Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

 Richard Burton

Bydd chwe ffilm Richard Burton yn cael eu dangos yn Cinema & Co Abertawe fel rhan o ŵyl arbennig sy’n dathlu bywyd y seren Hollywood o Bontrhydyfen.

Bydd y ffilmiau yn cael eu dangos bob nos Lun am chwe wythnos, gan ddechrau gydag Equus ar 17 Chwefror.

Bydd pob dangosiad yn dechrau gyda chyflwyniad gan arbenigwr blaenllaw o Brifysgol Abertawe, gan gynnwys yr hanesydd yr Athro Martin Johnes a'r arbenigwr ffilm Dr Nicko Vaughan.

Mae'r ffilmiau eraill a dangosir fel rhan o'r ŵyl yn cynnwys:

  • The Spy Who Came in from the Cold (24 Chwefror)
  • The Exorcist 2 (2 Mawrth)
  • Cleopatra (9 Mawrth)
  • Taming of the Shrew (16 Mawrth)
  • 1984 (25 Mawrth)

Trefnir yr ŵyl gan Sefydliad Diwylliannol Prifysgol Abertawe a Chanolfan Astudiaethau Cymreig Richard Burton mewn partneriaeth ag arddangosfa ‘Bywyd Richard Burton’ yr Amgueddfa Genedlaethol sy’n agor y gwanwyn hwn. Bydd yr arddangosfa’n cynnwys dyddiaduron, papurau a gwrthrychau personol Burton sydd ar fenthyg o Archifau Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe.

Dywedodd yr Athro Daniel Williams, Cyfarwyddwr Canolfan Astudiaethau Cymreig Richard Burton: “Wrth ddathlu Richard Burton y tymor hwn, rydym yn cwmpasu llu o gyfnodau ac awduron: o'r Aifft i'r Rhyfel Oer; o aflonyddwch seicolegol i ormes dotalitaraidd; o Shakespeare i Peter Shaffer. Y tu hwnt i'r bywyd a'r dyddiaduron mae yna gorff o waith a adawodd Burton ar ei ôl. Rwy'n falch iawn bod nifer o fy nghydweithwyr wedi cytuno i gyflwyno'r ffilmiau hyn wrth i ni geisio asesu'r gwaith hwnnw, a'i gadw'n fyw.”

Rhannu'r stori