Dwylo merched yn gwnïo darnau o gwilt wedi'u gwneud o ddillad babanod

Mamau'n gweithio ar y cwiltiau yn y gweithdai cymunedol a gynhaliwyd gan yr ymchwilwyr.

Mae prosiect unigryw dan arweiniad Prifysgol Abertawe'n cofnodi ac yn rhannu teimladau cymhleth mamau newydd am fwydo eu babanod.

Mae profiadau amrywiol y mamau a gymerodd ran bellach wedi cael eu cofnodi ac maent yn rhan annatod o'r prosiect Cwiltiau Euogrwydd Mamol dan arweiniad Dr Sophia Komninou, darlithydd maeth iechyd y cyhoedd yn yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol. 

Yn ystod y prosiect, gwnaeth 12 o famau babanod ifanc o bob cwr o Gymru ddisgrifio eu hemosiynau ynghylch bwydo. Yna anfonwyd y disgrifiadau hyn i'r tîm ymchwil, ochr yn ochr â darnau o ddillad eu babanod a gafodd eu gwnïo ynghyd i greu cwilt rhyngweithiol arbennig. 

Drwy wasgu synwyryddion digidol wedi'u gwasgaru ar draws y cwilt, gall gwrandawyr glywed atgofion agored cyfranogwyr mewn clipiau sain byr. Mae'r rhain yn amrywio o lawenydd rhai ohonynt o ganlyniad i'r profiad o feithrin agosrwydd, i rai eraill a gyfaddefodd y bu eu profiadau'n fwy heriol. 

I un fam, roedd bwydo ar y fron yn ffordd dda o gysuro ei baban. “Mae'n wych gallu gwneud hynny. Mae'n ymwneud â gallu dweud, ‘Mae'n iawn, rwyf yma. Rwyt ti'n ddiogel nawr, rwyt ti'n iawn. Mae Mami yma.’” 

Fodd bynnag, datgelodd mam baban a anwyd yn gynnar fod bwydo ar y fron wedi bod yn brofiad poenus iddi hi: “Roeddwn i bob amser yn teimlo'n euog am hynny. Doeddwn i ddim eisiau gadael i'm baban lwgu, na siomi eraill a'u disgwyliadau ohono i. Fydda i byth yn anghofio'r poen hwnnw.”  

Mewn clip arall, meddai menyw sy'n cyfaddef ei bod yn teimlo euogrwydd mawr ar ôl gorfod rhoi'r gorau i fwydo ar y fron am resymau iechyd: “Roeddwn i'n teimlo fel pe bawn i wedi methu'r peth cyntaf gallwn i ei wneud i'm merch a minnau'n fam. Hyd yn oed nawr a hithau'n bedwar mis oed, rwy'n dal i deimlo'n euog dros ben am beidio â gallu gwneud y peth.” 

Dywedodd Dr Komninou nad yw'r teimladau hyn yn anarferol o bell ffordd: “Waeth beth am sut mae mamau yn bwydo eu babanod, mae ein hymchwil flaenorol yn dangos bod ganddyn nhw i gyd deimladau o euogrwydd. Naill ai am beidio â gwneud digon i'w plentyn, am beidio â mwynhau bwydo ar y fron cymaint ag y ‘dylen nhw’, yn eu barn eu hunain, neu am fod bwydo ar y fron wedi tynnu sylw oddi ar eu partneriaid neu eu plant eraill.

“Rhoddodd y prosiect hwn gyfle i famau siarad yn fwy agored am eu teimladau.” 

Ar y prosiect cwiltiau, mae Dr Komninou yn cydweithredu â Dr Angelika Strohmayer, athro cynorthwyol yn Ysgol Dylunio Prifysgol Northumbria, yn ogystal â Dr Gillian McFadyen, darlithydd gwleidyddiaeth ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth. 

Ychwanegodd Dr McFadyen, sy'n ymchwilio i'r defnydd o frodwaith gwleidyddol fel dull o wrthsefyll, cofio, ymgyrchu ac adrodd straeon: “Mae'r prosiect hwn yn unigryw oherwydd ei fod yn wahanol i'r rhan fwyaf o'r llenyddiaeth am fwydo ar y fron sy'n tueddu i ganolbwyntio ar emosiynau cadarnhaol ynghylch meithrin agosrwydd, ac mae'n cynnig lle i ymhelaethu ar leisiau mamau a'u hamrywiaeth o brofiadau o fwydo.” 

Mae'r prosiect hwn hefyd wedi defnyddio'r traddodiad cwiltio cymunedol Cymreig drwy gynnal gweithdai cymunedol yn Aberystwyth ac Abertawe a roddodd y cyfle i famau lleol siarad am fod yn fam ac am eu profiadau o fwydo babanod wrth wnïo'r cwilt. 

Mae diddordebau Dr Strohmayer mewn ymarfer crefftwaith a chrefft â chymorth digidol wrth wraidd y prosiect. Meddai: “Yn y cwilt, rydyn ni'n ymgorffori nifer o droellau wedi'u cwiltio, motiff cyffredin iawn yn y traddodiad cwiltio Cymreig, sydd hefyd yn drosiad am emosiynau troellog mamau.” 

Cafodd y prosiect ei ariannu gan Grwsibl Cymru, y rhaglen datblygiad personol, proffesiynol ac arweinyddiaeth arobryn ar gyfer arweinwyr ymchwil y dyfodol yng Nghymru, lle cyfarfu Dr Komninou a Dr McFadyen â'i gilydd y tro cyntaf.

Gwnaeth mamau a gymerodd ran yn y gweithdai cwiltio gyfeirio'n gyson at y problemau sy'n deillio o'r pwysau ar wasanaethau mamolaeth a phrinder staff yn y GIG. Mae hyn yn adleisio'r bennod ddiweddar yng nghyfres deledu Panorama ar y BBC a drafododd y pwysau ar fydwragedd a'r argyfwng staffio sy'n wynebu rhai gwasanaethau mamolaeth. 

Dywedodd Dr Komninou y bydd y tîm yn cyflwyno cais yn ystod cam nesaf y prosiect am gyllid er mwyn canolbwyntio ar wella'r ffordd y mae ymarferwyr iechyd proffesiynol a darparwyr gofal mamol a bwydo yng Nghymru yn cyfathrebu ac yn rhannu syniadau â'i gilydd. 

Ychwanegodd: “Hoffen ni i'r cwilt gychwyn sgyrsiau mewn lleoliadau gwahanol a chynnig rhywbeth i dadau ac ymarferwyr gofal iechyd proffesiynol, yn ogystal â mamau eraill.”

 

Rhannu'r stori