Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Bydd myfyrwyr ar gwrs fferylliaeth newydd Prifysgol Abertawe yn gallu gweld datblygiadau uwch dechnoleg mewn gofal fferyllol yn y gymuned o lygad y ffynnon yn sgil partneriaeth newydd.
Mae'r Brifysgol wedi ymuno ag Evans Pharmacy i feithrin partneriaeth gydweithredol sy'n darparu lleoliadau gwaith i fyfyrwyr, yn datblygu'r cwricwlwm ac yn cefnogi ei hymchwil.
Mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe yn lansio ei gradd MPharm ym mis Hydref 2021 felly mae'r bartneriaeth gydweithredol hon yn hynod amserol, meddai’r Pennaeth Fferylliaeth, Andrew Morris.
"Dyma ddatblygiad newydd cyffrous wrth i ni nesáu at ddechrau ein cwrs fferylliaeth cyntaf.
“Rydym wedi cael cefnogaeth wych gan y proffesiwn fferyllol wrth ddatblygu'r rhaglen, ac erbyn hyn rydym yn ddiolchgar iawn o allu gweithio'n fwy agos gydag Evans Pharmacy a'r cyfleoedd a ddaw o hyn," dywedodd.
I nodi'r bartneriaeth, aeth yr Athro Morris i gangen Evans Pharmacy ym meddygfa Tŷ Elli yn Llanelli. Dyma un o lond llaw o fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru a fydd yn defnyddio robot cymwysedig i gynorthwyo wrth roi meddyginiaethau mewn modd effeithiol.
Meddai Prif Swyddog Gweithredol Evans Pharmacy, Dr Mo Nazemi: "Mae gennym 10 fferyllfa annibynnol ledled de Cymru sy'n cynnig cyngor i'r cyhoedd ar feddygaeth yn ogystal â sut i fyw bywyd mwy iach. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'r Ysgol Feddygaeth a gallu chwarae rhan bwysig wrth hyfforddi fferyllwyr y dyfodol."
Ychwanegodd yr Athro Morris: "Mae'r manteision o ymestyn rolau clinigol i fferyllwyr bellach wedi'u cydnabod, ac mae'r GIG yn ymdrechu i gynyddu nifer y fferyllwyr mewn meddygfeydd cyffredinol a chlystyrau gofal sylfaenol yn ogystal ag fel fferyllwyr cymunedol sy'n cynnig ystod o wasanaethau clinigol.
"Bydd partneriaeth o'r fath yn rhoi'r cyfle i'n myfyrwyr ddysgu am ofalu am y gymuned drwy weithio gyda hi."
Pennaeth Fferylliaeth Prifysgol Abertawe, Andrew Morris gyda Dr Mo Nazemi yng nghangen Tŷ Elli Evans Pharmacy.