Mae myfyriwr sy'n gwirfoddoli gyda grŵp sgowtiaid lleol yn Abertawe wedi derbyn Gwobr Gymdogol am ei chyfraniad i'r gymuned, ar ôl cael ei henwebu gan arweinydd y sgowtiaid.
Mae Niamh Dorrington, sy'n astudio nyrsio ac yn byw yn Abertawe, yn gwirfoddoli fel arweinydd sgowtiaid gyda 32ain Grŵp Parc Teras Rhyddings Abertawe. Mae wedi bod yn gwneud hyn am y tair blynedd diwethaf, gan brofi ei bod yn arweinydd ac yn drefnydd rhagorol.
Y gwaith hwn, sydd o fudd i blant a phobl ifanc leol, wnaeth ysgogi arweinydd y sgwotiaid, Ben Ball, i enwebu Niamh am y wobr hon.
Cynhelir y cynllun gwobrwyo hwn gan dîm cymunedol y Brifysgol. Mae'r gwobrau ar gyfer myfyrwyr sy'n gwneud cyfraniad i'r gymuned leol neu'n dangos ymddygiad rhagorol fel cymdogion. Mae hyn yn cynnwys dod i adnabod cymdogion, bod yn ystyriol o sŵn yn ystod y dydd a'r nos, a gwaredu gwastraff yn gywir.
Gall preswylwyr lleol enwebu myfyrwyr ar gyfer y wobr.
Meddai Steph Standen, swyddog cyswllt cymunedol ym Mhrifysgol Abertawe: "Mae myfyrwyr Prifysgol Abertawe'n breswylwyr hefyd yn eu cymunedau lleol. Mae'r Brifysgol yn annog myfyrwyr i fod yn aelodau gwerthfawr o'r gymdeithas ac rydym am hyrwyddo cysylltiadau cymunedol cadarnhaol, sef gwaith penodol ein tîm Cymuned@BywydCampws.
"Gwnaeth ein tîm sefydlu'r Wobr Gymdogol i gydnabod a gwobrwyo myfyrwyr fel Niamh sy'n gwneud cyfraniad cadarnhaol i'n cymuned leol. Byddem yn dwlu cael mwy o enwebiadau gan breswylwyr lleol."
Meddai Niamh Dorrington: "Roedd hi'n fraint ac yn anrhydedd cael derbyn y wobr hon. Rwy'n ddiolchgar iawn fy mod wedi cael cydnabyddiaeth am fy ngwaith gyda'r sgowtiaid yn ogystal ag astudio a gweithio ar gyfer fy ngradd.
"Rwyf wir yn mwynhau gwirfoddoli fel arweinydd sgowtiaid ac mae hi'n werthfawr bod yn rhan o'r gymuned mewn rhywbeth nad yw'n ymwneud â'r brifysgol yn ogystal â rhai o gymdeithasau'r brifysgol. Diolch i Ben am fy enwebiad, mae'n hyfryd gwybod bod fy amser a'm gwaith yn cael eu gwerthfawrogi."
Mae tîm Cymuned@BywydCampws hwnt ac yma'n rheolaidd yn y gymuned leol yn delio â phroblemau ac yn helpu preswylwyr lleol a myfyrwyr oddi ar y campws fel ei gilydd. Yn aml byddan nhw'n ymuno â Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu ar eu hymweliadau cymunedol.
Sut i enwebu myfyrwyr ar gyfer Gwobr Gymdogol:
Ydych chi'n adnabod myfyriwr neu fyfyrwyr ystyrlon neu gymwynasgar sy'n byw yn eich cymuned? Gall hwn fod yn fyfyriwr unigol, yn dŷ o fyfyrwyr neu'n gymdeithas.
Rhowch wybod i ni fel y gallwn roi'r gydnabyddiaeth y mae nhw'n ei haeddu a chael rhodd gan y Brifysgol.
- Anfonwch neges e-bost atom: community.campuslife@abertawe.ac.uk a byddwn yn anfon dolen atoch i ffurflen fer i chi ei llenwi
- Neu gallwch ysgrifennu atom: Tîm Cymuned @BywydCampws, Adeilad Talbot, Prifysgol Abertawe SA2 8PP.