Bydd arweinwyr prifysgolion o wledydd ym mhob rhan o Ewrop yn dod ynghyd yn Abertawe o 11 tan 12 Ebrill am gynhadledd flynyddol Cymdeithas Prifysgolion Ewrop.
Bydd Prifysgol Abertawe'n cynnal y digwyddiad, lle bydd oddeutu 300 o gynrychiolwyr yn trafod yr heriau sy'n wynebu'r sector yn eu cenhedloedd penodol ac yn Ewrop yn gyffredinol.
Mae Cymdeithas Prifysgolion Ewrop (EUA) yn cynrychioli mwy nag 870 o brifysgolion a chynadleddau penaethiaid cenedlaethol mewn 49 o wledydd Ewropeaidd. Mae'r Gymdeithas yn dylanwadu ar bolisïau'r Undeb Ewropeaidd (UE) ar addysg uwch, ymchwil ac arloesi. Drwy ryngweithio'n barhaus ag amrywiaeth o sefydliadau Ewropeaidd a rhyngwladol, mae'r EUA yn sicrhau bod llais annibynnol prifysgolion Ewropeaidd yn cael ei glywed.
Yr Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Abertawe, yw Is-lywydd yr EUA.
Thema'r gynhadledd eleni yn Abertawe fydd “uniondeb mewn cyfnod o newid”. Bydd y digwyddiad yn archwilio ac yn arddangos gallu prifysgolion i ymdrin â newid a helpu i drawsnewid cymdeithas wrth aros yn driw i'w cymeriad, eu gwerthoedd a'u cenadaethau craidd.
Trafodir y thema hon o safbwyntiau amrywiol: uniondeb addysgu, uniondeb mewn cydweithredu rhyngwladol, moeseg ac uniondeb ymchwil, ac uniondeb wrth arwain prifysgolion. Bydd sesiynau'r gynhadledd yn annog myfyrdod manwl ar sut gall prifysgolion gydbwyso uniondeb a newid er eu budd eu hunain a budd cymdeithas.
Caiff y gynhadledd, a gynhelir ar Gampws y Bae, ei chefnogi gan dîm digwyddiadau'r Brifysgol, gan weithio gyda chydweithwyr o'r EUA. Bydd y rhaglen yn cynnwys cinio mawreddog yn Arena Abertawe.
Cynhadledd EUA yn Abertawe - mwy o wybodaeth
Meddai'r Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe:
“Mae hi'n fraint cynnal cynhadledd flynyddol Cymdeithas Prifysgolion Ewrop ym Mhrifysgol Abertawe eleni. Bydd y gynhadledd yn dod ag arweinwyr prifysgolion ynghyd o bob rhan o Ewrop i drafod materion pwysicaf ein sector a'n cymdeithas. Mae'n gyfrwng pwysig ar gyfer cydweithredu a sefydlu partneriaethau rhwng sefydliadau, ac mae'n galluogi ein sector yn Ewrop i ddod ynghyd mewn modd pwrpasol ar draws ffiniau cenedlaethol.
Dyma'r tro cyntaf i'r EUA gynnal ei chynhadledd flynyddol yng Nghymru, a dyma'r trydydd tro yn unig ers ei sefydlu iddi gael ei chynnal yn y DU. Ar ôl i'r DU ddod yn aelod cysylltiol o Horizon Ewrop yn ddiweddar, mae hyn yn tanategu ein hymrwymiad i gydweithredu â'n partneriaid yn Ewrop, er mwyn mwyafu'r effaith a'r cyfleoedd i bawb.
Mae tîm digwyddiadau ein Prifysgol wedi cydweithredu â chydweithwyr o'r EUA wrth baratoi ar gyfer y gynhadledd, ac rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at groesawu arweinwyr prifysgolion o bob rhan o Ewrop i'n rhanbarth, ac at rannu harddwch unigryw Cymru â nhw.”