Mae'r British Council wedi enwi Dr Daniel Bassey, un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe, ar restr fer un o wobrau Study UK i gyn-fyfyrwyr ar gyfer 2021.
Mae'r gwobrau hyn yn uchel eu bri am anrhydeddu unigolion sy'n flaenllaw yn eu meysydd ac sydd wedi defnyddio eu profiad o astudio mewn prifysgol yn y DU i gyfrannu'n gadarnhaol at eu cymunedau, eu diwydiannau a'u gwledydd.
Mae Dr Bassey wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Cyflawniad Proffesiynol, sy'n cydnabod cyn-fyfyrwyr yn y DU sydd wedi disgleirio drwy arweinyddiaeth a chyflawniadau rhagorol yn eu diwydiant proffesiynol, gan gael effaith ar eu proffesiwn a'r tu hwnt.
Ers cwblhau ei gwrs MSc mewn Iechyd Cyhoeddus a Hybu Iechyd yn 2013, mae Dr Bassey wedi mynd ati i atgyfnerthu systemau iechyd yn fyd-eang, gan helpu mewn argyfyngau dyngarol ac achosion o wrthdaro.
Yn ystod argyfwng Ebola rhwng 2014 a 2016, bu Dr Bassey yn rheolwr prosiect iechyd ac yn ddiweddarach gwnaeth gydweithio â chorff anllywodraethol lleol i ddarparu aelodau 3D wedi'u teilwra i gleifion y rhyfel yn Yemen a oedd wedi cael eu hesgeuluso. Yn ogystal, roedd Dr Bassey yn un o gyd-lywyddion IPPNW (International Physicians for the Prevention of Nuclear War), sefydliad sydd wedi ennill gwobr Nobel wrth ddadlau dros ddiddymu arfau niwclear.
Ynghylch ei brofiad o astudio yn y DU, meddai Dr Bassey: “Drwy fy astudiaethau, gwnes i feithrin safbwynt byd-eang a dysgu strategaethau rwyf wedi eu defnyddio drwy gydol fy ngyrfa.
“Rwy'n annog pobl i astudio yn y DU; ni chewch addysg well yn unman arall.”
Meddai'r Athro Judith Lamie, Dirprwy Is-ganghellor ym Mhrifysgol Abertawe: “Dyma gyflawniad eithriadol gan Dr Bassey, ac rydym yn dymuno pob lwc iddo yn y gwobrau terfynol.
“Rydym yn anhygoel o falch o waith Dr Bassey ac rydym wrth ein boddau bod y British Council wedi penderfynu ei gydnabod yng ngwobrau Study UK i gyn-fyfyrwyr.
“Mae'r ffaith bod Dr Bassey ar y rhestr fer yn dystiolaeth o'i waith caled ac ansawdd y graddau a gynigir ym Mhrifysgol Abertawe.
“Rydym yn gobeithio gweld ceisiadau gan lawer mwy o raddedigion yn y dyfodol.”
Ar hyn o bryd, mae'r British Council yn croesawu ceisiadau ar gyfer gwobrau eleni, ac mae'r categorïau'n cynnwys Gwyddoniaeth a Chynaliadwyedd, Busnes ac Arloesi, Creadigrwydd a Diwylliant, a Gweithredu Cymdeithasol.
Cyflwynwch gais am wobrau Study UK i gyn-fyfyrwyr 2021-22 cyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau, sef 29 Hydref 2021.