Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
‘Ffurfiwyd gan Ddur’ yw’r gynhadledd Twitter gyntaf erioed i gael ei chynnal gan Brifysgol Abertawe. Wrth i gynadleddau ‘wyneb yn wyneb’ mwy traddodiadol gael eu canslo oherwydd pandemig COVID-19 mae tîm prosiect ymchwil ‘Byd Cymdeithasol Dur’ yr Adran Hanes yn defnyddio Twitter fel ffordd arall o rannu ymchwil ac ymarfer treftadaeth i gynulleidfa wahanol y Twittersffêr.
Bydd haneswyr, archeolegwyr a gweithwyr proffesiynol ym maes treftadaeth o chwe gwlad ac ar gyfnodau gwahanol yn eu gyrfaoedd yn cyflwyno eu papurau fel cyfres o ‘drydaron’ byw gan archwilio dimensiynau dynol gwaith a bywyd ym maes dur ac ar ôl maes dur.
Bydd themâu’r sesiwn yn cynnwys cadwraeth a dehongli treftadaeth gwaith dur; ymateb y gweithwyr a’u cymunedau i gau’r gwaith dur; profiadau a hunaniaethau yn y gweithle; a chynaliadwyedd dur mewn cyfnod o newid yn yr hinsawdd.
Mae’r rhaglen ddeuddydd yn cynnig safbwyntiau daearyddol eang gan gynnwys Cymru a’r Deyrnas Unedig, Canada, Siapan, Awstralia, Yr Ariannin, Yr Almaen, yr Unol Daleithiau a Sweden.
Mwy o wybodaeth am y gynhadledd
Mae rhaglen y gynhadledd yn cynnwys:
- Leslie Mabon, o Brifysgol Ucheldiroedd ac Ynysoedd yr Alban, ar Steel, Identity and Sustainability in the Steelmaking City of Muroran, Hokkaido, Japan
- Lachlan MacKinnon, o Brifysgol Cape Breton, ar Modernising to Oblivion: Social Upheaval at the end of Integrated Steelmaking in Nova Scotia, Canada
- Joan Heggie o Brifysgol Teesside ar Steel Stories: making sense of a Teesside without Steel.
Mae trefnwyr y gynhadledd, yr Athro Louise Miskell a Dr Hilary Orange, wrth eu boddau bod y digwyddiad wedi denu diddordeb mor eang.
Meddai'r Athro Louise Miskell:
“Roeddem am i'r gynhadledd ymwneud â deall profiadau pobl o'r diwydiant byd-eang hwn a mynd i'r afael â rhai o'r themâu mawr megis effaith ar yr amgylchedd, dad-ddiwydiannu ac adfywio sy'n wynebu cymunedau dur y gorffennol a'r presennol heddiw.”
Meddai Dr Hilary Orange:
“Rydym yn falch bod cynifer o'n cydweithwyr sy'n gweithio ym maes hanes a threftadaeth y diwydiant dur yn barod i roi cynnig ar y fformat arloesol hwn. Wrth i gynifer o bobl weithio gartref, dan gyfyngiadau symud, mae cyfleuster cynadledda Twitter yn rhoi dewis amgen rhad a chynaliadwy i gyfarfodydd academaidd traddodiadol.”
Un fantais dros fformat cynhadledd draddodiadol yw gall unrhyw un ‘fynychu’ trwy ddilyn @SteelWorlds a chan ymuno â’r cwestiynau a’r drafodaeth gan ddefnyddio hashnod y gynhadledd #SWOS20.
Mae croeso i bawb. Bydd y tim hyd yn oed yn cofnodi diwedd y gynhadledd trwy gynnal derbyniad gwin rhithwir.
Bydoedd Cymdeithasoedd Dur