd wrth Gysylltu Data
  • Modelu Hygyrchedd
  • Banc Data SAIL
  • Delweddu Data Iechyd
  • Cronfeydd Data Gofodol a Chyfrifiadura

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae Rich yn addysgu ar gyrsiau israddedig ac ôl-raddedig â phwyslais ar wyddor data gofodol, gwyddor data iechyd, ystadegau gofodol a delweddu data iechyd. Mae ei weithgareddau addysgu a goruchwylio'n canolbwyntio ar ddefnyddio daearyddiaeth er mwyn helpu i wella bywydau pobl. Mae Rich yn un o Gymrodorion yr Academi Addysg Uwch. 

Ymchwil Cydweithrediadau