Mae'r Academy of Social Sciences wedi croesawu 41 o wyddonwyr cymdeithasol blaenllaw i'w chymrodoriaeth uchel ei bri – gan gynnwys yr Athro Stuart Macdonald o Brifysgol Abertawe.
Mae cymrodoriaeth yr Academi yn cynnwys mwy na 1,500 o wyddonwyr blaenllaw o'r byd academaidd, y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector. Gan feddu ar arbenigedd sy'n cynnwys ehangder y gwyddorau cymdeithasol, mae ei gwaith yn helpu i fynd i'r afael â rhai o'r heriau mawr sy'n wynebu ein cymdeithas a'r byd.
Caiff cymrodyr eu dethol drwy adolygiad annibynnol a chadarn gan gymheiriaid Pwyllgor Enwebiadau'r Academi a'u cydnabod am y cyfraniadau sylweddol a wnaed ganddynt i fyd diwydiant, polisi ac addysg uwch.
Mae Stuart Macdonald yn Athro yn y Gyfraith yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton; ei ddiddordebau ymchwil yw cyfraith trosedd a gwrthderfysgaeth, ac yn benodol seiberderfysgaeth a defnydd terfysgwyr o’r rhyngrwyd.
Ef yw Cyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil i Seiberfygythiadau, sydd wedi cael ei defnyddio wrth hyfforddi swyddogion gorfodi'r gyfraith ac er mwyn llywio cyfraith a pholisi, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae ei chanfyddiadau wedi cael eu cyflwyno ledled y byd i sefydliadau, gan gynnwys Swyddfa Gartref y DU, Adran Wladol yr Unol Daleithiau, Europol, a chyrsiau hyfforddiant uwch NATO.
Yr Athro Macdonald hefyd yw prif drefnydd y Gynhadledd Terfysgaeth a Chyfryngau Cymdeithasol (TASM) a gynhelir bob dwy flynedd, gan helpu i ddod ag ymchwilwyr, llunwyr polisi ac ymarferwyr ynghyd o nifer o wledydd a chefndiroedd disgyblaethol gwahanol.
Ar ben hynny, ef yw Cydlynydd rhwydwaith byd-eang VOX-Pol, sy'n darparu ymchwil, gwaith dadansoddi, trafodaethau a beirniadaeth cynhwysfawr ynghylch y materion sy'n deillio o eithafiaeth a therfysgaeth ar-lein ac ymatebion iddynt.
Yn 2016, derbyniodd Ddyfarniad Seiberddiogelwch Fulbright ac mae'n dal nifer o swyddi uchel eu bri, gan gynnwys Uwch-gymrawd Canolfan Hedayah ar gyfer Gwrthsefyll Eithafiaeth Dreisgar.
Wrth dderbyn y dyfarniad gan yr Academi, meddai'r Athro Macdonald: “Hoffwn i ddiolch i'r Academy of Social Sciences am y dyfarniad hwn ac rwy'n edrych ymlaen at gyfrannu at genhadaeth yr Academi i hyrwyddo'r gwyddorau cymdeithasol yn y DU er budd y cyhoedd.”
Meddai Will Hutton, Llywydd yr Academi: “Ar adeg pan na ellir gorbwysleisio pwysigrwydd y gwyddorau cymdeithasol i lawer o faterion difrifol, mae'n bleser croesawu'r 41 o wyddonwyr cymdeithasol blaenllaw hyn i gymrodoriaeth yr Academi. Mae eu cyfraniadau wedi atgyfnerthu ein dealltwriaeth wrth fynd i'r afael ag amrywiaeth eang o heriau cymdeithasol, gan gynnwys lliniaru anghydraddoldebau economaidd ac o ran iechyd, deall achosion ac effeithiau troseddu, datblygu ymarferion cynhwysol ym maes addysg, a dyfodol dinasoedd. Rydyn ni'n edrych ymlaen at weithio gyda nhw i hyrwyddo ymhellach gyfraniad hollbwysig y gwyddorau cymdeithasol at holl feysydd ein bywydau.”
Gellir gweld rhestr gyflawn o'r cymrodyr newydd, yn ogystal â'u sefydliadau a'u meysydd ymchwil, yma.