Gan ddefnyddio data olrhain, mae astudiaeth newydd wedi datgelu, am y tro cyntaf, fod môr-grwbanod gwalchbig yn bwydo ar safleoedd rîff sy’n llawer dyfnach nag y credid o’r blaen.
Mae môr-grwbanod gwalchbig, rhywogaeth sydd mewn perygl difrifol, i’w gweld ym mhob cefnfor a dyma’r math mwyaf trofannol o grwbanod môr. Ystyriwyd ers amser hir bod môr-grwbanod gwalchbig llawn dwf yn gysylltiedig â moroedd bas (llai na 15 medr o ddyfnder) lle mae riffiau cwrel yn ffynnu.
Mae môr-grwbanod gwalchbig ifanc yn drifftio mewn cerrynt yn ystod cam dŵr agored eu datblygiad, cyn iddynt symud i gynefinoedd gwely’r môr. Gellir gweld môr-grwbanod gwalchbig fel arfer yn porthi mewn riffiau cwrel lle maent yn bwyta sbyngau yn bennaf.
I astudio eu harferion bwyta mewn mwy o fanylder, defnyddiodd ymchwilwyr ym mhrifysgolion Abertawe, Florida a Deakin dagiau lloeren GPS â lefel uchel o gywirdeb i ddilyn 22 o fôr-grwbanod gwalchbig benywaidd llawn dwf o’u safle nythu ar Diego Garcia yn archipelago Chagos yng Nghefnfor yr India i’w tiroedd porthi.
Esboniodd Dr Nicole Esteban, Athro Cysylltiol Bioleg y Môr ym Mhrifysgol Abertawe, y canfyddiadau o’r data olrhain: “Roedden ni wedi rhagfynegi y byddai’r môr-grwbanod gwalchbig a oedd yn cael eu holrhain yn ein hastudiaeth, yn mudo fwy na thebyg i’r riffiau cwrel bas o gwmpas saith atol archipelago Chagos. Mae llawer o astudiaethau wedi dangos natur ddilychwyn y riffiau hyn, ac rydyn ni wedi gweld môr-grwbanod gwalchbig yn porthi yno mewn cynefinoedd rîff yn aml o’r blaen.
“Ond er syndod i ni, mudodd yr holl fôr-grwbanod i gefnennau dwfn, pell, a riffiau tanfor yn yr achipelago, gan aros ar y safleoedd dwfn hyn am fwy na 6,000 o ddiwrnodau o olrhain gyda’i gilydd. Drwy edrych ar fapiau’r môr ar gyfer lleoliadau’r môr-grwbanod, roedden ni’n gallu gweld bod y cynefin porthi fwy na 30 medr o dan y dŵr.
“Dangosodd dros 183,000 o fesuriadau dyfnder a gymerwyd o’r tagiau hyn ar dri môr-grwban fod dyfnderoedd cyfartalog rhwng 35 a 40 medr. Roedd y môr-grwbanod yn plymio i ddyfnderoedd rhwng 30 a 60 metr bob tro, sy’n llawer dyfnach nag roeddwn ni’n disgwyl.”
Cred yr ymchwilwyr y gall yr ecosystemau mesoffotig hyn gynnal bioamrywiaeth ddyfnforol gyfoethog, gan gynnwys sbyngau. Mae’n hysbys bod fflydoedd pysgota yng Nghefnfor Gorllewinol yr India yn targedu cefnennau tanfor megis Traethell Saya de Malha, sy’n awgrymu helaethrwydd mawr.
Ychwanegodd Dr Esteban: “Mae canfyddiadau ein hastudiaeth yn amlygu bod cefnennau tanfor a dyfnderau mesoffotig yn diroedd porthi pwysig i anifeiliaid morol sydd mewn perygl difrifol, fel môr-grwbanod, a gallant gynnal amrywiaeth gyfoethog o fywyd morol. Er bod y riffiau mesoffotig a ddefnyddir at ddiben porthi gan y môr-grwbanod yn ein hastudiaeth ni o fewn un o ardaloedd morol gwarchodedig mwyaf y byd, lle maen nhw’n cael eu gwarchod rhag pysgotwyr diwydiannol, rydyn ni’n darparu tystiolaeth i amlygu pwysigrwydd cynllunio cadwraeth ar gyfer ecosystemau mesoffotig yn y rhanbarth.
Dylai’r cefnennau tanforol hyn yn archipelago Chagos, ac eraill leded y byd mwy na thebyg, fod yn ardaloedd pwysig i ganolbwyntio ymdrechion cadwraeth. Gall gwydnwch ecosystemau morol, a bywydau popeth sy’n byw ynddyn nhw, ddibynnu ar iechyd y cynefinoedd dyfnach anhysbys hyn, yn enwedig yn wyneb newid yn yr hinsawdd.”