Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
O sgrinio am glefydau heintus i ddiagnosis cynnar canser y coluddyn, deall effaith amgylcheddol tanau gwyllt, ymateb i bropaganda ar-lein gan derfysgwyr, datblygu cyfarpar diogelwch ar gyfer athletwyr proffesiynol a hyrwyddo gwyddoniaeth yn y gymuned; amlygwyd amrywiaeth syfrdanol yr ymchwil a wneir ym Mhrifysgol Abertawe yng Ngwobrau Ymchwil ac Arloesi 2020.
Gwahoddwyd ymchwilwyr o bob un o saith Coleg y Brifysgol i gyflwyno cynigion, a derbyniwyd 112 a oedd yn cwmpasu'r 10 categori yn y gwobrau. Roedd pob cais yn enghraifft dda o ansawdd, perthnasedd ac effaith fyd-eang gadarnhaol ymchwil Prifysgol Abertawe a'i gallu i ysbrydoli.
Meddai Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Paul Boyle:
"Mae Prifysgol Abertawe wedi datblygu’n aruthrol ers i Frenin Siôr V osod ein carreg sylfaen ac agorwyd y drysau i'r myfyrwyr cyntaf ganrif yn ôl i eleni.
"A hithau wedi'i sefydlu gan ddiwydiant ar gyfer diwydiant, mae llwyddiant Prifysgol Abertawe wrth wneud gwahaniaeth dros y ganrif ddiwethaf yn seiliedig ar gydweithredu.Cydweithredu hefyd fydd wrth wraidd ein llwyddiant parhaus dros y ganrif nesaf a'n gallu i fynd i'r afael â heriau byd-eang sy'n datblygu'n gyflym ac i achub ar gyfleoedd cyffrous newydd.
"Fel sefydliad, rydym wedi cydweithio â thros 4,000 o sefydliadau mewn 53 o wledydd yn ein gorffennol diweddar. Mae'r gwobrau hyn yn dangos yr hyn y gallwn ei gyflawni drwy gydweithio.Yr effaith rydym yn ei chael gyda'n gilydd. Y gwahaniaeth rydym yn ei wneud gyda'n gilydd."
Cyhoeddwyd yr enillwyr mewn seremoni yn Neuadd Fawr Prifysgol Abertawe lle cafwyd araith gan y siaradwr gwadd, Is-ysgrifennydd Gwladol Cymru.
Meddai David TC Davies, Gweinidog dros Gymru Llywodraeth y DU:
"Mae Prifysgol Abertawe am lawer o flynyddoedd wedi chwarae rôl ganolog wrth wella rhagolygon economaidd y rhanbarth a Chymru’n gyffredinol, ynghyd â chyfrannu ymchwil o arwyddocâd byd-eang.
"Mae’r prosiectau ymchwil ac arloesi sy’n torri tir newydd ar y campws ar hyn o bryd yn hynod bwysig i addysgu’r genhedlaeth nesaf, gan greu cwmnïau a swyddi medrus newydd a pharhau i ddenu’r doniau gorau i Gymru a’r DU."
Cyn cyhoeddi'r cynigion buddugol, gwnaeth y gwesteion o ddiwydiant, y gymuned academaidd, y trydydd sector, cyrff cyllido a'r Llywodraeth, fwynhau cyflwyniad ysbrydoledig gan yr Athro Amy Brown a Dr Natalaie Shenker am sut maent yn cydweithio i newid y sgwrs ynghylch bwydo ar y fron ac effaith gadarnhaol ac ysbrydoledig y gwaith hwn ar fywydau llawer o bobl.
Dyma enillwyr y 10 categori a'u noddwyr:
- Cydweithrediad Ymchwil ac Arloesi Eithriadol (noddir gan Baldwins)Timau Prosiect Biosbectrosgopeg a CRaFT Abertawe (Diagnosis Cynnar Canser y Coluddyn)
- Cyrhaeddiad ac arwyddocâd byd-eang eithriadol (noddir gan LiteLok) Tîm ar Dân' Prifysgol Abertawe (Gwneud gwahaniaeth yn lleol ac yn fyd-eang)
- Cyfraniad eithriadol at ymgysylltu â’r cyhoedd (noddir gan Complete Resourcing) Oriel Science (Hyrwyddo Gwyddoniaeth yn y Gymuned)
- Effaith eithriadol ar Iechyd a Lles (noddir gan GX Group) Professor Ronan Lyons (Effaith banc data SAIL)
- Effaith eithriadol ar ddiwydiant, masnach ac arloesi (noddir gan Fanc Datblygu Cymru) ProColl Ltd (Colagen o gelloedd i geliau gan rymuso meddygaeth aildyfu)
- Cyfraniad eithriadol at y celfyddydau, diwylliant a chymdeithas (noddir gan Crunch Simply Digital) Gweithfeydd Copr yr Hafod Morfa (Adfywio a Arweinir gan Gymunedau, Partneriaid a Threftadaeth)
- Cyfraniad eithriadol at ffurfio Cymuned Ymchwil ac Arloesi’r brifysgol (noddir gan Fujitsu) Swyddfa Ymchwil Ôl-raddedig (Adeiladu cymuned ymchwil ôl-raddedig fywiog drwy arbenigedd ac ymgysylltu)
- Goruchwyliaeth Ymchwil Eithriadol (noddir gan: Prifysgol Abertawe) Yr Athro Nuria Lorenzo-Dus
- Unigolyn Mwyaf Addawol Ymchwil ac Arloesi – Ôl-raddedig (noddir gan Winslow Adaptics) Sara Correia
- Unigolyn Mwyaf Addawol Ymchwil ac Arloesi – Dechrau Gyrfa (noddir gan SPTS Technologies) Dr Jenny Baker
Meddai Ceri Jones, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Ymchwil, Ymgysylltu ac Arloesi (REIS) ym Mhrifysgol Abertawe:
"Hoffem ddiolch i'n prif noddwr, y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol am ei gefnogaeth parhaus a'r sylfaen gadarn ar gyfer y dyfodol mae wedi ei chreu yn ein diwylliant ymchwil, drwy roi i ni'r offer i uchafu effaith llawer o'n gweithgareddau ymchwil ac arloesi yma ym Mhrifysgol Abertawe.
"Hoffwn ddiolch hefyd i holl noddwyr ein digwyddiad. Mae wedi bod yn bleser mawr gennym weithio gyda llawer ohonynt dros y blynyddoedd blaenorol, ac edrychwn ymlaen at gydweithio â nhw yn y blynyddoedd i ddod.
"Mae REIS yn hynod falch o'r cyfle i drefnu'r gwobrau Ymchwil ac Arloesi eleni. Mae ansawdd, cyfanswm ac amrywiaeth yr ymchwil a wneir ar y lefel uchaf ym Mhrifysgol Abertawe yn fy syfrdanu bob amser.
"Byddwn yn annog unrhyw un sydd am gydweithio â'r Brifysgol i ymuno â'n rhwydwaith cydweithredol newydd - Prifysgol Abertawe: LINC - a bod yn rhan o’n taith."