Mae arbenigwr o Brifysgol Abertawe wedi cael ei benodi'n Gadeirydd Annibynnol newydd Panel Cynghori ar Aer Glân Llywodraeth Cymru gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters AS.
Mae Paul Lewis, Athro Emeritws yn Ysgol Feddygaeth Abertawe, yn docsicolegydd genetig sy'n arbenigo mewn asesu effeithiau llygredd aer ar iechyd.
Mae wedi bod yn aelod o Banel Cynghori ar Lygredd Aer Llywodraeth Cymru ers 2020, ac mae'n cadeirio is-grwpiau ar dargedau o ran llygryddion ac effeithiau ar iechyd, gan arwain adroddiad y panel am ‘Effeithiau pandemig Covid-19 ar ansawdd aer yng Nghymru’.
Mae'n aelod o Banel Adolygu Annibynnol Cyfarwyddyd Ansawdd Aer Llywodraeth Cymru ac yn rhan o Grŵp Trawsbleidiol Senedd Cymru – Deddf Aer Glân i Gymru.
Ef hefyd yw Hyrwyddwr Rhanbarthol Rhaglen Aer Glân Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI) ar gyfer Cymru, gan ategu ymdrechion i gynyddu ymwybyddiaeth o ansawdd aer gwael drwy ymgysylltu â'r byd academaidd, byd diwydiant, llywodraeth leol, maes gofal iechyd, y sector addysg a sefydliadau yn y trydydd sector.
Am ei rôl newydd, meddai'r Athro Lewis: “Mae'n bleser gen i gael fy mhenodi’n Gadeirydd newydd Panel Cynghori ar Aer Glân Llywodraeth Cymru. Mae'r Panel wedi gweithio'n galed dros y pedair blynedd diwethaf i helpu gweinidogion a swyddogion y llywodraeth i gyflwyno Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) yn ddiweddar. Rwyf bellach yn edrych ymlaen at y cam nesaf drwy arwain y Panel wrth ddarparu cyngor a thystiolaeth arbenigol a all wella iechyd a lles pobl ledled Cymru a diogelu ein bioamrywiaeth rhag effeithiau llygredd aer.”
Mae strategaeth genedlaethol bresennol Llywodraeth Cymru ar ansawdd aer, Cynllun Aer Glân i Gymru: Awyr Iach, Cymru Iach, a gyhoeddwyd yn 2020, yn nodi camau gweithredu pellgyrhaeddol i wella ansawdd aer yng Nghymru.
Mae'r Panel Cynghori ar Aer Glân yn rhoi cyngor ac argymhellion sy'n seiliedig ar dystiolaeth i Lywodraeth Cymru ar faterion sy’n ymwneud ag ansawdd aer, gan helpu i danategu’r penderfyniadau a wneir gan weinidogion Cymru.
Mae'n llywio dealltwriaeth Llywodraeth Cymru o lygredd aer ac yn helpu i ddatblygu polisïau i wella ansawdd aer.
Mae aelodau'r Panel yn cynnwys llunwyr polisi amlddisgyblaethol, academyddion ac ymarferwyr ym meysydd ansawdd aer ac iechyd y cyhoedd.