Trosolwg
Cafodd Siân-Eleri BSc (Anrh.) mewn Gwyddor Fiofeddygol o Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd. Cafodd PhD o'r Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol, Prifysgol Caerdydd, am archwilio modiwleiddio swyddogaeth cysylltle tynn sy'n dibynnu ar gadwyn golau myosin drwy weithredoedd peptidau sy'n treiddio drwy bilen.
Mae gan Siân-Eleri ddiddordeb brwd mewn astudio ffyrdd o gynyddu amddiffyniad cynhenid meinweoedd yn erbyn pathogenau.