Mae pedwar uwch-arweinydd o brifysgol bartner Abertawe yn Wcráin yn ymweld â Chymru er mwyn helpu i gryfhau'r cydweithrediad rhwng y ddau sefydliad o ran ymchwil, addysgu a chreu cyfleoedd i fyfyrwyr.
Daw'r grŵp o Brifysgol Genedlaethol Petro Mohyla'r Môr Du (PMBSNU), yn rhanbarth Mykolaiv, dinas o bwys a chanddi borthladd ac oddeutu 470,000 o bobl yn ne Wcráin.
Lansiwyd cytundeb partneriaeth Prifysgol Abertawe â PMBSNU ym mis Tachwedd 2022. Mae eisoes wedi arwain at gyfleoedd i grwpiau o fyfyrwyr o PMBSNU dreulio semester yn astudio yn Abertawe.
Mae ymweliad y grŵp a'r bartneriaeth yn gyffredinol yn adlewyrchu datganiad yr Is-ganghellor, a gyhoeddwyd ar ddechrau'r ymosodiad gan luoedd Rwsia ym mis Chwefror 2022, sy'n tanlinellu bod y Brifysgol “yn cefnogi pobl Wcráin wrth amddiffyn eu sofraniaeth, eu hannibyniaeth a'u rhyddid democrataidd”.
Rhagor o wybodaeth am y bartneriaeth rhwng PMBSNU ac Abertawe
Myfyrwyr o PMBSNU yn cael eu croesawu i Abertawe
Yr ymwelwyr â Phrifysgol Abertawe o PMBSNU yw:
- Dr Alina Iovcheva, Athro Cysylltiol Hanes a Chydlynydd Rhaglen Efeillio PMBSNU
- Dr Olena Mitryasova - Athro Ecoleg a Chydlynydd Maes Ecoleg a Diogelwch Dŵr
- Dr Olga Yaremchuk - Cyfarwyddwr Athrofa Feddygol PMBSNU a Chydlynydd Maes Meddygaeth
- Dr Marharyta Lymar - Uwch-academydd yn yr Adran Cyfieithu Saesneg a Chydlynydd Astudiaethau Americanaidd.
Yn ystod eu hymweliad, bydd y grŵp yn cwrdd â'r Is-ganghellor a Chyngor y Brifysgol, ei chorff llywodraethu, ynghyd â'r tîm sy'n gyfrifol am ddatblygu partneriaethau rhyngwladol.
Byddant yn siarad am eu profiad o addysgu ar adeg rhyfel, mewn seminar ar 19 Gorffennaf. Yn ogystal, aethant i gynhadledd a gynhaliwyd gan Academi Dysgu ac Addysgu Abertawe. Maent hefyd yn cymryd rhan yn seremonïau graddio'r Brifysgol, gan fod y rhain yn cyd-fynd â'u hymweliad.
Yn ogystal â bod yn arweinwyr yn eu sefydliad, mae'r ymwelwyr hefyd yn arbenigwyr ymchwil yn eu meysydd eu hunain. Felly, maent hefyd yn cwrdd â'u swyddogion cyfatebol o Abertawe mewn meysydd megis ecoleg, hanes, y gyfraith, seiberddiogelwch a meddygaeth.
Mae PMBSNU yn sefydliad addysg uwch gwladol sy'n cael ei lywodraethu gan Weinyddiaeth Addysg a Gwyddoniaeth Wcráin. Gydag oddeutu 5,000 o fyfyrwyr, mae PMBSNU yn olrhain ei gwreiddiau i 1996 a daeth yn brifysgol genedlaethol yn 2016.
Mae ganddi gyfadrannau yn y gyfraith, y gwyddorau gwleidyddol, cyfrifiadureg, newyddiaduraeth, addysg gorfforol a chwaraeon, y gwyddorau economaidd ac ieitheg, ynghyd ag athrofeydd meddygaeth, addysg a gweinyddiaeth gyhoeddus. Mae'n defnyddio technolegau addysgol gorllewinol yn helaeth a'i hieithoedd gwaith yw Wcreineg a Saesneg.
Fel Abertawe, mae PMBSNU yn rhoi pwyslais cryf ar gysylltiadau rhyngwladol. Mae ganddi bartneriaethau eisoes â phrifysgolion yng Nghanada, Tsieina ac Unol Daleithiau America, ac ym mhob rhan o Ewrop, o Cadiz yn ne Sbaen i Bodo yng ngogledd Norwy. Mae PMBSNU hefyd yn cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o raglenni cyfnewid rhyngwladol, gan gynnwys ysgoloriaethau Erasmus a Fulbright, ac mae mwy na 200 o staff tramor wedi traddodi darlithoedd yn y brifysgol.
Dywedodd Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Paul Boyle:
"Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn falch o'n hymrwymiad parhaus i groesawu partneriaethau a chydweithio ar draws gwledydd, disgyblaethau a sectorau.
"Dyma gyfnod mor heriol i'n cydweithwyr ym Mhrifysgol Genedlaethol Petro Mohyla y Môr Du, ac rydym yn falch iawn o groesawu eu cynrychiolwyr i'n campws.
Roedd yr ymweliad yn gyfle i ni ddathlu ein partneriaeth barhaus, sy'n ategu cred ein sefydliadau ar y cyd bod cydweithio academaidd sy'n croesi ffiniau cenedlaethol yn hanfodol i'n dyfodol a rennir."