Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

COVID-19 a ‘Ffliw Sbaen’ 1918-19: y gwahaniaethau sy'n rhoi gobaith i ni

Mae Dr Michael Bresalier, sy'n ddarlithydd yn Hanes Meddygaeth ym Mhrifysgol Abertawe, wedi cyhoeddi cipolwg hanesyddol sy'n amlygu gwahaniaethau pwysig rhwng COVID-19 a phandemig ffliw 1918-19.

Mae'n dangos yn History and Policy bod amgylchiadau’r pandemig, sef y ffaith bod rhyfel yn y cefndir, yn ogystal â diffyg llywodraethu byd-eang a chyflwr gwybodaeth glinigol, yn wahanol iawn i'r sefyllfa sy'n bodoli heddiw.

“Fel hanesydd y ffliw, rwy'n credu ei bod o fudd mawr edrych yn ôl i bandemig 1918 am wersi,” meddai. “Ond rwyf hefyd yn ofalus ynghylch yr hyn rydym am ei ddysgu oddi wrtho a'r ffordd y caiff ei ddefnyddio.

“Gall rhuthro i ddod o hyd i bethau tebyg guddio'r gwahaniaethau pwysig rhwng y ddau bandemig. Rydym yn colli golwg ar y newidiadau mawr a gafwyd ers hynny.

"Mae'n werth ystyried rhai gwahaniaethau hollbwysig rhwng ffliw 1918 a COVID-19 a'r hyn y gallwn ei ddysgu oddi wrth y rhain.’

Darllenwch yr erthygl lawn.

Rhannu'r stori