Mae'r gwyddonydd cymdeithasol blaenllaw o Brifysgol Abertawe Dr Lella Nouri a'i thîm wedi datblygu ap newydd sy'n chwyldroi'r ffordd y gall cymunedau olrhain ac adrodd am graffiti casineb gyda'r nod o ddeall tensiynau mewn cymuned a llunio rhaglenni ymyrraeth er mwyn rhoi diwedd ar y problemau.
Mae'r ap StreetSnap yn system adrodd gyntaf o'i bath, a bydd ar gael i'w ddefnyddio ar draws pob awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr cyn bo hir. Mae'r ap yn cael ei dreialu ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar hyn o bryd, ac fe'i crëwyd mewn partneriaeth â Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru a Chyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr, gyda chyllid drwy raglen partneriaeth SMART Llywodraeth Cymru, gan roi Cynllun Gweithredu Gwrth-Hiliaeth Llywodraeth Cymru ar waith.
Datblygwyd StreetSnap i'w ddefnyddio gan yr heddlu, gweithwyr ieuenctid, gweithwyr glanhau, staff y cyngor, swyddogion tai ac addysg. Gall defnyddwyr yr ap dynnu lluniau o graffiti casineb a rhoi gwybod amdano ar unwaith i'r awdurdodau perthnasol. Mae timau glanhau strydoedd yn cael eu hysbysu ar unwaith, a byddant yn dod draw i'r safle a chael gwared ar arwyddion casineb.
Mae swyddogion gwrthderfysgaeth yr heddlu hefyd yn cael y data, ochr yn ochr â gweithwyr ieuenctid a gwasanaethau cymdeithasol, er mwyn dadansoddi'r wybodaeth a chymryd y camau angenrheidiol. Gall ymyriadau gynnwys sesiynau addysg ieuenctid mewn ysgolion, grwpiau ieuenctid a chlybiau cymdeithasol, gyda'r nod o ddeall y cymhelliant sydd wrth wraidd y graffiti casineb ac annog y rhai sy'n ei greu i ystyried eu gweithredoedd yn fanylach.
Yn y tymor hir, y gobaith yw y bydd yr ymdrechion ymyrraeth hyn - ynghyd â chael gwared ar y graffiti yn effeithlon - yn arwain at roi diwedd ar droseddau casineb gweledol.
Meddai Dr Lella Nouri, Athro Cysylltiol Troseddeg ym Mhrifysgol Abertawe: "Nod StreetSnap yw mynd i'r afael â gwraidd tensiynau cymunedol: gallwn ddefnyddio graffiti i ddeall pa faterion a allai fod yn codi mewn cymunedau, a chan ei bod yn orfodol i lawer o gynghorau lleol gael gwared ar graffiti casineb ymhen 24 i 72 awr, roedd gennym ffocws clir ar lanhau'r strydoedd.
"Drwy'r treial hwn, rydym wedi canfod bod ymgysylltu â phobl ifanc ar bwnc graffiti yn aml yn datgelu eu diffyg ymwybyddiaeth o’i ystyr. Er enghraifft, ym Maesteg gwelsom sawl arwydd 'KKK' mewn graffiti ond pan ofynnwyd amdano, nid oedd llawer o bobl yn gwybod arwyddocâd yr arwydd, ac roeddent dim ond yn ei ystyried yn beth negyddol, atgas i'w dagio. Heb StreetSnap, efallai na fyddem erioed wedi cael y sgyrsiau hyn, ac ni fyddai modd i ni ymchwilio'n ddyfnach i ddatgelu'r gwir fwriad wrth wraidd y graffiti."
Mae Matthew Rowlands, Gweithiwr Prosiect Ieuenctid a Chymuned ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn esbonio diben yr ap yn y gymuned. Meddai: "Fel gweithwyr ieuenctid ar y strydoedd, rydym yn gweld achosion o graffiti ar draws y fwrdeistref sirol. Byddai datblygu ap StreetSnap yn hynod ddefnyddiol i ni greu delweddau o'r graffiti a'u lanlwytho er mwyn cael ymateb cyflym ar gyfer ei waredu a lleihau'r tramgwydd i'r cyhoedd yn sgîl hynny. Bydd yr ap hefyd yn ein helpu i ddeall rhai o'r problemau posibl sydd mewn ardaloedd a chymunedau penodol, gan ein galluogi i ddatblygu ymatebion a gwaith ymgysylltu i weithio'n effeithiol gyda phobl ifanc."
Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw offeryn presennol sydd ar gael ymysg yr heddlu nac mewn mannau eraill i gofnodi, monitro a defnyddio data sy'n gysylltiedig â delweddau casineb yn y gymuned, naill ai'n genedlaethol neu'n fyd-eang.
Meddai'r Arolygydd Richard Gardiner o Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Heddlu De Cymru: "Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Phrifysgol Abertawe, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Llywodraeth Cymru ar y prosiect newydd cyffrous hwn ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Bydd y fenter yn sicrhau ein bod yn glanhau ac yn cael gwared ar graffiti casineb hyll a niweidiol, a hefyd bydd yn ein galluogi i gofnodi a dogfennu beth a ble mae'r problemau hyn i'n cynorthwyo i atal y problemau hyn yn ein cymunedau.
"Mae'r dechnoleg hon yn rhoi cyfle i swyddogion lleol ein Partneriaeth Plismona Bro a Diogelwch Cymunedol dargedu ein hymdrechion gorfodi ac ymgysylltu."
Meddai'r Athro Ryan Murphy, Deon Gweithredol a Dirprwy Is-ganghellor Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe: "Mae StreetSnap yn enghraifft o'r ymdrechion ym Mhrifysgol Abertawe i sicrhau bod ein hymchwil yn cael effaith amser real yn y byd go iawn ar y gymdeithas. Mae Dr Nouri yn haeddu'r holl anrhydeddau sydd ar y gweill am ei hymdrechion diflino i gefnogi gwydnwch cymunedau i gasineb."
Bydd StreetSnap ar gael i'w ddefnyddio mewn awdurdodau lleol ledled Cymru a Lloegr o fis Ionawr 2024.