Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Myfyrwyr mentrus yn ennill cymorth gan gyn-fyfyrwyr llwyddiannus mewn rhaglen fentora newydd
Mae cyn-fyfyrwyr llwyddiannus wedi dychwelyd i Brifysgol Abertawe i helpu i annog y genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid ifanc.
Cymerodd tri chyn-fyfyriwr ran yn y digwyddiad ‘Start-up to CEO,’ sef menter newydd a lansiwyd i roi’r cyfle i fyfyrwyr presennol wneud argraff ac ennill mentora un-i-un.
Ar ôl rhannu eu cefndiroedd a’r sgiliau maen nhw’n eu cynnig, clywodd Huw Hampson-Jones o Oxis Energy, Andrew Overton o Connexas, a Simon Saxby o Leaf Expression Systems, gyflwyniadau gan saith myfyriwr cyn eu holi am eu syniadau a’u dyheadau.
Roedd pump o’r busnesau cychwynnol yn llwyddiannus wrth sicrhau un o’r tri fel mentor a byddant bellach yn elwa ar chwe mis o arweiniad a fydd yn ceisio eu helpu i dyfu a chynnal eu busnesau.
Bydd y gweddill yn gallu gofyn i’r Prif Swyddogion Gweithredol am gymorth o hyd, a gallant barhau i gael cymorth gan Gwasanaethau Ymchwil, Ymgysylltu ac Arloesi.
Gwnaeth y cyflwyniadau yn ogystal â’r fenter argraff fawr ar Simon Saxby, meddai, a ddyfeisiwyd fel cydweithrediad rhwng yr Adran Ymchwil ac Arloesedd a chyn-fyfyrwyr y Brifysgol.
Meddai: “Bydd hyn yn hynod werthfawr i’r rhai hynny sydd â dawn entrepreneuraidd. Mae’n braf gallu rhoi rhywbeth yn ôl i’r Brifysgol lle cefais dair blynedd pleserus a newidiodd fy mywyd.”
Dywedodd y Swyddog Entrepreneuriaeth, Kelly Jordan: “Ar ôl treulio dwy flynedd yn cefnogi ac yn arwain rhai o’n busnesau cychwynnol gan fyfyrwyr, roedd yn wych eu gweld yn cyflwyno i’r Prif Swyddogion Gweithredol sydd â chyfoeth o wybodaeth a phrofiad.
“Dyna pam mae’n debyg mai hwn oedd y diwrnod balchaf a mwyaf buddiol yn fy rôl ym Mhrifysgol Abertawe.”
Ychwanegodd Andrew Overton: ”Rwy’n edrych ymlaen at gefnogi’r egin fusnesau hyn a rhoi rhywbeth yn ôl i rywle lle mae gennyf atgofion melys 35 mlynedd yn ôl.”
Canmolwyd y tri am roi eu cymorth i’r fenter gan Gerard Kennedy, Rheolwr Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr y Brifysgol.
“Mae’r brwdfrydedd y mae ein cyn-fyfyrwyr yn ei ddangos i helpu’n myfyrwyr presennol yn wych. Mae digwyddiadau o’r fath yn creu cyfleoedd gwych i’n cyn-fyfyrwyr roi yn ôl i’r Brifysgol, a meithrin perthnasoedd cryfach rhwng cymunedau myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr.”
Dyma’r myfyrwyr a gymerodd ran:
- Tofazzal Rashid a Sajal Gurung (Ffrind)
- Luke Green (GoGo Coffee)
- Sion Williams (RAVS)
- Jordan Williams (Pathetic Brands)
- Cameron Calder (NFC Assist)
- Benjamin Humphries (Calibar)
- Tom Robertson (GAIN)
Yn y digwyddiad, clywodd y myfyrwyr hefyd gan Nathan John, sef Prif Swyddog Gweithredol Sefydliad Rewise a SurfAbility UK bellach, a siaradodd am ei daith ers graddio o Abertawe yn 2006.
Os ydych yn fusnes a gychwynnwyd yn ddiweddar neu’n gyn-fyfyriwr llwyddiannus a hoffai gymryd rhan yn y cynllun, cysylltwch â Phrifysgol Abertawe ar 01792 606060.
Os ydych yn fusnes a gychwynnwyd yn ddiweddar neu’n gyn-fyfyriwr llwyddiannus a hoffai gymryd rhan yn y cynllun, cysylltwch â’n tîm gwybodaeth busnes.
Mae llawer o ffyrdd y gallwch gefnogi ein myfyrwyr presennol ac entrepreneuriaid y dyfodol gan gynnwys:
1. Cynnig lleoliadau entrepreneuraidd neu interniaethau yn eich sefydliad
2. Rhoi sgwrs llawn ysbrydoliaeth yn y Brifysgol
3. Mentora myfyrwyr sy’n dymuno dilyn gyrfa yn eich diwydiant
4. Awgrymu problemau ar gyfer ein prosiectau “Profiad Go Iawn”
5. Cymorth ariannol: rhoi rhodd i gronfa dechrau busnes i fyfyrwyr neu tuag at gyflwyno addysg entrepreneuraidd
6. Buddsoddiad cychwynnol ar gyfer busnes newydd neu syniad am fusnes
7. Hyrwyddo’r hyn y mae’r Brifysgol yn ceisio ei gyflawni drwy eich rhwydweithiau i annog sefydliadau eraill i gymryd rhan