Bydd hanesydd o Brifysgol Abertawe'n gwneud cyfraniad allweddol at brosiect sydd am ddefnyddio arbenigedd yn y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol er mwyn helpu i gynnwys lleisiau cleifion mewn ymchwil ac ymarfer gofal iechyd.
Bydd Dr Michael Bresalier, o'r Adran Hanes, Treftadaeth a'r Clasuron, yn gweithio mewn partneriaeth ag academyddion ym Mhrydain a'r Eidal ar y prosiect rhyngddisgyblaethol chwe blynedd o hyd, y dyfarnwyd grant gwerth £2.8m iddo gan Ymddiriedolaeth Wellcome.
Mae EPIC (Anghyfiawnder Epistemig mewn Gofal Iechyd) yn bartneriaeth rhwng ymchwilwyr yn Abertawe, Bryste, Nottingham, Birmingham a phrifysgolion Ferrara a Bologna i astudio sut mae anghydraddoldebau o ran gwybodaeth am ofal iechyd yn effeithio ar brofiadau, lles a chanlyniadau iechyd.
Mae rhai cleifion wedi datgan bod eu tystiolaeth a'u safbwyntiau'n cael eu hanwybyddu, eu diystyru neu eu hesgusodi gan y proffesiwn gofal iechyd. Gellir nodi bod y profiadau hyn yn ‘anghyfiawnderau epistemig’ oherwydd eu bod, mewn rhai achosion, yn seiliedig ar ragfarn a gallant beryglu gofal cleifion a thanseilio hyder mewn staff a systemau gofal iechyd.
Bydd Dr Bresalier, arbenigwr yn hanes meddygaeth, yn arwain astudiaeth achos o ddatblygiad, gweithrediad ac effeithiau rhaglenni brechu ‘dethol’ yn erbyn twbercwlosis ar gyfer poblogaethau o fudwyr, mewnfudwyr a lleifafrifoedd ethnig sydd wedi dod i Brydain neu sydd wedi byw ym Mhrydain ers y 1960au.
Drwy gyfuniad o ymchwil i archifau, polisi a hanes llafar, bydd yr astudiaeth yn olrhain sut mae brechu dethol wedi cael ei lunio, ei ddeall a'i brofi gan ymarferwyr meddygol, darparwyr gwasanaethau brechu, a rhieni, plant a chymunedau sydd wedi mewnfudo/ mudo i rannau gwahanol o'r wlad, a beth oedd y canlyniadau.
Wrth ddatblygu safbwynt tymor hir am y ffyrdd y mae ansicrwydd ac anghyfiawnderau sy'n gysylltiedig â brechu dethol yn erbyn twbercwlosis wedi cael eu trin a’u trafod, nod yr astudiaeth yw gwella’r ddealltwriaeth o wreiddiau a natur ffenomenon ehangach petruster brechu ym Mhrydain.
Meddai: “Rwyf wrth fy modd i fod yn un o bartneriaid y prosiect rhyngddisgyblaethol hwn. Mae'n mynd â'm hymchwil i gyfeiriad newydd cyffrous. Mae'n fy ngalluogi i archwilio sut caiff polisïau brechu eu llunio ar lefelau amrywiol, syniadau a buddiannau pwy sy'n cael eu cynnwys neu eu heithrio, sut mae gwybodaeth feddygol yn cael ei rhannu ai peidio, profiadau pobl o frechiadau, ac ym mha ffyrdd gall anghydraddoldebau o ran gwybodaeth neu ddealltwriaeth feddygol effeithio ar gyfathrebu am adnoddau gofal iechyd a mynediad at yr adnoddau hyn.
“Mae anghyfiawnder epistemig yn fframwaith pwysig ar gyfer meithrin dealltwriaeth newydd o sut mae gwahaniaethau o ran gwybodaeth pobl am ymdrin ag iechyd neu afiechyd (gan gynnwys brechiadau), neu'r wybodaeth maen nhw'n ei chyfleu am y pwnc hwn, yn seiliedig ar resymau cymdeithasol a sut mae hyn yn dylanwadu ar benderfyniadau a chanlyniadau o ran gofal iechyd.
“Yn bwysicaf oll, yn fy marn i, mae'r fframwaith yn cynnig ffordd o fyfyrio ar natur bosib cyfiawnder mewn gofal iechyd a ffurfiau posib arno.
“Mae cydweithredu ag athronwyr, seiciatryddion, ysgolheigion cyfreithiol a gwyddonwyr cymdeithasol yn ffordd wych o ystyried sut gall safbwyntiau hanesyddol helpu i fynd i'r afael â phroblemau anghyfiawnder epistemig a gwneud gofal iechyd yn fwy teg.”