Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Prifysgol Abertawe'n cefnogi ymgyrch i wneud Cymru'n bencampwyr ailgylchu'r byd
Mae Prifysgol Abertawe wedi troi'n wyrdd, a hynny'n llythrennol, er mwyn pwysleisio'r neges y dylid ailgylchu.
Fel ffordd o ddathlu Wythnos Ailgylchu, a ddechreuodd ddoe, mae'r Brifysgol yn cefnogi ymgyrch Wrap Cymru, sef Bydd Wych, Ailgylcha, ac yn dangos y gefnogaeth honno drwy droi Tŷ Fulton yn wyrdd bob nos yr wythnos hon.
Defnyddir goleuadau gwyrdd i oleuo'r adeilad yng nghanol Campws Singleton a dathlu ymrwymiad Cymru i ailgylchu.
Mae pobl ifanc yng Nghymru'n ailgylchu'n fwy nag erioed o'r blaen – yn ôl yr ystadegau, mae mwy na thri chwarter y bobl rhwng 18 a 24 oed yn ailgylchu'n rheolaidd ac mae 76% yn ailgylchu'n fwy eleni nag yn 2019.
Meddai Pennaeth Cynaliadwyedd Prifysgol Abertawe, Dr Heidi Smith: “Mae Cymru'n wlad fach sy'n rhagori o ran ailgylchu. Dim ond dwy wlad yn y byd sydd o'n blaen ni ac yma ym Mhrifysgol Abertawe rydym am wneud popeth posib i roi Cymru ar y brig.”
Mae ailgylchu'n chwarae rôl wrth fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd ac mae'n rhywbeth bach y gall pawb ei wneud er mwyn helpu i gael effaith go iawn. Mae Prifysgol Abertawe wedi cymryd camau sylweddol dros y blynyddoedd er mwyn lleihau gwastraff a chynyddu cyfraddau ailgylchu.
Ychwanegodd Dr Smith: “Mae ailgylchu bellach yn gyffredin yma ac mae'r rhan fwyaf o'n myfyrwyr yn ailgylchu fel rhan o'u trefn feunyddiol. Maent yn ailgylchu croen ffrwythau a llysiau, plisg wyau, bagiau te a bwyd dros ben yn eu blychau bwyd; yn ailgylchu deunydd o bob ystafell, gan gynnwys yr ystafell ymolchi a'r ystafell wely; ac yn ailgylchu eitemau lletchwith megis erosolau gwag.
"Ar gampws, maent yn gwneud y mwyaf o'n biniau gwastraff a’n biniau ailgylchu ar wahân.”
Ond er bod cynnydd wedi cael ei wneud, dywedodd y Swyddog Gwastraff ac Ailgylchu Fiona Wheatley y gellid gwella o hyd.
“Rydym yn gwybod bod ein myfyrwyr yn poeni am newid yn yr hinsawdd a'u bod am wneud popeth posib i wneud Cymru'n lanach ac yn wyrddach. Gyda'n gilydd, gallwn helpu Cymru i gyrraedd y brig a diogelu'r blaned drwy ailgylchu mwy o'r pethau cywir, bob tro.”
Yn ôl y Tîm Cynaliadwyedd, mae ailgylchu'n haws nag erioed yn y Brifysgol. Mae'r cwmni Veolia yn casglu deunydd ailgylchu a gwastraff bwyd bob wythnos a cheir biniau ailgylchu yn fewnol ac yn allanol ar y ddau gampws sy'n golygu y gellir gwahanu papur, plastigion, caniau, bwyd a gwydr yn hawdd.
Ewch i i gael mwy o wybodaeth, cadwch lygad am yr hysbysebion ar y teledu, ar fysiau ac yn y cyfryngau cymdeithasol ledled Cymru neu ymunwch yn y sgwrs gan ddefnyddio'r hashnod #CymruYnAilgylchu
Awgrymiadau gwych ar gyfer cael Cymru i rif un
• Ailgylchu ein gwastraff bwyd yw un o’r ffyrdd hawsaf o roi hwb i’n hailgylchu. Rhowch unrhyw wastraff bwyd – waeth bynnag mor fach ydyw – yn eich cadi gwastraff bwyd i sicrhau ei fod yn cael ei gasglu bob wythnos;
• Nid yw ailgylchu’n gorffen ar drothwy’r gegin – cofiwch ailgylchu o ystafelloedd eraill hefyd. Fe fyddech chi’n synnu faint o wastraff o’r ystafell ymolchi, fel poteli siampŵ, cyflyrydd gwallt, sebon dwylo a gel cawod y gellir ei ailgylchu;
• Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwybod bod modd ailgylchu poteli dŵr, caniau, a phapur a cherdyn, ond cofiwch y gallwch ailgylchu eitemau mwy anghyffredin hefyd, fel caniau erosol gwag. Ac os nad ydych chi’n siŵr beth y gallwch ac na allwch ei ailgylchu, ewch i gael golwg ar y Lleolydd Ailgylchu gan Cymru yn Ailgylchu;
• Cofiwch wasgu caniau, potiau, tybiau a chynwysyddion i arbed lle yn eich bag, bin, bocs neu gadi ailgylchu. A rinsiwch nhw’n gyflym cyn eu hailgylchu – does dim angen eu dal o dan y tap, bydd eu trochi’n gyflym yn y bowlen golchi llestri yn gwneud y tro.