Ar y chwith: Feirws yn glynu wrth arwyneb cell gan ddefnyddio derbynyddion amryfal. Ar y dde: Macro-foleciwl yn dynwared derbynyddion arwyneb cell, gan atal y feirws yn gyfan gwbl.

Ar y chwith: Feirws yn glynu wrth arwyneb cell gan ddefnyddio derbynyddion amryfal. Ar y dde: Macro-foleciwl yn dynwared derbynyddion arwyneb cell, gan atal y feirws yn gyfan gwbl. 

Mae Prifysgol Abertawe'n bartner mewn cydweithrediad rhyngwladol newydd i ddatblygu ffyrdd gwell o atal ffliw pandemig a diogelu iechyd byd-eang. 

Dyfarnodd Sefydliad Novo Nordisk gyllid gwerth €1.8m i'r prosiect ‘Precision Glycol-oligomers as Heteromultivalent Pandemic influenza Virus Blockers’ er mwyn cefnogi gwaith i ddatblygu atalyddion feirws ffliw A pandemig.

Mae'r prosiect 3 blynedd yn gonsortiwm rhyngddisgyblaethol dan arweiniad Freie Universität Berlin ac mae hefyd yn cynnwys Prifysgol Aarhus a Choleg Imperial Llundain.

Dr Sumati Bhatia o Adran Gemeg Prifysgol Abertawe fydd yn arwain y rhan o'r prosiect sy'n canolbwyntio ar wneud sylweddau i atal feirws ffliw A. Mae gwaith Dr Bhatia wedi cynnwys datblygu dyluniadau ar gyfer sylweddau sy'n perfformio'n dda wrth dargedu feirws ffliw A a'i atal. Yn ddiweddar cyhoeddwyd ei gwaith yn Nano Letters ac mae’n amlygu ffordd newydd o dargedu dau gam yn y broses heintio, sef dull rhwymo'r feirws a’r modd y caiff ei ryddhau, sy'n lleihau'n sylweddol broses heintio’r feirws.

Gan fod proses heintio feirws ffliw A yn dechrau wrth i’r feirws lynu wrth gelloedd gan ddefnyddio proteinau penodol, nod y prosiect hwn yw creu moleciwlau sy'n dynwared arwynebau'r celloedd hyn, gan dwyllo'r feirws a'i atal rhag heintio.  Os bydd hyn yn llwyddiannus, gallai arwain at ffordd newydd o fynd i'r afael â mathau ffliw pandemig.

Dywedodd Dr Bhatia: "Mae'r prosiect hwn yn dod ag arbenigwyr mewn gwahanol feysydd ynghyd megis dylunio a phrofi moleciwlau a deall sut mae'r feirws yn gweithio. Drwy'n hymchwil, rydym yn archwilio ymagweddau newydd at atal y ffliw drwy dargedu camau allweddol yng nghylch bywyd y feirws. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn arwain at gyffuriau newydd sy'n gallu ymladd y ffliw ac er mwyn i ni ymbaratoi ar gyfer pandemigau yn y dyfodol."

Rhannu'r stori