Logo'r Coleg Cymraeg

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi penodi pum llysgennad newydd ar gyfer 2021 o Brifysgol Abertawe i rannu Sŵn y Stiwdants ac annog mwy o ddarpar fyfyrwyr i ymddiddori ym maes addysg uwch cyfrwng Cymraeg.

Mae cyfanswm o 26 o lysgenhadon eleni mewn saith prifysgol ledled Cymru. Eu prif rôl fel llysgenhadon fydd perswadio mwy o ddysgwyr o ysgolion a cholegau addysg bellach i ddilyn eu hastudiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg a chyflwyno’r manteision a ddaw o hynny.

Byddant yn cynrychioli’r Coleg Cymraeg mewn amryw ffyrdd ar-lein, gan gynnwys rhoi cyflwyniadau,  creu a chyfrannu at gynnwys gwefannau cymdeithasol y Coleg, ysgrifennu blogiau a chreu podlediadau Sŵn y Stiwdants.

Llysgenhadon Prifysgol Abertawe yw:

  • Elen Wyn Jones (Cymraeg, Cysylltiadau Cyhoeddus a’r Cyfryngau)
  • Emily Louise Evans (Cymraeg)
  • Alaw Grug Harries (y Gyfraith a Throseddeg)
  • Lois Medi Williams (Nyrsio Oedolion)
  • Stuart Michael John Denman (Nyrsio Oedolion)

Meddai Rheolwr Marchnata’r Coleg Cymraeg, Elin Williams: “Mae cyfraniad ein llysgenhadon i ledaenu’r neges am fywyd myfyrwyr Cymraeg yn ein prifysgolion a manteision addysg cyfrwng Cymraeg yn hynod bwysig. Yn sgil y pandemig Covid-19, mae hyrwyddo ar wefannau cymdeithasol a thrwy bodlediadau wedi dod yn fwyfwy pwysig. Edrychwn ymlaen i gydweithio gyda chriw brwdfrydig o fyfyrwyr o brifysgolion Cymru unwaith eto eleni.”

Gellir gwrando ar bodlediadau Sŵn y Stiwdants ar Spotify, lle mae myfyrwyr Cymraeg yn rhannu eu profiadau o fywyd prifysgol yng nghanol pandemig a chyrsiau, neu’n cynnal sgyrsiau ysgafn ac yn rhoi’r byd yn ei le! Yn ogystal, mae modd dilyn eu hanturiaethau a gweld lluniau’r unigolion ar wefan y Coleg Cymraeg ac ar dudalennau InstagramTwitter ‘Dy Ddyfodol Di’ a thudalennau Facebook a YouTube y ‘Coleg Cymraeg’.

Rhannu'r stori