Mae ymchwilwyr wrthi'n galw am ymagweddau newydd at leihau anghydraddoldebau gofal iechyd ar gyfer pobl awtistig pan fydd angen triniaeth feddygol arnynt ar ôl i ddiffygion difrifol ddod i'r amlwg yn y pasbortau iechyd a argymhellir gan NICE.
Mae pobl awtistig yn marw rhwng 16 a 30 o flynyddoedd yn gynt na’u cyfoedion nad ydynt yn awtistig a gallai gofal iechyd anhygyrch gyfrannu at hyn. Datblygwyd pasbortau iechyd fel y rhai hynny a ddyluniwyd gan y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol, er mwyn helpu pobl awtistig i gyfleu eu hanghenion i feddygon, nyrsys a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd eraill. A hwythau wedi'u hargymell yn arweiniad NICE, mae'r pasbortau hyn yn caniatáu i bobl restru eu manylion personol a'u hanes meddygol yn ogystal â nodi gwybodaeth am eu hanghenion cyfathrebu a synhwyraidd.
Mae tystiolaeth yn dangos bod offer tebyg - megis y rhaglenni hunanreoli ar gyfer asthma- yn helpu i leihau marwolaethau pan gânt eu defnyddio’n gywir.
Roedd ymchwilwyr yng Nghyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd Prifysgol Abertawe’n awyddus i fesur effeithiolrwydd Pasbortau Iechyd Awtistiaeth ac a yw'r isadeiledd sy'n gysylltiedig â nhw yn addas at y diben.
Ar gyfer eu hastudiaeth, gwnaeth y tîm ddadansoddi ymchwil flaenorol ynghylch pasbortau iechyd a gyhoeddwyd mewn cyfnodolion gwyddonol ledled y byd. Cyhoeddwyd eu canfyddiadau yn y cyfnodolyn ar-lein nodedig, PLOS ONE, ac maent yn cynnwys:
- Gwerthusiad o leoliadau gofal iechyd a fu'n defnyddio'r pasbortau a ddatgelodd ddiffyg gwybodaeth a hyfforddiant staff ym maes awtistiaeth;
- bod diffyg ymwybyddiaeth staff o arddulliau cyfathrebu awtistig a sut i addasu y modd y maent yn cyfathrebu yn aml yn rhwystr wrth ddarparu gofal teg;
- bod Pasbortau Iechyd Awtistiaeth yn amrywio nid yn unig o ran eu cynnwys, ond hefyd o ran yr isadeiledd sy'n gysylltiedig â hwy megis hyfforddiant staff a’u hatgoffa i'w defnyddio; ac,
- er bod llawer o bapurau'n nodi bod y pasbortau iechyd yn gwella gofal, er enghraifft drwy nodi eu bod yn cynyddu ymddiriedaeth neu'n gwella cyfathrebu, nid oedd yn glir sut yr oedd hyn i fod i ddigwydd a phrin oedd yr achosion lle mesurwyd safon gofal iechyd neu foddhad yn ei gylch i asesu a oeddent wedi gwella o gwbl. Oherwydd hyn ni allwn ddweud ar hyn o bryd fod Pasbortau Iechyd Awtistiaeth yn effeithiol.
Nododd Dr Aimee Grant, uwch-ddarlithydd iechyd cyhoeddus ym Mhrifysgol Abertawe: "Mae arweiniad NICE a pholisi'r DU yn argymell defnyddio Pasbortau Iechyd Awtistiaeth, gyda'r nod o leihau anghydraddoldebau iechyd y gwyddys amdanynt i bobl awtistig.
"Fodd bynnag, ar ei ffurf fwyaf sylfaenol, darn o bapur yw'r pasbort iechyd, ac os nad yw'r amgylchedd dan sylw yn pennu statws i'r darn hwnnw o bapur - megis y statws a roddir i basbort go iawn sy'n caniatáu i bobl groesi ffiniau rhwng gwledydd - ni all y darn hwnnw o bapur gyflawni dim byd.”
Dywed yr ymchwilwyr fod angen brys am ymyriadau newydd er mwyn gwella hygyrchedd ac ansawdd gofal iechyd i bobl awtistig er mwyn lleihau marwolaeth gynnar a gwella ansawdd bywyd.
Maent yn galw am ymyriadau a ddyluniwyd yn benodol i chwalu'r rhwystrau niferus a nodwyd ganddynt, gan gynnwys diffyg amser staff a'u diffyg gwybodaeth am awtistiaeth, gan gynnwys cyfathrebu awtistig.
Ychwanegodd prif arweinydd y prosiect, Dr Rebecca Ellis, cynorthwy-ydd ymchwil iechyd cyhoeddus ym Mhrifysgol Abertawe: “Dylai’r holl ymyriadau newydd i leihau anghydraddoldebau iechyd i bobl awtistig fod yn seiliedig ar dystiolaeth a dylent gael eu creu ar y cyd â'r gymuned awtistig a niwroamrywiol ehangach a chyda gweithwyr iechyd proffesiynol a fydd yn gyfrifol am eu rhoi nhw ar waith.
“Mae hefyd yn hanfodol eu bod yn derbyn cyllid digonol er mwyn osgoi'r symboleiddiaeth a welir gyda phasbortau iechyd awtistiaeth ac i greu newid ystyrlon.
Ar gyfer eu hastudiaeth, gweithiodd y tîm ymchwil gydag Autistic UK. Ychwanegodd Cyfarwyddwr ymchwil y sefydliad, Kathryn Williams: “Yn aml bydd oedolion awtistig yn gofyn am ein cyngor ynghylch sut i dderbyn gofal iechyd gwell a sut i gael Pasbortau Iechyd Awtistiaeth a argymhellir gan sefydliadau eraill.
“Nid oeddem yn hollol sicr eu bod yn effeithiol, ond serch hynny nid oedd gennym fynediad at dystiolaeth naill ai i gefnogi neu i wrthbrofi eu heffeithiolrwydd fel y nodir yng nghanllawiau NICE. Mae'r ymchwil hon yn darparu tystiolaeth mawr ei hangen a'r gobaith yw y bydd yn galluogi sefydliadau sy'n cefnogi pobl awtistig wrth ddarparu arweiniad a gwasanaethau cyfeirio gwell.
Rhagor o wybodaeth am sut y mae Prifysgol Abertawe’n helpu i wella gofal iechyd i bobl awtistig.