Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Masg FP3

Mae timau ar draws Prifysgol Abertawe yn dod at ei gilydd i gefnogi consortiwm sydd newydd ei sefydlu - SWARM (Consortiwm Gweithgynhyrchu Ychwanegion a Chyflym de Cymru) - yn ei genhadaeth i gefnogi ymateb GIG Cymru i covid-19.

Consortiwm yw SWARM, dan gadeiryddiaeth Roger Evans MBE ac sy’n cael ei redeg gan Paul Harwood o TechHub Abertawe, sy’n adrodd i Ddiwydiant Cymru.

Mae'r GIG yn ne Cymru yn trin nifer cynyddol o gleifion mewn ymateb i covid-19, ac mae’r galw cynyddol hwn yn creu angen am gyflenwadau ychwanegol mewn meysydd allweddol fel peiriannau anadlu i gleifion ac offer amddiffyn personol i staff. Mae SWARM wedi'i sefydlu i gydlynu’r capasiti sydd ar gael o ran diwydiant, gweithgynhyrchu a dylunio, yn ne Cymru, i gynnal cadwyn gyflenwi'r GIG.

Mae cadwyn gyflenwi'r GIG yn ymateb er mwyn cael offer amddiffynnol hanfodol at y gwasanaethau rheng flaen a gall diwydiant, dylunio a gweithgynhyrchu lleol helpu gyda chyflenwi offer amddiffynnol personol. Mae SWARM wedi lansio ei ymgyrch gyntaf i ddod o hyd i fath penodol o fasg amddiffynnol - masgiau FP3 a fisorau wyneb amddiffynnol.

Meddai Paul Harwood o SWARM: “Ydych chi'n gwmni sydd â masgiau FP3 a all fynd i'n hysbytai? Ydych chi'n ddylunydd sydd â syniad gwych ar gyfer fisor amddiffynnol ac sy'n gallu creu a chyfrannu rhywfaint? Os ydych chi, rydyn ni am glywed gennych chi. Gall SWARM gydlynu eich syniadau, eich cyflenwadau a'ch cyfraniadau a'u trosglwyddo yn ddiogel ac yn effeithlon i'r GIG fel y gallant fod o gymorth. Ewch i'n tudalen we a chofrestru’r hyn y gallwch gynnig, byddwn yn cysylltu'ch cynigion o gefnogaeth â'r Byrddau Iechyd ac yn cael pethau i symud. "

Dywedodd yr Athro Iain Whitaker, deiliad Cadair Glinigol mewn Llosgiadau a Llawfeddygaeth Blastig ym Mhrifysgol Abertawe: “Ar hyn o bryd, yr angen mwyaf dybryd yw math penodol o fasg - o’r enw masg FP3 - a fisorau sy’n mynd dros ben y masg. Mae tystiolaeth yn dangos mai’r cyfuniad hwn yw'r ffordd orau o amddiffyn staff. Nid yw hyn yn ymwneud yn unig â chleifion covid-19, os oes gan staff ein GIG yr offer amddiffynnol cywir, gallant hefyd aros yn ddiogel wrth iddynt barhau i roi triniaeth i bawb sydd ei hangen ar frys ar hyn o bryd, beth bynnag fo'u hanaf neu eu salwch. "

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Paul Boyle: “Mae Prifysgol Abertawe yn falch iawn o gefnogi menter SWARM. Mae timau ar draws ein dau gampws eisoes yn gweithio ar ddyfeisiau dylunio - o fisorau i fasgiau i beiriannau anadlu -  ac yn gwneud paratodau i gynhyrchu hylif dihentio dwylo ar raddfa fawr sy’n cwrdd â safon Awdurdod Iechyd y Byd.

“Y peth gwych am SWARM yw ei fod yn gallu estyn allan at, a chydlynu, unrhyw gynnig o gymorth, gan gwmnïau mawr sy'n gallu cyfrannu cyflenwadau ar hyn o bryd, neu gan ddylunydd creadigol unigol sy'n gweithio gartref ar syniad allai helpu. Gall pob un ohonom gefnogi 

“Dyfeisiodd dinas Abertawe y system arloesi ddiwydiannol gyntaf erioed pan adeiladodd y fasnach gopr yn y 19eg ganrif, fe ddigwyddodd pethau rhyfeddol yma yn ein dinas lan môr hardd. Treuliodd y ffisegydd Nobel arobryn, Michael Faraday, un haf yn yr Hafod, ychydig filltiroedd o ysbyty Treforys, yn dyfeisio ffyrdd i gael gwared ar lygredd o bentyrrau mwyndoddi copr. Cydweithiodd diwydianwyr, dylunwyr, dyfeiswyr a gweithgynhyrchwyr gyda'r rhai a aeth ymlaen i sefydlu Prifysgol Abertawe, gan ddatrys heriau enfawr yma, dros ganrif yn ôl. Gall Abertawe wneud hynny eto a helpu ein GIG gwych i ymateb i covid-19. Cysylltwch â SWARM os ydych chi'n gallu cefnogi'r ymgyrch wych hon. "

Sefydlu consortiwm diwydiant de Cymru i gefnogi ymateb y GIG i Covid-19

Mae timau ar draws Prifysgol Abertawe yn dod at ei gilydd i gefnogi consortiwm sydd newydd ei sefydlu - SWARM (Consortiwm Gweithgynhyrchu Ychwanegion a Chyflym de Cymru) - yn ei genhadaeth i gefnogi ymateb GIG Cymru i covid-19.

