Mae Prifysgol Abertawe wedi llofnodi cytundeb gefeillio â phrifysgol o Wcráin sy'n paratoi'r ffordd ar gyfer partneriaethau ymchwil, rhannu deunyddiau dysgu ac addysgu ar-lein, a chyfleoedd i fyfyrwyr a staff o Wcráin ymweld ag Abertawe.
Mae'r cytundeb â Phrifysgol Genedlaethol Petro Mohyla'r Môr Du (PMBSNU) yn rhanbarth Mykolaiv, dinas fawr â phorthladd ac oddeutu 470,000 o bobl yn ne Wcráin.
Llofnodwyd y cytundeb gan benaethiaid y ddwy brifysgol mewn seremoni ar y cyd a gynhaliwyd ar yr un pryd yn Abertawe a Mykolaiv ddydd Iau 3 Tachwedd.
Dyma'r diweddaraf mewn cyfres o bartneriaethau rhwng prifysgolion yn y DU ac Wcráin a grëwyd gan gorff ambarél, Universities UK International, a'r Cormack Consultancy Group i gefnogi'r wlad yn sgîl yr ymosodiad ar ei thir gan luoedd Rwsia ym mis Chwefror.
Bwriad y partneriaethau hyn yw rhannu adnoddau a chefnogaeth mewn arwydd torfol o undod a dwyochredd i helpu sefydliadau, staff a myfyrwyr o Wcráin.
Yng Nghymru, cynigiodd Cymru Fyd-eang gyllid gwerth hyd at £15,000 fesul prifysgol i hwyluso mentrau cymorth academaidd gydag Wcráin. Y gobaith yw y bydd y rhain yn datblygu i fod yn bartneriaethau cydweithredol tymor hir rhwng y prifysgolion dan sylw.
Mae PMBSNU yn sefydliad addysg uwch cyhoeddus sy'n cael ei lywodraethu gan Weinyddiaeth Addysg a Gwyddoniaeth Wcráin. Mae gan PMBSNU oddeutu 5,000 o fyfyrwyr ac mae'n olrhain ei gwreiddiau i 1996. Daeth yn brifysgol genedlaethol yn 2016.
Mae ganddi gyfadrannau yn y gyfraith, y gwyddorau gwleidyddol, cyfrifiadureg, newyddiaduraeth, addysg gorfforol a chwaraeon, y gwyddorau economaidd a ffiloleg, ochr yn ochr â sefydliadau meddygaeth, addysg a gweinyddiaeth gyhoeddus. Mae'n defnyddio technolegau addysgol y gorllewin yn helaeth a'i hieithoedd gweithredol yw Wcreineg a Saesneg.
Yn yr un modd ag Abertawe, mae PMBSNU yn rhoi pwyslais cryf ar gysylltiadau rhyngwladol. Mae ganddi bartneriaethau eisoes â phrifysgolion yng Nghanada, Tsieina ac Unol Daleithiau America, ac ym mhob rhan o Ewrop, o Cadiz yn ne Sbaen i Bodo yng ngogledd Norwy. Mae PMBSNU hefyd yn cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o raglenni cyfnewid rhyngwladol, gan gynnwys ysgoloriaethau Erasmus a Fulbright, ac mae mwy na 200 o staff tramor wedi rhoi darlithoedd yn y brifysgol.
Mae'r cytundeb newydd yn femorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng y ddwy brifysgol. Mae'n amlinellu'r fframwaith cydweithredu, gan gynnwys partneriaethau ymchwil ac academaidd.
Y cam cyntaf fydd rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr a staff PMBSNU ymweld â Phrifysgol Abertawe i weithio ac astudio. Mae Abertawe wedi croesawu tri myfyriwr o PMBSNU yn ystod y semester hwn ac mae'n edrych ymlaen at groesawu rhagor ar gyfer semester y gwanwyn.
Yn ogystal, cymerodd staff o PMBSNU ran ar ffurf rithwir – drwy ffrydiau a sgyrsiau byw – yn y gynhadledd flynyddol a drefnwyd gan Academi Dysgu ac Addysgu Abertawe (SALT), sy'n rhan o Brifysgol Abertawe.
Meddai'r Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe:
“Ym Mhrifysgol Abertawe, rydyn ni'n falch o'n hymrwymiad parhaus i groesawu partneriaethau a mentrau cydweithredol rhwng gwledydd, disgyblaethau a sectorau.
Ar yr adeg hynod heriol hon i'n cydweithwyr ym Mhrifysgol Genedlaethol Petro Mohyla'r Môr Du, rydyn ni'n falch o ymrwymo i'r cytundeb hwn, sy'n uno Abertawe a Mykolaiv ac yn cefnogi cred gyffredin ein sefydliadau bod cydweithredu academaidd sy'n croesi ffiniau rhyngwladol yn hollbwysig i'n dyfodol cyffredin.”
Meddai'r Athro Leonid Klymenko, Pennaeth Prifysgol Genedlaethol Petro Mohyla'r Môr Du:
“Mae'n bwysig iawn i ni ein bod ni'n datblygu ein cysylltiadau a'n perthnasoedd rhyngwladol â phrifysgolion yn Ewrop, yn enwedig ym Mhrydain Fawr a Chymru, gan fod Prydain Fawr wedi bod ymhlith ein ffrindiau yn y rhyfel yn erbyn yr ymosodiad gan Rwsia. Byddwn ni'n parhau â'n cydweithrediad ac yn ei gynnal.
Yn Mykolaiv, mae wyth taflegryn ar gyfartaledd yn cael eu gollwng ar ein dinas bron pob nos a phob dydd. Ond rydyn ni'n parhau â'n gwaith a'n prosesau astudio. Yn y sefyllfa anodd hon, rydyn ni'n sefyll yn gryf.
Rydyn ni'n gobeithio yn y dyfodol y byddwn ni'n cael cyfle i ymweld â'ch prifysgol a byddwn ni'n croesawu eich dirprwyaeth i'n prifysgol. Bydd ein cydweithrediad o fudd cyffredin i ni.”
Meddai Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Llywodraeth Cymru:
“Mae Cymru'n gwneud popeth posib i gefnogi pobl Wcráin ar yr adeg anodd hon. Does dim ffiniau i addysg ac rwyf wrth fy modd i weld ein prifysgolion yng Nghymru'n estyn llaw cyfeillgarwch i'w cydweithwyr yn Wcráin.”
Mae Prifysgol Abertawe hefyd yn archwilio ffyrdd o gefnogi myfyrwyr ac aelodau staff o brifysgolion eraill yn Wcráin.
Mae aelodau staff yn Abertawe hefyd yn cymryd rhan mewn mentrau cymunedol i gefnogi Wcráin. Er enghraifft, Dr Dmitri Finkelshtein, Athro Cysylltiol Mathemateg, yw cadeirydd Sunflowers Wales, grŵp cymunedol nid-er-elw a drefnwyd gan wirfoddolwyr o Wcráin yng Nghymru i gefnogi Wcreiniaid y mae ymosodiad Rwsia wedi effeithio arnynt.
"Rydym yn sefyll ochr yn ochr â phobl Wcráin" - datganiad yr Is-ganghellor am Wcráin