Consortiwm yw SWARM, dan gadeiryddiaeth Roger Evans MBE ac sy’n cael ei redeg gan Paul Harwood o TechHub Abertawe, sy’n adrodd i Ddiwydiant Cymru.

Mae'r GIG yn ne Cymru yn trin nifer cynyddol o gleifion mewn ymateb i covid-19, ac mae’r galw cynyddol hwn yn creu angen am gyflenwadau ychwanegol mewn meysydd allweddol fel peiriannau anadlu i gleifion ac offer amddiffyn personol i staff. Mae SWARM wedi'i sefydlu i gydlynu’r capasiti sydd ar gael o ran diwydiant, gweithgynhyrchu a dylunio, yn ne Cymru, i gynnal cadwyn gyflenwi'r GIG.

Mae cadwyn gyflenwi'r GIG yn ymateb er mwyn cael offer amddiffynnol hanfodol at y gwasanaethau rheng flaen a gall diwydiant, dylunio a gweithgynhyrchu lleol helpu gyda chyflenwi offer amddiffynnol personol. Mae SWARM wedi lansio ei ymgyrch gyntaf i ddod o hyd i fath penodol o fasg amddiffynnol - masgiau FP3 a fisorau wyneb amddiffynnol. 

Meddai Paul Harwood o SWARM: “Ydych chi'n gwmni sydd â masgiau FP3 a all fynd i'n hysbytai? Ydych chi'n ddylunydd sydd â syniad gwych ar gyfer fisor amddiffynnol ac sy'n gallu creu a chyfrannu rhywfaint? Os ydych chi, rydyn ni am glywed gennych chi. Gall SWARM gydlynu eich syniadau, eich cyflenwadau a'ch cyfraniadau a'u trosglwyddo yn ddiogel ac yn effeithlon i'r GIG fel y gallant fod o gymorth. Ewch i'n tudalen we a chofrestru’r hyn y gallwch gynnig, byddwn yn cysylltu'ch cynigion o gefnogaeth â'r Byrddau Iechyd ac yn cael pethau i symud. "

Dywedodd yr Athro Iain Whitaker, deiliad Cadair Glinigol mewn Llosgiadau a Llawfeddygaeth Blastig ym Mhrifysgol Abertawe: “Ar hyn o bryd, yr angen mwyaf dybryd yw math penodol o fasg - o’r enw masg FP3 - a fisorau sy’n mynd dros ben y masg. Mae tystiolaeth yn dangos mai’r cyfuniad hwn yw'r ffordd orau o amddiffyn staff. Nid yw hyn yn ymwneud yn unig â chleifion covid-19, os oes gan staff ein GIG yr offer amddiffynnol cywir, gallant hefyd aros yn ddiogel wrth iddynt barhau i roi triniaeth i bawb sydd ei hangen ar frys ar hyn o bryd, beth bynnag fo'u hanaf neu eu salwch."

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Paul Boyle: “Mae Prifysgol Abertawe yn falch iawn o gefnogi menter SWARM. Mae timau ar draws ein dau gampws eisoes yn gweithio ar ddyfeisiau dylunio - o fisorau i fasgiau i beiriannau anadlu -  ac yn gwneud paratodau i gynhyrchu hylif diheintio dwylo ar raddfa fawr sy’n cwrdd â safon Awdurdod Iechyd y Byd.

“Y peth gwych am SWARM yw ei fod yn gallu estyn allan at, a chydlynu, unrhyw gynnig o gymorth, gan gwmnïau mawr sy'n gallu cyfrannu cyflenwadau ar hyn o bryd, neu gan ddylunydd creadigol unigol sy'n gweithio gartref ar syniad allai helpu. Gall pob un ohonom gefnogi.

“Dyfeisiodd dinas Abertawe y system arloesi ddiwydiannol gyntaf erioed pan adeiladodd y fasnach gopr yn y 19eg ganrif, fe ddigwyddodd pethau rhyfeddol yma yn ein dinas lan môr hardd. Treuliodd y ffisegydd Nobel arobryn, Michael Faraday, un haf yn yr Hafod, ychydig filltiroedd o ysbyty Treforys, yn dyfeisio ffyrdd i gael gwared ar lygredd o bentyrrau mwyndoddi copr. Cydweithiodd diwydianwyr, dylunwyr, dyfeiswyr a gweithgynhyrchwyr gyda'r rhai a aeth ymlaen i sefydlu Prifysgol Abertawe, gan ddatrys heriau enfawr yma, dros ganrif yn ôl. Gall Abertawe wneud hynny eto a helpu ein GIG gwych i ymateb i covid-19. Cysylltwch â SWARM os ydych chi'n gallu cefnogi'r ymgyrch wych hon."

APÊL SWARM AR GYFER MASGIAU

Os oes gennych unrhyw fasgiau FP3, mae SWARM eisiau clywed gennych chi. Gall SWARM gasglu eich gwybodaeth ar eu lein ffôn frys 01792 277217, drwy eu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol @SWARMCovid19, arlein neu drwy ebost a’i throsglwyddo i GIG Cymru.

Rhannu'r stori